Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 17 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:45, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, nid yw'n rhyfel, oherwydd mae'r uchelfraint hwnnw'n perthyn i'r Frenhines. Mae yn weithredu milwrol; mae hynny'n wir. Wel, mae cynsail ar ei gyfer. Gofynnodd David Cameron am bleidlais yn y Senedd, a mater i'r Prif Weinidog presennol yw esbonio i ni pam nad oedd pleidlais y tro hwn. Ceir peryglon mawr yma. Mae Syria yn gymhleth. Nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl i y bu ymosodiad cemegol, ac mae unrhyw beth sy'n cael gwared ar y gallu i gynnal ymosodiad o'r fath yn y dyfodol yn rhywbeth y byddwn i'n ei gefnogi. Yr hyn y byddwn yn amheus iawn yn ei gylch fyddai cyflymu neu gynyddu gweithredu milwrol yn Syria, a fyddai'n arwain, yn fy marn i, yn anochel at anafiadau i sifiliaid, ac, wrth gwrs, a fyddai'n hwb i bropaganda'r gwledydd hynny sydd eisoes yn Syria ac sydd ag achos i'w ateb eu hunain am yr hyn y maen nhw'n ei wneud.