Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 17 Ebrill 2018.
A gaf i roi'r sicrwydd i'r Aelod y bydd cynllun ar waith yn y flwyddyn academaidd nesaf sy'n ehangach na'r grant gwisg ysgol presennol? Bydd hwnnw o gymorth enfawr i lawer iawn o rieni a llawer iawn o blant, a bwriedir i'r broses o symud ymlaen i'r system newydd honno fod yn ddi-dor.