Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 17 Ebrill 2018.
Ble oedd yr ymgynghoriad ar y dreth ystafell wely? Ble oedd yr ymgynghoriad ar y taliad annibyniaeth personol? Ble oedd yr ymgynghoriad ar lanastr y credyd cynhwysol? Dim byd o gwbl. Nid wyf yn fodlon cymryd pregeth gan y Blaid Geidwadol ynglŷn ag ymgynghori. Nhw yw'r blaid fwyaf gyfrinachgar mewn Llywodraeth a gynhyrchwyd erioed. Ond gofynnodd y cwestiwn am yr hyn sydd wedi digwydd gyda'r grant gwisg ysgol. Rwyf i eisoes wedi dweud wrtho y bydd rhywbeth gwell ar waith mewn da bryd ar gyfer mis Medi.