Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 17 Ebrill 2018.
Mae fy mhlaid i wedi ymrwymo i wrthwynebu'r cyrchoedd awyr symbolaidd hyn, dan arweiniad America, a hoffwn atgoffa'r Prif Weinidog mai anaml y bydd y ffordd i heddwch yn cael ei hadeiladu drwy arfau rhyfel. Nawr, mae'r effeithiolrwydd o ran atal dioddefaint yn Syria ymhell o fod yn eglur. Mae Prif Weinidog y DU ei hun wedi dweud na fwriadwyd i'r cyrchoedd hyn newid trywydd y rhyfel yn Syria a rhoi terfyn ar ddioddefaint pobl Syria. Heb i un bleidlais gael ei bwrw yn y Senedd hon, yn San Steffan, nac yn unrhyw le arall, roedd y Prif Weinidog yn gyflym iawn i ddangos ei gefnogaeth i'r cyrchoedd awyr hynny. Felly, a all ef ddweud wrth y Cynulliad hwn nawr: a yw e'n credu y dylai San Steffan allu dechrau rhyfeloedd heb unrhyw gymeradwyaeth seneddol?