3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 21 Mawrth 2018.
2. Yn sgil y cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth y DU i gynyddu cyflogau dros filiwn o staff y GIG yn Lloegr, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogau'r GIG yng Nghymru? 158
Rwy'n falch fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrando ar fy ngalwadau niferus i gael gwared ar y cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus a darparu arian ychwanegol i wobrwyo staff y GIG ledled y Deyrnas Unedig. Mae Fforwm Partneriaeth GIG Cymru yn cyfarfod yfory i gynnig cyngor ar sut y gellid defnyddio unrhyw gyllid canlyniadol yng Nghymru.
Mae'r holl bleidiau gwleidyddol wedi aros yn hir i gael gwared ar y cap cyflog hwn, ac rydym yn llwyr groesawu'r cyhoeddiad, sy'n cydnabod staff y rheng flaen sy'n gweithio'n ddiflino i ddarparu gwasanaethau o'r radd flaenaf. O heddiw ymlaen, bydd staff fel nyrsys, porthorion a pharafeddygon yn cael cynnydd cyfartalog o 6.5 y cant yn eu pecynnau cyflog dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, gyda llawer o'r gweithwyr ar y cyflogau isaf yn y gwasanaeth iechyd yn cael y cynnydd mwyaf yn eu cyflog, a bydd hynny'n sicr yn ein helpu i hyrwyddo ein hagendâu tegwch a chydraddoldeb. Ynghyd â'r cyhoeddiad ddoe, fe fyddwch yn gwybod bod Llywodraeth y DU yn bwriadu sefydlu pump o ysgolion meddygol newydd mewn rhannau o'r wlad.
Nid Lloegr yn unig sy'n wynebu'r heriau recriwtio hyn, a bydd yr hyn y maent yn ei wneud yn helpu'n fawr i wneud eu gwasanaeth iechyd yn fwy gwydn. Yng Nghymru, rydym yn gwario bron i £14 miliwn y mis ar staff asiantaeth, ac rydym wedi gweld yr hyn sy'n cyfateb i un nyrs y dydd yn gadael ein gwasanaeth iechyd. Ni all gwasanaethau iechyd fforddio colli mwy o'n staff rheng flaen eithriadol, na'n myfyrwyr sydd newydd gael eu hyfforddi.
Nawr, gwyddom y byddwch chi, Lywodraeth Cymru, yn cael cyllid canlyniadol gan y Trysorlys i liniaru'r cynnydd hwn, felly bydd Llywodraeth Cymru yn cael y gyfran arferol o £4.2 biliwn yn ychwanegol am y newidiadau i gyflogau'r GIG dros y tair blynedd nesaf. A wnewch chi gadarnhau y byddwch yn rhoi'r cyllid canlyniadol tuag at y dyfarniadau cyflog yma yng Nghymru? Ac a gaf fi ofyn i chi hefyd a fyddwch yn ystyried y ffaith bod y cytundeb cyflog, hyd yn hyn, yn edrych ar sut y gall y cytundeb leihau'r cyfraddau uchel o salwch a welwn yn y GIG ledled y Deyrnas Unedig? Nid yng Nghymru yn unig y mae'n digwydd. Rydym yn colli dros 900 o flynyddoedd amser llawn i salwch bob blwyddyn, ac os gallwn gael y bobl hyn yn ôl i'r gwaith yn gyflymach a'u cymell a rhoi triniaeth flaenoriaethol iddynt o bosibl, yna bydd hynny ynddo'i hun yn helpu i leddfu rhywfaint ar y pwysau adnoddau dynol sydd i'w weld yn ein GIG yma. Mae pawb ohonom yn croesawu'r penderfyniad i godi'r cap cyflog hwn, ond rwyf eisiau clywed beth fyddwch chi'n gallu ei wneud gyda'r cyllid canlyniadol ac a fyddwch yn ei ddefnyddio ar ein staff.
Mae gennyf rai sylwadau i'w gwneud mewn ymateb i hynny. Rwy'n croesawu'n fawr y ffaith bod y cap cyflog wedi'i godi, ond ni ddylem anghofio bod yna heriau sylweddol yn wynebu partneriaid y gwasanaeth iechyd gwladol mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill sy'n dal i wynebu cap cyflog real o ganlyniad uniongyrchol i wyth mlynedd o gyni sy'n parhau. Dylem atgoffa ein hunain fod staff 'Agenda ar gyfer Newid' wedi cael toriadau cyflog real o 14 y cant ers 2010. Felly, bydd y newid y mae Lloegr wedi'i gyhoeddi yn helpu i ddatrys hynny, ac rwy'n hapus i gadarnhau y bydd unrhyw gyllid canlyniadol ar gyfer cyflogau'r GIG yn mynd tuag at gyflogau'r GIG yma yng Nghymru—mae hynny'n gwbl glir ac nid oes unrhyw lol mewn perthynas â hynny. Mae hynny'n adeiladu ar ymrwymiadau a wnaed gan y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn wir.
