Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 17 Ebrill 2018.
Prif Weinidog, yn gyffredin â rhannau eraill o Gymru, mae plant yn fy etholaeth i hefyd wedi cael eu heffeithio gan ddiddymiad y grant gwisg ysgol. Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a awgrymwyd gennych oedd yn mynd i ddigwydd, h.y. y bydd grant olynol, ond, wrth gwrs, diddymwyd y grant presennol hwn, sydd wedi ei ddiddymu erbyn hyn, heb unrhyw ymgynghori o gwbl â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys grwpiau rhieni, ac ni fu ymgynghori ychwaith, fel y deallaf, gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. O dderbyn bod hynny'n wir, a gaf i hefyd ofyn sut y mae hynny'n dangos cydymffurfiad â'r asesiadau effaith hawliau plant y mae'n rhaid i chi fel Llywodraeth ei cynnal wrth wneud penderfyniadau o'r math hwn?