Datblygu Economaidd yng Nghasnewydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 17 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:13, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Yr wythnos hon, gwelsom y cam digynsail o ddatganiad ar y cyd rhwng Canolfan Diogelwch Seibr Cenedlaethol y DU, yr FBI ac Adran Diogelwch Cartref yr Unol Daleithiau, yn rhybuddio am risgiau cynyddol i'n seilwaith rhyngrwyd a'n caledwedd gan hacwyr a noddir gan wladwriaeth Rwsia. Mae Casnewydd ar flaen y gad o ran arbenigedd seiberddiogelwch, ac mae'r Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol ragorol wedi ei lleoli yn y ddinas honno. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu eu cael i sicrhau—gan fod angen i ni gynyddu capasiti yn y DU i wynebu'r bygythiad gwirioneddol hwn, sydd â goblygiadau economaidd a gwleidyddol i bob un ohonom—pa drafodaethau y mae'n bwriadu eu cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw hyn wedi'i ganoli yn Llundain, a bod ymateb y DU yn cael ei rannu rhwng gwahanol ddinasoedd y DU lle mae arbenigedd yn bodoli ac, yn wir, i fynd hyd yn oed ymhellach a dweud y dylid rhannu arbenigedd a chylch gwaith Canolfan Diogelwch Seibr Cenedlaethol y DU i'r ardaloedd lle ceir arbenigedd presennol eisoes, mewn lleoedd fel Casnewydd?