Cwestiynau i Gweinidog yr Amgylchedd

QNR – Senedd Cymru ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lleihau sbwriel yn ein cymunedau?

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

Mae Llywodraeth Cymru’n anelu at sicrhau nad yw sbwriel yn amharu ar ein cymunedau drwy weithredu gwahanol raglenni a mentrau. Mae hyn yn cynnwys darparu cyllid ar gyfer awdurdodau lleol a’r trydydd sector er mwyn helpu i addysgu a chodi ymwybyddiaeth, annog ailgylchu, cefnogi prosiectau amgylcheddol cymunedol a gwella camau gorfodi.