Buaswn yn atgoffa pobl fod y sylwadau a wnaethoch, Angela Burns, ynglŷn â mynd i'r afael â chyflogau isel—heriau i'r GIG yn Lloegr fynd i'r afael â hwy yw'r rheini. Gwnaethom gynnydd pellach. Efallai nad yw hi yn yr ystafell, ond roedd Dawn Bowden yn rhan o'r tîm negodi ar ochr yr undebau llafur, lle y gwnaethom gynnydd rai blynyddoedd yn ôl mewn perthynas â'r gweithwyr ar y cyflogau isaf yn y GIG yng Nghymru. Felly, rwy'n falch o weld Lloegr yn efelychu rhywfaint o'r cynnydd hwnnw. Byddwn yn trafod gyda chyflogwyr y GIG a'r undebau llafur i benderfynu sut y gallwn sicrhau bod unrhyw gyllid canlyniadol a ddaw i Gymru yn mynd tuag at gyflogau'r GIG, a bydd hynny'n cael ei negodi'n briodol yn y dull partneriaeth rydym yn dymuno ei fabwysiadu yma yng Nghymru.
Rwy'n cydnabod yr heriau y sonioch amdanynt mewn perthynas â niferoedd y nyrsys yn y GIG. Mae yna her go iawn ledled y DU o ran sicrhau cyflenwad digonol o nyrsys. Lloegr sydd â'r broblem fwyaf. Hwy sydd â'r niferoedd mwyaf, nid yn unig o ran niferoedd ond mewn termau canrannol, ac fe fyddwch yn cydnabod bod y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi dweud, am y tro cyntaf, fod llai o nyrsys yn y GIG yn Lloegr na'r flwyddyn flaenorol. Dyna'r tro cyntaf mewn hanes i hynny ddigwydd. Nid oes gennym y sefyllfa honno yma, ond ni ddylem fod yn hunanfodlon ynglŷn â realiti'r cap cyflog ac amrywiaeth o fesurau eraill yn ymwneud â'r ffordd y mae nyrsys yn teimlo yn Lloegr.
Hefyd, byddwn yn parhau i drafod gyda'n partneriaid sut i wella cyfraddau presenoldeb, sut i wella'r broses o ddychwelyd i'r gwaith yn dilyn salwch a sut y caiff pobl eu cynorthwyo i aros mewn gwaith neu i ddychwelyd i'r gwaith. Mae'r rheini yn faterion rydym yn eu trafod yn rheolaidd rhwng cyflogwyr ac ochr yr undebau llafur. Felly, edrychaf ymlaen at allu dod yn ôl i'r lle hwn i gadarnhau unrhyw gytundeb a geir rhwng ochr y cyflogwyr a'r undebau llafur mewn perthynas â sut rydym yn disgwyl talu staff y GIG yma yng Nghymru.
Nid yw'n braf gweld Cymru ar ei hôl hi eto; dyma'r eildro i hynny ddigwydd ym maes iechyd mewn dau ddiwrnod gyda'r cyhoeddiad hwnnw gan Jeremy Hunt ddoe ynglŷn ag agor pump o ysgolion meddygol yn Lloegr. Edrychaf ymlaen at ein gweld yn dal i fyny â hynny yn y pen draw. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, mewn perthynas â'r cap cyflog, wedi dweud yn glir ers amser ein bod yn credu y dylid bod wedi codi'r cap cyflog cyn hyn, ac rwy'n credu y bydd pobl yn cofio nad oedd y Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn gallu bod yn rhagweithiol wrth chwilio am ffyrdd o godi'r cap hwnnw'n gynharach. Ond dyma lle rydym, ac mae'n ymddangos y bydd staff gweithgar ein GIG, o'r diwedd, yn cael y codiad cyflog y maent wedi'i haeddu ers amser. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch o glywed eich bod yn disgwyl y bydd y cyllid canlyniadol yn mynd tuag at godi'r cap hwnnw.
A wnewch chi gytuno, fodd bynnag, nad yw codi'r cap yn ddigon ynddo'i hun, ac a gawn ni sicrwydd, ochr yn ochr â'r adolygiad hir ddisgwyliedig o gyflogau, y byddwn hefyd yn gweld ymdrech gyfunol i sefydlu cynllun gweithlu ar gyfer y GIG cyfan a sicrhau bod popeth yn cael ei wneud mewn perthynas â recriwtio hefyd? Mae mynd i'r afael â chyflogau yn un peth, ond nid yw hynny ynddo'i hun yn mynd i'r afael â'r pwysau annerbyniol ar staff mewn sawl rhan o'r GIG oherwydd prinder gweithlu.
