Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 21 Mawrth 2018.
Yn sicr. Rwy'n hapus iawn i roi'r ymrwymiad hwnnw i'r Aelod dros Gaerffili y prynhawn yma. Ond hefyd, rwyf eisiau i'n holl gymunedau yn y Cymoedd fod yn rhan o'r gwaith o gynllunio sut y bydd y parc tirlun hwnnw neu'r parc rhanbarthol hwnnw'n edrych. Byddwn yn cynnal nifer o seminarau yn y gwanwyn, drwy gydol y gwanwyn, er mwyn edrych ar sut y gallwn ddatblygu'r cysyniad, a gwireddu'r cysyniad hwnnw. Gwn fod yr Aelod dros Gaerffili wedi bod yn weithgar iawn wrth gynnig ei weledigaeth ar gyfer y cysyniad hwnnw, ac rwy'n ddiolchgar iddo am y pwyntiau y mae wedi'u gwneud i mi, ac am y gwahoddiadau a roddodd i mi fynd i weld prosiectau yn etholaeth Caerffili. Rwy'n ddiolchgar iawn iddo hefyd am amlinellu ei uchelgeisiau ar gyfer y parc tirlun, ac rwy'n rhoi fy ngair i'r Aelod, yn sicr, fod yr holl faterion hynny'n arwain ac yn siapio ein ffordd o feddwl.