Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 17 Ebrill 2018.
Ond a allech chi felly gadarnhau na fydd yna doriad yn y gyllideb sydd ar gael—yr elfen o arian sydd ar gael—i gefnogi prynu dillad ysgol? Oherwydd ymateb y llefarydd o ran y Llywodraeth i'r cerydd yn dilyn y cyhoeddiad oedd bod gwisg ysgol yn rhatach erbyn hyn. Wel, mae gen i brofiad—mae o leiaf ddwy ysgol uwchradd yn fy rhanbarth i wedi symud i wisgoedd ysgol newydd na allwch chi eu prynu mewn archfarchnadoedd. Maen nhw'n mynnu eich bod chi'n eu prynu nhw drwy ddarparwyr penodol, sydd fawr rhatach o gymharu â gwisgoedd ysgol dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae hynny'n ddadl ffals. Yr hyn sydd ei angen nawr yw sicrwydd na fydd yna grebachu yn y swm ariannol a fydd ar gael yn benodol ar gyfer gwisgoedd ysgol wrth symud ymlaen.