Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 21 Mawrth 2018.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon, a hoffwn dalu teyrnged i'r cynlluniau trafnidiaeth cymunedol gwirfoddol sy'n gwasanaethu fy etholaeth, Cynllun Gwirfoddol Dinas Powys—DPVC—a Trafnidiaeth Gymunedol Dwyrain y Fro, sydd hefyd yn gwasanaethu etholaeth Vaughan Gething. Mae'r olaf yn elusen fach a sefydlwyd ym 1986 ym Mhenarth, ac mae'n gwasanaethu'r gymuned yn nwyrain y Fro rhwng Penarth a'r Barri drwy ddarparu trafnidiaeth hygyrch mewn dau fws mini 12 sedd sy'n gallu cludo cadeiriau olwyn, gyda gyrwyr gwirfoddol. Mae Cynllun Gwirfoddol Dinas Powys yn darparu trafnidiaeth bws mini wythnosol i archfarchnadoedd lleol, i amryw o weithgareddau cymdeithasol rheolaidd, ac i glwb cinio wythnosol a gwasanaeth eglwys. Mae DPVC hefyd yn gweithio'n agos gyda Chyngor Bro Morgannwg ar wasanaeth Greenlinks, sydd wedi cael cymorth arian Ewropeaidd. Cefnogir Greenlinks gan gyngor y Fro, yn gweithio mewn partneriaeth gyda DPVC, gan ddefnyddio Volkswagen Caddy pwrpasol gydag addasiadau ar gyfer cadeiriau olwyn, sy'n cludo cleifion oedrannus i ac o ganolfan feddygol newydd Dinas Powys. Mae DPVC a Trafnidiaeth Gymunedol Dwyrain y Fro yn fodelau o ymrwymiad gwirfoddol, ac yn gwasanaethu cymunedau lleol yn fy etholaeth. Maent yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl oedrannus. Maent yn chwalu arwahanrwydd—mae hynny eisoes wedi'i ddweud yn y sylwadau agoriadol. Maent yn chwalu arwahanrwydd i'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau, ond maent yn darparu rôl werth chweil i yrwyr gwirfoddol profiadol. Mae Cynllun Gwirfoddol Dinas Powys yn dweud bod y mwyafrif o'u gyrwyr gwirfoddol wedi ymddeol—mae nifer ohonynt dros 70 oed—sy'n golygu bod angen adnewyddu trwyddedau D1, gydag archwiliadau meddygol rheolaidd, ac ati. Maent yn pryderu ynghylch recriwtio gwirfoddolwyr yn y dyfodol sy'n gymwys i yrru bysiau mini, gan na fydd gan lawer ohonynt yr hawl D1 sy'n ofynnol ar eu trwyddedau gyrru. Byddai'r ddau fudiad hwn yn hoffi gweld trwyddedau adran 19 yn aros yn ddigyfnewid, fel y gall elusennau barhau i ddarparu'r gwasanaethau trafnidiaeth a ddarperir ar hyn o bryd a chael hyblygrwydd i addasu i anghenion sy'n newid o fewn y gymuned.
Ac yn olaf, mae'r ddau sefydliad yn sôn am ansicrwydd cyllid, natur fyrdymor y cyllid, ac yn mynegi pryderon y gallai unrhyw newidiadau i amodau trwyddedau adran 19, megis gwneud cymwysterau arbennig yn ofynnol, ychwanegu at y costau a gallai arwain o bosibl at gau'r gwasanaethau gwerthfawr ac unigryw y maent yn eu darparu. Yr hyn sy'n bwysig yn fy marn i yw bod—. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymateb i hyn, yn ystyried y dystiolaeth gan y sector trafnidiaeth gymunedol yn y ddadl hon, yn enwedig os yw Llywodraeth Cymru yn ymateb i ymgynghoriad yr Adran Drafnidiaeth ar drwyddedau trafnidaeth gymunedol. Ond hefyd, rwy'n cydnabod ac yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn gefnogol iawn i'r sector trafnidiaeth gymunedol a'r rôl unigryw y mae'n ei chwarae fel rhan o wasanaeth trafnidiaeth hygyrch, ac rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw.