3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 21 Mawrth 2018.
1. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am oblygiadau adroddiad y Comisiwn Hapchwarae ar hapchwarae yng Nghymru? 156
Diolch i chi am y cwestiwn. Rydym yn parhau i weld gamblo cymhellol yn dod i'r amlwg fel problem iechyd cyhoeddus ac mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â hi. Rydym yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gryf i roi camau ar waith, ymwrthod â'r pwysau gan y diwydiant, a lleihau'n sylweddol y swm mwyaf y gall rhywun ei fetio ar beiriannau hapchwarae categori B2, sy'n cynnwys peiriannau betio ods sefydlog, wrth gwrs.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am hynny. Gwn eich bod yn ystyried hwn yn fater o bwys. Mae'r data sydd gennym yn dangos bod 30,000 o bobl yng Nghymru yn dweud bod ganddynt broblemau gamblo, nodir bod 100,000 mewn perygl, 22,500 o blant rhwng 11 a 15 oed sy'n hapchwarae mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ac amcangyfrifir bod y gost i Gymru hyd yn hyn rhwng £40 miliwn a £70 miliwn. Byddwch wedi gweld adroddiad y Comisiwn Hapchwarae, sy'n ymdrin ag un mater yn sicr, mewn perthynas â pheiriannau betio ods sefydlog, a lleihau'r swm mwyaf y gall rhywun ei fetio o £100 i £30, sydd, a bod yn gwbl onest, yn dal i olygu y gellid betio hyd at £900 ar y peiriannau hyn mewn 10 munud, peiriannau a gaiff eu hadnabod fel crac cocên y byd hapchwarae. Mewn llawer o ffyrdd, nid yw hyn yn ddigon ac rwy'n credu ei fod yn dangos i ba raddau y mae'r Comisiwn Hapchwarae wedi ildio i'r lobi hapchwarae bwerus.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn falch o wybod bod grŵp trawsbleidiol wedi cael ei ffurfio yn y Cynulliad hwn bellach a byddwn yn gweithio ochr yn ochr â'r grŵp trawsbleidiol yn San Steffan hefyd ac yn ymgymryd â gweithgarwch ar y cyd i sicrhau bod yna ddeddfwriaeth a gweithgarwch ar draws yr holl Seneddau yn y Deyrnas Unedig i fynd i'r afael â'r perygl cynyddol hwn. Rwy'n meddwl tybed, o safbwynt Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet, pa bwerau rydych yn credu y gallwn eu defnyddio i gyfyngu ar beiriannau betio a'r gallu betio ar y rheini mewn gwirionedd, a datblygu'r agenda iechyd y cyhoedd, ac yn benodol, yr angen am ymchwil real a chadarn lle y gall Cymru arwain ar nodi a gwella ei dealltwriaeth o'r goblygiadau a'r problemau cymdeithasol sy'n deillio o hapchwarae, ei gysylltiad â phethau fel chwaraeon, normaleiddio hapchwarae a hapchwarae ar-lein—mewn gwirionedd, pe gallech amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd, nid yn unig yng ngoleuni'r wybodaeth a'r pwyntiau rwyf wedi'u gwneud, ond hefyd yn ngoleuni'r argymhellion a'r wybodaeth gan y prif swyddog meddygol.
Diolch i chi am y gyfres o bwyntiau a'r cwestiynau. Rwyf wedi nodi o'r blaen, yn y ddadl ar adroddiad y prif swyddog meddygol, y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno datganiad ar sut rydym yn disgwyl y byddwn yn defnyddio ein pwerau newydd pan fyddwn wedi'u cael, a gallwch ddisgwyl hynny yn y dyfodol agos, nid y dyfodol hirdymor. Gwn fod rhai Aelodau wedi cael cyfle i gyfarfod â'r prif swyddog meddygol heddiw, ac rwy'n croesawu'r diddordeb a'r awydd ehangach i wneud rhywbeth ar y cyd ag amryw o bartïon. Rwy'n meddwl am Carolyn Harris, ein cydweithiwr seneddol yng Nghymru, sydd wedi arwain ymgyrch weithredol ag iddi broffil uchel ar beiriannau betio ods sefydlog drwy'r Senedd. Felly, mae'r mater hwn yn gyfoes iawn ac mae'n fater real iawn yn ein holl gymunedau.
Ni fyddaf yn gallu ymdrin â phob un o'r pwyntiau yn y cwestiwn heddiw, ond rwy'n sicr yn ymrwymo i roi sylw iddynt a llunio datganiad mwy manwl. Ond yn benodol, os cyfeiriaf yn ôl at sylwadau a wnaed gan arweinydd y tŷ ddoe mewn perthynas â'r materion hysbysebu, sy'n cael eu crybwyll yn adroddiad y Comisiwn Hapchwarae, a'r pwyntiau ynglŷn â'r agenda iechyd y cyhoedd, mae angen i ni gael ymgyrch ddilys i godi ymwybyddiaeth er mwyn deall sut y mae pobl yn ymddwyn. Nid wyf yn credu y gallwn ddibynnu ar y diwydiant i hunanreoleiddio a bod yn gyfrifol. Cymerwyd rhai camau pellach, ond rwy'n credu bod mwy i'w wneud. Yn benodol, ar eich pwynt ynglŷn â hysbysebu, er y byddem yn dymuno gweld ceisiadau hysbysebu'n cael eu cyflwyno ar rai pethau, mae yna rywbeth ynglŷn ag un o'r pwyntiau a godwyd gan y Comisiwn Hapchwarae eu hunain.
