Adroddiad y Comisiwn Hapchwarae

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:15, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiwn. Rydym yn parhau i weld gamblo cymhellol yn dod i'r amlwg fel problem iechyd cyhoeddus ac mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â hi. Rydym yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gryf i roi camau ar waith, ymwrthod â'r pwysau gan y diwydiant, a lleihau'n sylweddol y swm mwyaf y gall rhywun ei fetio ar beiriannau hapchwarae categori B2, sy'n cynnwys peiriannau betio ods sefydlog, wrth gwrs.