Rwy'n hapus i ymdrin â'r pwynt olaf hwnnw yn gyntaf. Rydym yn disgwyl y byddwn yn gwella ein gallu i gynllunio ar gyfer y gweithlu cyfredol a gweithlu'r dyfodol drwy greu Addysg a Gwella Iechyd Cymru—rydym wedi sôn am hwnnw o'r blaen—a'r ffordd rydym yn ceisio cronni'r gallu i wneud hynny rhwng byrddau iechyd a sefydliadau eraill fel y ddeoniaeth ac eraill hefyd. Mae hwnnw'n gam cadarnhaol ymlaen i sicrhau dull mwy strategol o gynllunio ar gyfer anghenion ein gweithlu yn y dyfodol. Yn ogystal ag edrych ar niferoedd y staff rydym eu hangen, a'r gwahanol grwpiau o staff, mae angen i ni edrych, wrth gwrs, ar y ffyrdd rydym yn disgwyl iddynt weithio, a'r ffyrdd rydym yn disgwyl iddynt gael eu hyfforddi i weithio yn y gwasanaeth heddiw ac yn y dyfodol. Dyna pam y mae'r adolygiad seneddol mor bwysig. Mae angen i ni gael modelau gofal sy'n ddeniadol i bobl weithio ynddynt, ac sy'n cynnig y gobaith mwyaf y bydd pobl eisiau dilyn gyrfa yng Nghymru. Gallech ddweud i hyfforddi yma, i fyw yma ac i weithio yma, wrth gwrs.
Nawr, rwyf am ddychwelyd at eich pwyntiau cychwynnol am y cap cyflog. Rwyf wedi cael fy siomi'n ofnadwy gan y ffordd y mae Plaid Cymru wedi bod yn ddigon bodlon i roi rhwydd hynt i'r Torïaid mewn perthynas â hyn. Y rheswm pam na allai Cymru godi'r cap cyflog yn gynt oedd oherwydd ein sefyllfa gyllidebol, oherwydd wyth mlynedd o gyni. Dyna'r gwirionedd clir a digymysg, ac mae'r ffordd y mae'r materion hynny wedi cael eu trin yma wedi bod yn glir iawn. Rydym bob amser wedi dweud yn glir mai mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig oedd codi'r cap cyflog a sicrhau cyllid gan Drysorlys y DU i gyllido codi'r cap cyflog, fel y maent wedi'i wneud heddiw, o'r diwedd. Ond ni fydd y rhyfel geiriau rhyngom yn dod i ben oherwydd, yn anffodus, mae Jeremy Hunt wedi cymhlethu datganiadau blaenorol nad ydynt, yn syml, yn ffeithiol gywir, drwy ddweud, yn Nhŷ'r Cyffredin, y byddai'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru £1 biliwn o bunnoedd yn well ei fyd pe baem wedi gwneud penderfyniadau fel y maent hwy wedi gwneud. Mae hynny'n gelwydd noeth. Ac os ydym am gael dadl wybodus a phriodol am ariannu'r gwasanaeth iechyd gwladol yn y dyfodol, mae angen trafodaeth fwy gonest rhwng seneddau a llywodraethau, a chyda'r cyhoedd, ac ni fyddaf yn petruso rhag herio Jeremy Hunt pan fydd yn gwneud datganiadau celwyddog, a bwriadol gelwyddog, am gyllid y GIG yma yng Nghymru.
Caroline Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. [Torri ar draws.]
Ond mae ei alw'n gelwyddgi—[Anghlywadwy.]
Esgusodwch fi. Rwyf wedi galw siaradwr arall. Caroline Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n hen bryd i ni godi'r cap ar gyflogau staff y GIG sy'n gweithio o dan bwysau aruthrol, yn arbennig mewn perthynas â phrinder staff. Mae'r cytundeb yn Lloegr yn cynnwys staff ar y contract Agenda ar gyfer Newid, nad yw'n cynnwys meddygon. Felly, er fy mod yn croesawu'r cynnydd a gyhoeddwyd yn flaenorol yng nghyflogau ein meddygon teulu, pa ystyriaeth rydych wedi'i roi i godi cyflogau meddygon a deintyddion y GIG?
Mae yna broses gan gorff adolygu ar wahân ar gyfer meddygon a deintyddion. Nid yw staff Agenda ar gyfer Newid yn cynnwys y gweithwyr proffesiynol penodol hynny. Rydym yn aros am gyngor gan y corff adolygu ar gyfer meddygon a deintyddion, ac wrth gwrs, byddwn yn adrodd yn ôl i'r lle hwn pan fyddwn wedi cael y cyngor hwnnw a phan fydd gennym benderfyniad i'w wneud.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.