Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 17 Ebrill 2018.
Wel, yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yw gwneud hynny a mwy. Mae ein hymrwymiad i'r disgyblion mwyaf difreintiedig yno i bawb ei weld. Rydym ni wedi ei gynyddu i £93.7 miliwn trwy wariant y grant amddifadedd disgyblion. Yn ogystal ag eitemau gwisg ysgol, rydym ni hefyd yn edrych o bosibl ar gost teithiau ysgol, deunydd ysgrifennu, gweithgareddau allgyrsiol, lluniau ysgol, costau cyfarpar neu adnoddau. Ond gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yn ymwybodol er bod costau gwisg ysgol yn is, i'r mwyafrif o ysgolion, erbyn hyn, ceir ysgolion penodol nad ydynt yn gwneud digon i gadw costau i lawr o hyd. Mae hi'n ystyried a oes rhinwedd i roi canllawiau cyfredol ar gyfer gwisg ysgol ar sail statudol.