5. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:00, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Nid Bil y Llywodraeth yw'r Bil hwn wrth gwrs. Cafodd ei gyflwyno i'r Cynulliad gan y Pwyllgor Cyllid, a mater i'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil yw bwrw ymlaen â'r argymhellion a wnaed gan y ddau bwyllgor. Fodd bynnag, hoffwn gymryd y cyfle hwn i nodi safbwynt y Llywodraeth, yn enwedig yng ngoleuni'r dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Mae'r Bil yn cynnig pwerau newydd i'r ombwdsmon mewn pedwar maes gwahanol, a byddaf yn rhoi sylw i bob un yn ei dro.

Mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig y dylai'r ombwdsmon allu derbyn cwynion ar lafar. Rydym hefyd yn cefnogi argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, fel y nododd John Griffiths, y dylai'r ombwdsmon gadw cofrestr o'r holl gwynion a dderbyniwyd. Mae gan hyn botensial i gynhyrchu gwybodaeth fwy gwerthfawr am ansawdd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth hefyd yn cefnogi'r argymhelliad ynglŷn â phŵer i archwilio darparwyr gofal iechyd preifat pan fydd cwyn yn berthnasol i'r GIG a gofal iechyd preifat. Unwaith eto, rydym yn cytuno ag argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y dylai'r Pwyllgor Cyllid wneud mwy o waith i wella asesiad effaith rheoleiddiol y Bil, yn enwedig o ran y costau i ddarparwyr gofal iechyd preifat. Nid oes unrhyw waith costio wedi'i wneud ar yr adran hon yn asesiad effaith rheoleiddiol y Bil ar hyn o bryd.

Trof yn awr at yr argymhelliad i alluogi'r ombwdsmon i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun. Mae'r Llywodraeth wedi dilyn y dystiolaeth yn ofalus mewn perthynas â'r adran hon o'r Bil, ac mae'n derbyn y ddadl y bydd yr ombwdsmon mewn sefyllfa i ymateb i themâu a materion a ddaw'n amlwg ar draws y sector cyhoeddus. Fodd bynnag, rydym yn rhannu rhai o'r pryderon a fynegwyd gan randdeiliaid ynglŷn â'r posibilrwydd y gallai'r ombwdsmon ddyblygu gwaith ymchwilio sydd eisoes ar y gweill gan reoleiddwyr ac arolygwyr eraill. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi argymell y dylid cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ombwdsmon ymgynghori â rheoleiddwyr a chomisiynwyr eraill cyn cychwyn ar ymchwiliad ar ei liwt ei hun. Rydym yn cefnogi hyn gan y byddai'n helpu i leihau'r risg o orgyffwrdd, dryswch a dyblygu.

Ddirprwy Lywydd, trof yn awr at argymhelliad olaf y Bil: y pŵer i'r ombwdsmon bennu safonau cwynion cyffredin ar gyfer y sector cyhoeddus. Mae'r Llywodraeth wedi edrych yn ofalus ar y dystiolaeth a roddwyd yn ystod proses Cyfnod 1, gan gynnwys dadansoddiad o'r asesiad effaith rheoleiddiol gan arbenigwr annibynnol mewn perthynas â safonau cwynion cyffredin. Mae gennym bryderon, a adlewyrchwyd gennym yn y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor, ynglŷn ag a allai'r pŵer i bennu safonau cwynion cyffredin dorri ar draws gweithdrefnau cwyno statudol sy'n bodoli'n barod, gyda llawer ohonynt yn weithdrefnau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi cytuno arnynt ac wedi eu pasio. Rydym yn credu y gallai fod yn ddefnyddiol i'r ombwdsmon gyhoeddi egwyddorion a gweithdrefnau ymdrin â chwynion enghreifftiol i ddarparu cysondeb ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol. Ond ni ddylai'r rhain danseilio gweithdrefnau cwyno statudol sy'n bodoli'n barod, megis 'Gweithio i Wella', y cyfeiriwyd ato eisoes yn y ddadl hon. Gallai hyn greu ansicrwydd i sefydliadau unigol ac i'r ombwdsmon ac achwynwyr. Gallem gefnogi'r rhan hon o'r Bil pe bai'r Aelod sy'n gyfrifol yn cyflwyno gwelliannau i sicrhau bod y prosesau cwyno statudol sy'n bodoli'n barod yn cael eu parchu. Rwy'n falch o nodi bod yr Aelod sy'n gyfrifol wedi derbyn hyn yn ei ymateb i adroddiad y pwyllgor.

Ddirprwy Lywydd, mae gan Lywodraeth Cymru rai pryderon hefyd ynglŷn ag adran 71 o'r Bil, sydd, fel y clywsom, yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ombwdsmon fod â strategaeth iaith Gymraeg. Codwyd hyn gan Gomisiynydd y Gymraeg a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod y broses graffu. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi dweud bod angen cryfhau'r adran hon o'r Bil, a byddem yn hapus iawn i weithio gyda'r Aelod sy'n gyfrifol i gyflwyno gwelliant a fydd yn sicrhau bod yr ombwdsmon yn ddarostyngedig i ofynion safonau iaith Gymraeg. Wedi dweud hynny, bydd y Llywodraeth yn cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) heddiw.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddweud ychydig eiriau am y camau nesaf a datblygiad y Bil. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi nodi argymhelliad clir iawn yn ei adroddiad y dylid gwneud gwaith pellach ar gostau ariannol y Bil a'r asesiad effaith rheoleiddiol. Fel y cânt eu cyflwyno ar hyn o bryd, ac fel y nododd yr Aelod sy'n gyfrifol yn ei araith agoriadol, ceir nifer o fylchau yn y costau a nifer o feysydd lle mae angen datblygu'r dystiolaeth ariannol, gan gynnwys trylwyredd costau rhedeg yr ombwdsmon a'r costau i ddarparwyr gofal iechyd preifat. Hyd nes y caiff y gwaith hwn ei wneud, ni fydd y Llywodraeth yn cyflwyno penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Bydd hyn yn rhoi amser i'r Pwyllgor Cyllid roi ystyriaeth bellach i'r asesiad effaith rheoleiddiol ac i ymgymryd â'r gwaith yn unol ag argymhellion y pwyllgor. Bydd unrhyw gostau ychwanegol am ddarparu pwerau ychwanegol i'r ombwdsmon yn cael eu talu o gronfa gyfunol Cymru. A dweud y gwir yn blaen, bydd gwario mwy o arian ar yr ombwdsmon yn golygu llai o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen mewn cyfnod o gyni parhaus. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn cael dadansoddiad trylwyr o'r costau.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, wedi cyfarfod â'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil ac wedi rhannu dadansoddiad cyfreithiol o'r Bil sy'n nodi nifer o feysydd lle mae angen gwneud newidiadau i sicrhau ei fod yn gweithio'n gywir, os caiff ei weithredu, er mwyn cyflawni'r bwriad polisi a nodwyd. Dylwn bwysleisio bod y rhain yn ofynion hanfodol ar gyfer effeithiolrwydd, yn hytrach na gwelliannau ac ychwanegiadau dewisol. Mae'r Llywodraeth yn awyddus i weithio gyda'r Aelod sy'n gyfrifol wrth i'r Bil fynd rhagddo er mwyn datrys y materion a amlygwyd.