Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 21 Mawrth 2018.
Clywsom gan yr Aelod sy'n gyfrifol, yr ombwdsmon cyfredol, a'i gymheiriaid yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, fod hwn yn arf hollbwysig ym mhecyn cymorth yr ombwdsmon. Mae hefyd yn un sydd ar gael i'r rhan fwyaf o'u cymheiriaid ledled y byd. Nodasom y pryderon a godwyd gan randdeiliaid ynglŷn â chreu cymhlethdod ychwanegol yn y fframwaith rheoleiddio hwnnw sydd eisoes yn orlawn, ond ymatebodd yr Aelod sy'n gyfrifol i'r pryderon hyn drwy ein hatgoffa o'r gwahaniaeth rhwng rolau a dulliau rheoleiddwyr ac ombwdsmon. Yr ombwdsmon sy'n mynd i'r afael â phryderon o safbwynt y dinesydd, ac roeddem yn ystyried bod honno'n ddadl gref. Rydym yn cefnogi'r cynnig hwn, felly, i ymestyn pwerau'r ombwdsmon. Un argymhelliad yn unig a wnaethom mewn perthynas â'r darpariaethau hyn, sef rhoi dyletswydd ychwanegol ar yr ombwdsmon i ymgynghori â rheoleiddwyr cyn cychwyn ar ymchwiliad ar ei liwt ei hun, ac rwy'n falch fod yr Aelod sy'n gyfrifol wedi derbyn yr argymhelliad hwn.
Gan symud ymlaen at y darpariaethau ar gyfer gwneud ac atgyfeirio cwynion at yr ombwdsmon, mae'r Bil yn ceisio cael gwared ar y cyfyngiadau ar sut y gellir gwneud neu atgyfeirio cwynion. Ar hyn o bryd, ni ellir ond gwneud cwynion llafar yn ôl disgresiwn yr ombwdsmon. Clywsom dystiolaeth glir y gall hyn ei gwneud yn fwy anodd i'r rhai mwyaf agored i niwed gael mynediad at wasanaethau'r ombwdsmon. Er ein bod wedi canolbwyntio ar gwynion llafar, rydym wedi nodi y bydd darpariaethau'r Bil yn galluogi'r ombwdsmon i addasu yn y dyfodol a derbyn cwynion ar unrhyw ffurf y maent yn ei ystyried yn briodol. Mae hyn yn helpu i ddiogelu'r ddeddfwriaeth ar gyfer y dyfodol a bydd yn caniatáu i'r ombwdsmon addasu i unrhyw newidiadau technolegol. Rydym yn credu y bydd y darpariaethau hyn yn gwella mynediad at wasanaethau'r ombwdsmon, ac felly un argymhelliad yn unig a wnaethom mewn perthynas â'r darpariaethau hyn. Mae argymhelliad 3 yn galw am welliannau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ombwdsmon gadw cofrestr o'r holl gwynion, nid cwynion ar lafar yn unig, ac unwaith eto, rwy'n falch fod yr Aelod sy'n gyfrifol wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Rydym hefyd wedi galw ar yr ombwdsmon i fyfyrio ar y dystiolaeth a gawsom wrth ddatblygu unrhyw ganllawiau. Os caiff y Bil hwn ei basio, bydd yna fater yn codi, a byddwn, yn ystod ein gwaith craffu parhaus ar yr ombwdsmon, yn monitro cynnydd mewn perthynas â'r materion hyn.
Ddirprwy Lywydd, mae adran 4 o'r Bil yn cyflwyno pwerau i'r ombwdsmon i bennu gweithdrefnau ymdrin â chwynion. Roedd hon yn un o'r elfennau yn y Bil a ysgogodd fwyaf o drafodaeth gan randdeiliaid. Yn benodol, clywsom bryderon ynglŷn â sut y byddai gweithdrefnau enghreifftiol a bennwyd gan yr ombwdsmon yn rhyngweithio â'r gweithdrefnau ymdrin â chwynion sy'n bodoli'n barod. Roedd llawer o'r drafodaeth hon yn canolbwyntio ar y rheoliadau 'Gweithio i Wella' o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol. Roedd pryderon na fyddai'r diffiniad o ddeddfiadau o fewn y Bil yn cynnwys y rheoliadau hyn, ac er ein bod wedi nodi'r holl bryderon hyn, rydym yn credu ei bod yn gwbl briodol i'r ombwdsmon chwarae rhan yn y broses o bennu gweithdrefnau ymdrin â chwynion. Rydym yn credu y bydd hyn yn helpu i arwain at welliannau yn y broses o ymdrin â chwynion, a gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus, gobeithio. Cawsom ein calonogi gan yr enghraifft yn yr Alban, lle mae pwerau tebyg wedi cael eu rhoi i ombwdsmon yr Alban. Fodd bynnag, rydym yn credu y gellid cael mwy o eglurder mewn perthynas â sut y bydd yr ombwdsmon yn ystyried canllawiau anstatudol sydd eisoes yn bodoli, megis 'Gweithio i Wella', wrth lunio a gorfodi gweithdrefnau cwyno enghreifftiol. Felly, gwnaethom argymhelliad 5, sef bod gwelliannau'n cael eu cyflwyno i ddarparu'r eglurder pellach hwn, ac unwaith eto, rwy'n falch fod yr Aelod sy'n gyfrifol wedi derbyn yr argymhelliad hwn.
Gan symud ymlaen at ddarpariaethau sy'n gosod dyletswydd ar yr ombwdsmon i lunio strategaeth iaith Gymraeg, rydym yn croesawu camau i gryfhau'r gofynion hyn. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod y Bil yn mynd yn ddigon pell. Rydym yn credu bod gormod yn cael ei adael i ddisgresiwn yr ombwdsmon ac y dylai'r ombwdsmon lynu wrth egwyddorion safonau iaith Gymraeg. Rydym yn cydnabod na fyddai'n briodol i'r ombwdsmon gael ei gynnwys yn uniongyrchol yn y safonau, ond credwn y dylai, mewn egwyddor, ddarparu gwasanaethau dwyieithog cymaradwy i'r gwasanaethau cyhoeddus o fewn ei gylch gwaith, ac unwaith eto, rwy'n falch o nodi'r ymrwymiad a wnaed gan yr Aelod sy'n gyfrifol i ailedrych ar y darpariaethau hyn, ac y caiff ei wneud mewn ymgynghoriad â Chomisiynydd y Gymraeg ac eraill.
Un mater y canolbwyntiwyd arno, Ddirprwy Lywydd, oedd craffu ariannol, ac fe wnaethom benodi cynghorydd arbenigol, Dr Gavin McBurnie, fel y soniwyd yn gynharach. Mae'r rhan fwyaf o'n hargymhellion yn canolbwyntio ar y goblygiadau ariannol hynny. Braf oedd clywed yr ombwdsmon a'r Aelod sy'n gyfrifol yn gwneud ymrwymiadau clir na fyddai'r ombwdsmon yn ceisio sicrhau unrhyw gynnydd yn y gyllideb sy'n uwch na 0.03 y cant o wariant grant bloc Cymru. Fodd bynnag, rydym yn ceisio rhagor o wybodaeth am yr asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â'r costau anuniongyrchol ac yn benodol, costau'r awdurdodau rhestredig sy'n rhan o gylch gwaith yr ombwdsmon.
Nid ydym yn credu bod yr argymhellion a wnaethom er mwyn ceisio mwy o eglurder yn afresymol, ac unwaith eto, croesawaf y ffaith fod yr Aelod wedi derbyn pob un ond un ohonynt.
Gwn fod amser—