Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch. Mae trafnidiaeth gymunedol yn ymwneud â darparu atebion hyblyg a hygyrch dan arweiniad y gymuned mewn ymateb i anghenion trafnidiaeth lleol nas diwallwyd, ac yn aml dyma'r unig ddull o drafnidiaeth i lawer o bobl sy'n ynysig ac yn agored i niwed. Mae pobl hŷn a phobl anabl yn grwpiau defnyddwyr sylweddol, gyda'r rhan fwyaf o wasanaethau a phrosiectau'n gweithio mewn ardaloedd gwledig, ond wrth gwrs, nid yn unig mewn ardaloedd gwledig.
Gan ddefnyddio popeth o fysiau mini i fopeds, mae gwasanaethau nodweddiadol yn cynnwys cynlluniau ceir gwirfoddol, gwasanaethau bysiau cymunedol, trafnidiaeth ysgol, cludo pobl i ysbytai, deialu am reid, olwynion i'r gwaith, a gwasanaethau llogi trafnidiaeth fel grŵp. Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau yn ymateb i'r galw, gan fynd â phobl o ddrws i ddrws, ond mae nifer gynyddol yn cynnig gwasanaethau rheolaidd ar hyd llwybrau penodol lle nad oes gwasanaethau bysiau confensiynol ar gael. Cynhelir gwasanaethau bob amser at ddiben cymdeithasol ac er budd y gymuned, a byth er elw, gan sicrhau y gellir diwallu ystod ehangach o anghenion trafnidiaeth.
Mae'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yng Nghymru yn cynrychioli 100 o sefydliadau, a llawer ohonynt yn elusennau bach, ac mae pob un ohonynt yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth sy'n cyflawni diben cymdeithasol a buddiannau cymunedol. Mae 140,000 o unigolion a 3,500 o grwpiau wedi cofrestru i ddefnyddio trafnidiaeth gymunedol yng Nghymru. Mae gwasanaethau'n darparu tua 2 filiwn o deithiau teithwyr bob blwyddyn, gan deithio 6 miliwn o filltiroedd. Caiff y sector ei arwain yn bennaf gan wirfoddolwyr, gyda bron i 2,000 ohonynt yn rhoi o'u hamser am ddim i sicrhau y gellir darparu gwasanaethau—cyfraniad gwerth miliynau i economi Cymru. Mae'r gwasanaethau hanfodol hyn yn helpu i leihau unigrwydd ac unigedd, gan sicrhau y gall pobl gyrraedd ysbytai, meddygfeydd meddygon teulu, digwyddiadau cymdeithasol, cyfleusterau hamdden, mannau cyflogaeth, siopau a llawer mwy. Fodd bynnag, er gwaethaf y cyfraniad cadarnhaol amlwg y mae trafnidiaeth gymunedol yn ei wneud yng Nghymru, ar hyn o bryd mae'r sector yn wynebu nifer o fygythiadau.
Dosberthir y cyfrifoldeb dros drafnidiaeth gymunedol ar draws pob lefel o Lywodraeth, o reoliadau'r UE i gyfrifoldeb Llywodraeth y DU dros drwyddedau a thrwyddedu, i gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru dros sut y mae trafnidiaeth gymunedol yn gweithredu yng Nghymru, i awdurdodau lleol yn ariannu a fframio'r defnydd o drafnidiaeth gymunedol yn lleol. Felly, mae'n hanfodol fod pob lefel o Lywodraeth gyda'i gilydd yn ceisio canfod ateb i'r problemau presennol, yn ceisio lliniaru effeithiau byrdymor ar ein cymunedau, ac yn ceisio datblygu dyfodol hirdymor cryf a chynaliadwy i drafnidiaeth gymunedol yng Nghymru.
Ar lefel ddatganoledig, mae'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol wedi nodi tair problem allweddol: nad yw setliadau ariannu yn ei gwneud hi'n bosibl cynllunio'n hirdymor; nad yw eu haelodau'n cael eu talu ar draws adrannau am y gwaith y maent yn ei wneud, ac y gallai fod angen cyllid cyfalaf untro i gefnogi twf.
Er eu bod yn croesawu'r cynnydd yn y cyfraddau ad-dalu teithio rhatach ar gyfer trafnidiaeth gymunedol, maent hefyd wedi galw am adolygu'r fformiwla ar gyfer gweithredwyr cludiant cymunedol. Mae'r gyfradd ad-dalu yn parhau i fod yn llai na 100 y cant, ac er y gall gweithredwyr masnachol ennill hwnnw'n ôl mewn mannau eraill, mae cyfyngiadau trwyddedau cludiant cymunedol yn golygu nad ydynt yn gallu adennill colledion o'r teithiau hynny. Mae cylchoedd ariannu byrdymor yn golygu na all gweithredwyr gynllunio ar gyfer y dyfodol a datblygu mewn ffordd gynaliadwy. Gall penderfyniadau cyllido hwyr arwain at golledion parhaol, gan golli arbenigedd hanfodol o'r sector.
Mae Llywodraeth Cymru'n darparu cyllid yn uniongyrchol i weithredwyr cludiant drwy'r grant cynnal gwasanaethau bysiau, wedi'i weinyddu ar sail flynyddol gan awdurdodau lleol. Mae'r swm a ddyrennir i weithredwyr trafnidiaeth gymunedol yn amrywio o un awdurdod lleol i'r llall. Er enghraifft, awgrymodd Llywodraeth Cymru fod Cyngor Bro Morgannwg yn gosod targed o £81,160 ar gyfer gwariant ar drafnidiaeth gymunedol y llynedd, ond £28,200 yn unig a gyfrannwyd ganddynt. Mae'r cyfuniad o arian wedi'i ddyrannu'n flynyddol a diffyg sicrwydd ynghylch symiau cyllid yn gwneud blaengynllunio'n anodd iawn, ac felly mae'n amhosibl iddynt ddatblygu cynlluniau busnes tair i bum mlynedd ystyrlon. Mae'n arbennig o anodd pan fydd sefydliadau'n dymuno gwneud buddsoddiadau cyfalaf mewn cerbydau neu eu seilwaith trefniadol.