Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 17 Ebrill 2018.
Mae adroddiad newydd gan Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru yn amcangyfrif y gallai fod 50,000 yn fwy o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi erbyn 2021 oherwydd diwygiadau lles y Llywodraeth Dorïaidd. O ystyried yr heriau yr ydym yn eu hwynebu o ran mynd i'r afael â thlodi plant a'r pryder mawr a fynegwyd ynghylch y penderfyniad i roi terfyn ar y grant gwisg ysgol yng Nghymru, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried hyn eto, ac a wnaiff Llywodraeth Cymru gymryd camau brys hefyd i sicrhau bod ei chanllawiau o 2011, y bwriadwyd iddynt sicrhau bod gwisgoedd ysgol yn fforddiadwy i deuluoedd, yn cael eu cryfhau a'u gweithredu'n briodol ledled Cymru?