Gwybodaeth a Gedwir gan Lywodraeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 17 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:04, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, mae cais rhyddid gwybodaeth yn gwbl ar wahân i gais Deddf Diogelu Data 1998, gan fod y ceisiadau mynediad pwnc yn llawer ehangach. Maen nhw'n siŵr o fod. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae Darren Millar yn eistedd yn y fan yna yn llond ei esgidiau, yn gweiddi 'gwarthus', beth mae e'n ei feddwl sy'n digwydd yn San Steffan? Dyma'n union sy'n digwydd yn San Steffan. Mae Theresa May, pan fydd hi'n derbyn briffiau, yn—[Torri ar draws.]