Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 17 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:50, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n rhyfedd iawn bod rhywun sy'n sefyll yn y fan yma yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog bob wythnos, ac wedi methu ychydig iawn ohonynt, yn awgrymu fy mod i'n ofn craffu rywsut. Ond y gyfraith yw'r gyfraith, ac mae'n rhaid cymhwyso'r gyfraith. Nawr, ceir gwahaniaeth o ran dehongliad. Ceir dwy ffordd o ddatrys y dehongliad hwnnw, un ohonynt fyddai'r ffordd y byddwn i'n ei ffafrio, ac yr wyf i eisoes wedi ei hamlinellu, ac mae'r llall yn fwy ffurfiol, ond rwy'n credu bod ffordd o ddatrys hyn er mwyn rhoi mwy o dryloywder i'r Aelodau ac i roi i'r Llywodraeth y math o gysur sydd ei angen arni. Gofynnaf i Aelodau yn y Siambr hon, a gofynnaf i'r gwahanol bleidiau yn y Siambr hon: pe byddech chi mewn sefyllfa lle rhoddwyd dogfennau i chi yn gyfrinachol cyn canfod eich hun yn wynebu pleidlais yn mynnu y dylid cyflwyno'r dogfennau hynny, beth fyddai eich ymateb? Rydych chi eisiau bod mewn Llywodraeth; rhowch eich hun yn sefyllfa rhywun sy'n arwain Llywodraeth. Mae'n bwysig dros ben bod eglurder yn hyn o beth, a gellir datblygu'r eglurder hwnnw rwy'n gobeithio, gan weithio gyda'r Comisiwn a'r Llywydd yn y dyfodol.