Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 21 Mawrth 2018.
Byddaf yn cefnogi'r cynnig ger ein bron heddiw ar drafnidiaeth gymunedol, cynnig a gyflwynwyd gan Aelodau unigol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad amdano. Nid wyf yn bwriadu ailadrodd y cynnig cyfan, ond rwyf am bwysleisio'r pwynt agoriadol:
'bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
'1. Yn nodi bod gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, yn darparu trafnidiaeth ar gyfer pobl sy'n wynebu rhwystrau rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat, yn cefnogi pobl i fyw'n annibynnol a chael mynediad at wasanaethau hanfodol, gan hefyd liniaru materion yn ymwneud ag unigrwydd ac arwahanrwydd.'
Mae Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn gymuned wledig ac yn cwmpasu poblogaeth sydd ag ardaloedd o amddifadedd sylweddol a phoblogaeth sydd gryn dipyn yn hŷn na chyfartaledd Cymru. Heb drafnidiaeth gymunedol, byddai cymaint o fy etholwyr yn cael trafferth i gyrraedd apwyntiadau meddygol, yn brwydro i wneud eu siopa ac yn cael trafferth ymgysylltu â ffrindiau a theulu. Rwy'n cydnabod yn llwyr y meddwl arloesol a chydweithredol y mae fy narparwyr trafnidiaeth gymunedol lleol yn ei gynnig, a buaswn yn gofyn i Lywodraeth Cymru gydnabod y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae.
Mae gennyf dri maes allweddol rwyf am dynnu sylw atynt heddiw. Yn gyntaf, y gwerth i'n cymunedau. Ceir cydnabyddiaeth fod unigrwydd ac arwahanrwydd nid yn unig yn ddrwg cymdeithasol, ond eu bod hefyd ar gynnydd. Mae cymunedau'n fwy toredig, teuluoedd yn fwy gwasgaredig, a phobl, pobl hŷn yn enwedig, yn gallu cael eu gadael ar ôl. Mae gennym rai nad ydynt erioed wedi cael rhwydweithiau cymorth cryf a rhai y mae eu rhwydweithiau wedi diflannu gyda threigl amser. I lawer o'r bobl hyn, achubiaeth trafnidiaeth gymunedol mewn gwirionedd yw eu hunig bwynt cyswllt â'r byd a'u hunig alluogydd.
Er enghraifft, yn Sir Benfro, mae Ceir Cefn Gwlad yn rhedeg gwasanaeth sydd nid yn unig yn dibynnu ar y defnydd o geir gwirfoddolwyr, ond mae hefyd wedi ariannu ac wedi rhedeg cerbydau llwyddiannus sy'n gallu cludo rhywun sy'n defnyddio cadair olwyn a'u partner neu ofalwr, fel y gŵr sy'n dioddef o salwch angheuol yr oedd ei restr o bethau i'w gwneud cyn marw yn cynnwys ei awydd taer i weld ei ŵyr yn chwarae criced—i lawr y lôn, dyna i gyd, ond nid oedd ganddo ffordd arall o gyrraedd yno; neu'r dyn ifanc ynysig ac anabl iawn a allodd fenthyg un o'r ceir hygyrch am y penwythnos ac a aeth, gyda'i ddau ofalwr, i Abertawe i weld un o'i hoff fandiau a chael cyfle i fod fel pobl ifanc ledled y wlad.
Menter eithriadol arall a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yw Bydis Bws, system lle y gall pobl ffonio am fws i ddod at eu drws er mwyn hwyluso eu gallu i symud o gwmpas, ond gallant gael rhywun gyda hwy. Ond wrth gwrs, y gwir trist i nifer sylweddol o bobl yw mai'r gyrrwr sy'n eu gadael ar ddydd Gwener fydd y person olaf a welant hyd nes y bydd y gyrrwr hwnnw'n ailymddangos y dydd Mawrth canlynol. Nid oes neb—neb o gwbl—yn curo ar lawer iawn o ddrysau, sy'n feirniadaeth ar ein cymdeithas, a pham y dylem fod mor ddiolchgar i wirfoddolwyr sefydliadau fel Bydis Bws neu gynllun deialu am reid canolfan Bloomfield, neu Ceir Cefn Gwlad.
Yr ail faes yr hoffwn dynnu sylw ato yw'r rhesymau pam rydym wedi dod mor ddibynnol ar y band hwn o sefydliadau gwirfoddol, a'r pwysau enfawr sydd arnynt. Ysgrifennydd y Cabinet, ceir tair prif ddogfen strategol a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru i nodi polisïau trafnidiaeth a chymunedol: 'Ffyniant i Bawb', y cynllun gweithredu economaidd newydd a chyllideb Llywodraeth Cymru. Ac i fod yn onest, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n eu cael yn aneglur, yn anghydlynus a heb gysylltiad â'r realiti rheng flaen a welwn o ddydd i ddydd ar lawr gwlad.
Yn y gyntaf o'r rhain, dogfen y gyllideb, mae Llafur Cymru wedi cychwyn ar werth dros £100 miliwn o doriadau. Mae Llafur Cymru wedi methu'n llwyr ag adeiladu system drafnidiaeth gyhoeddus gynhwysfawr. Mae tagfeydd ar ein ffyrdd yn niweidio ein heconomi. Mae'r rhwydwaith rheilffyrdd yn gwegian o dan 15 mlynedd o gamreoli Llafur Cymru ar y fasnachfraint reilffyrdd, a chafodd gwasanaethau bws eu dinistrio'n llwyr dros y degawd diwethaf. Gyda'i gilydd, mae'r methiannau hyn o ran polisi a chyflawniad wedi creu pwysau ofnadwy ac annheg ar wasanaethau trafnidiaeth gymunedol. Mae trafnidiaeth gymunedol hefyd wedi gorfod camu i'r adwy oherwydd bod nifer y gwasanaethau bysiau cofrestredig sy'n gweithredu yng Nghymru wedi gostwng yn ddramatig yn y blynyddoedd diwethaf. Cafodd cyfanswm o 53 o wasanaethau bysiau eu lleihau, eu newid neu eu diddymu yn 2015-16 yn unig. Mae pawb ohonom yn pryderu am yr effeithiau posibl y gallai canlyniadau'r Adran Drafnidiaeth eu cael ar yr ymgynghoriad, a dyna pam, Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd hi'n ddiddorol clywed pa gynlluniau wrth gefn a allai fod gennych i liniaru unrhyw effaith ar y ddarpariaeth drafnidiaeth drwy wasanaethau bws mini.
Mae fy mhryder olaf, yn gyflym iawn, Ddirprwy Lywydd, yn ymwneud â chynaliadwyedd y gwasanaethau gwerth chweil hyn, o gofio bod y gronfa o wirfoddolwyr yn lleihau a'r galw am wasanaethau'n cynyddu. Mae pobl yn gweithio'n hwyrach yn eu bywydau, mae mwy o alwadau ar eu hamser, ac eto mae yna alw cynyddol am wasanaethau trafnidiaeth gymunedol oherwydd methiannau Llywodraeth Cymru. A byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bwriadwch fynd i'r afael â'r methiannau hynny.