Nawr, mae gan ein plaid ar lefel y DU bolisïau i roi ardoll orfodol ar y diwydiant hapchwarae. Mae'r Comisiwn Hapchwarae eu hunain wedi dweud, yn y bôn, fod yna achos cryf dros weld y diwydiant ei hun yn gwneud mwy i gyflawni ei rwymedigaethau. Ar hyn o bryd, maent yn darparu oddeutu 0.1 y cant o'r trosiant i GambleAware, ac mewn gwirionedd, gallent a dylent wneud mwy. Mae'r Comisiwn Hapchwarae eu hunain yn cydnabod, os na fydd y diwydiant yn cyflawni ei rwymedigaethau ar sail wirfoddol, fod yna achos cryf dros ystyried ardoll statudol. Yn sicr, ar ôl i mi ei ystyried, byddaf yn gwneud datganiad yn y lle hwn, a byddaf yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU, lle mae'r rhan fwyaf o'r pwerau hyn o hyd.
Pan ofynnais am ddatganiad ar y Comisiwn Hapchwarae ddoe, nid oeddwn yn disgwyl ei gael mor sydyn, felly da iawn ar y gweithgarwch ar y cyd i'ch cael chi yma i sôn ychydig mwy am hyn. Un o'r pethau sydd wedi codi o'r datganiad gan y Comisiwn Hapchwarae a'r ymateb caredig a roddodd arweinydd y tŷ i mi ddoe yw'r ffaith nad oes gan Lywodraeth Cymru fawr o berthynas ffurfiol gyda'r Comisiwn Hapchwarae—cynrychiolaeth ar y Comisiwn Hapchwarae na'r gallu i enwebu aelodau i'r Comisiwn—ac rwy'n credu bod hwnnw'n amlwg yn fwlch, gyda'r pwerau sy'n cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyfyngiadau ar beiriannu ods sefydlog, gyda'r diddordeb sydd gennym yn hynny yma yn y Cynulliad a'r ffaith nad yw'r Comisiwn Hapchwarae, yn fy marn i, wedi rhyngweithio ag Aelodau'r Cynulliad, er ein bod yn cynrychioli'r cymunedau yr effeithir arnynt yn fawr iawn gan y problemau hyn, fel y mae Mick Antoniw wedi'i nodi.
Felly, a oes yna ffordd y bydd Llywodraeth Cymru, nid yn unig yn ymateb i'r ymgynghoriadau, fel rydych eisoes wedi'i wneud, ond yn rhoi camau mwy cadarn ar waith yn awr wrth negodi gyda'r Comisiwn Hapchwarae a hefyd, yn y pen draw, gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod gennych berthynas lawer mwy ffurfiol, fel bod y Comisiwn Hapchwarae yn rhoi ystyriaeth lawnach a sylw dyladwy i'ch safbwyntiau ac yn wir, fel y gall y Comisiwn Hapchwarae ddod i roi adroddiad i'r Cynulliad o bryd i'w gilydd ar y penderfyniadau y maent hwy wedi'u gwneud yn ogystal?
Rwy'n cydnabod y pwyntiau rydych wedi'u gwneud, a chredaf fod dadl dda i'w gwneud yn eu cylch. Pan fyddwn yn ymateb yn gyhoeddus ac yn fwy ffurfiol i'r Cynulliad gyda datganiad ar ein hymateb llawnach, rhywbeth rwyf wedi addo ei wneud ar dri achlysur yn awr, rydym yn sicr angen ystyried ein perthynas a beth y dylai ein cais fod. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â'r Llywodraeth a'r berthynas y credwn y dylid ei chael â'r Comisiwn Hapchwarae, ac mae'n ymwneud â chael perthynas sy'n adlewyrchu'n briodol ei fod yn rheoleiddiwr ar gyfer yr Alban, Cymru a Lloegr. Wrth gwrs, mae wedi cael ei ddatganoli'n llawn i Ogledd Iwerddon—un o'r pethau rhyfedd hynny, unwaith eto, ynglŷn â phroses ddatganoli anghymesur. Ond mae yna rywbeth ynglŷn â chydnabod lle'r Cynulliad hefyd, ac efallai y bydd y Cynulliad ei hun eisiau rhoi ei farn drwy'r pwyllgor perthnasol ynglŷn â beth y dylai'r cyfrifoldeb fod. Ond bydd y Llywodraeth yn sicr yn nodi ei barn, ac yn rhoi ystyriaeth briodol i'r pwyntiau rydych wedi'u gwneud heddiw.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn nesaf, felly, Angela Burns.