Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 17 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:51, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog hefyd yn ymwybodol o is-adran (6) o adran 37, sy'n dweud, os bydd y Cynulliad yn pasio cynnig yn ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno dogfen, caiff y Prif Weinidog neu'r Llywodraeth roi cyfarwyddyd i gyfarwyddo'r person y mae'r gofyniad hwnnw'n berthnasol iddo i beidio â chydymffurfio ag ef. Byddai hynny, wrth gwrs, yn rhoi'r Llywodraeth mewn sefyllfa annifyr iawn, ond byddai'n amddiffyn rhag y canlyniadau cyfreithiol, yr oedd y Prif Weinidog yn eu hamlinellu yn gynharach. Byddai'n ymddangos yn ganlyniad rhyfedd iawn unwaith eto, o ran yr hyn a ddywedodd am sut y byddai hyn yn torri cyfrinachedd masnachol, o bosibl, a goblygiadau ehangach yr hyn y mae hyn i fod i'w beryglu, pe byddai modd celu unrhyw beth yr oedd y Prif Weinidog yn ymdrin ag ef neu y gellid atal ei gyhoeddiad, ond bod unrhyw beth y mae unrhyw Weinidog arall yn ei wneud yn hollol agored i graffu, pa un a fyddai hynny mewn llys, yn llys barn y cyhoedd neu yn y Cynulliad democrataidd hwn, sy'n cynrychioli holl bobl Cymru.