Gwybodaeth a Gedwir gan Lywodraeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 17 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:08, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Os bydd Aelod yn sefyll ar ei draed yn y Siambr ac yn cwestiynu ac yn ymosod ar Aelod arall, mae gan yr Aelod hwnnw hawl i ymateb. Nid oes unrhyw achosion arbennig yn y Siambr hon. Does bosib nad yw hynny yn rhan o'r ddadl yn y Siambr hon. Yr hyn y gallaf sicrhau’r Aelodau ynglŷn ag ef yw nad oes unrhyw beiriant difenwi—mae hynny'n lol llwyr, yn gwbl anwir ac nid oes unrhyw sail iddo mewn gwirionedd.

Mae'n wir i ddweud, fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, pan fydd Aelodau yn gofyn cwestiwn, yna bydd ceisiadau yn cael eu gwneud o ran yr hyn y mae Aelod wedi ei ddweud a pha ohebiaeth a allai fod ar gael er mwyn cynorthwyo'r Gweinidog gydag ateb. Gwnaeth Gweinidogion Plaid Cymru yn union yr un peth pan oedden nhw mewn Llywodraeth, a pham? Wel, mae'n dangos parch at Aelodau. Does bosib na ddylai Gweinidogion ateb cwestiynau heb wybod dim am yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am fater penodol.