Gwybodaeth a Gedwir gan Lywodraeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 17 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru wedi dilyn yr egwyddorion o fod yn agored mewn Llywodraeth ers blynyddoedd lawer. Rydym ni'n cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol fel Deddf Cofnodion Cyhoeddus 1958, diogelu data a rhyddid gwybodaeth. Rydym ni hefyd yn weithgar o ran yr agenda data agored a'r agenda Llywodraeth agored ehangach.