Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 17 Ebrill 2018.
Rwy'n cytuno, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn annerch digwyddiad ddydd Iau sy'n ymdrin â'r union bwynt hwn. Rydym ni'n cefnogi nifer o fentrau i gynorthwyo enw da technolegol y rhanbarth. Mae gennym ni Academi Meddalwedd Genedlaethol gyntaf y DU, Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol a phwynt arloesi. Mae'r Aelod yn hollol iawn i ddweud na ellir canoli'r gwaith hwn yn Llundain, nid yn unig yn economaidd, ond o safbwynt diogelwch hefyd byddwn yn amau.