Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 17 Ebrill 2018.
Diolch, Llywydd dros dro.
Mae'r bwlch rhwng lefelau cyrhaeddiad dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig a'u cyfoedion yn her ryngwladol. Mae sail y bwlch yn hanesyddol ac yn gymhleth; mae wedi ei wreiddio mewn anghydraddoldeb, anfantais a systemau dosbarth. Er nad yw Cymru yn unigryw, yr ydym yn wynebu heriau penodol. Dyna pam yr wyf i wedi rhoi'r nod i gau'r bwlch wrth wraidd ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau a sicrhau system addysg a fydd yn destun balchder cenedlaethol ac yn system y bydd y cyhoedd yn ymddiried ynddi.
Ers i'r grant datblygu disgyblion gael ei gyflwyno, mae mwy na £394 miliwn wedi'i roi ar gael. Mae'r arian wedi cefnogi'r hyn sy'n cyfateb i dros 450,000 o ddysgwyr, ac rydym ni yn gweld cynnydd. Ond mae'n amlwg nad oes yna ateb cyflym. Mae'n rhaid inni feddwl am y tymor hir, a dyna pam yr ydym yn canolbwyntio fwyfwy ar y blynyddoedd cynnar ac ar ymyrraeth gynnar.
Dro ar ôl tro, dywedir wrthyf pa mor bwysig yw'r grant datblygu disgyblion. Mae'n cael effaith wirioneddol wrth godi dyheadau; meithrin hyder; gwella ymddygiad a phresenoldeb; ac yn cynnwys teuluoedd yn addysg eu plant, ac mae pob un o'r rhain yn flociau adeiladu hanfodol i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cyrraedd eu llawn botensial. Cefnogir yr adborth hwn gan werthusiad o'r grant datblygu disgyblion a gyhoeddwyd gennym ym mis Rhagfyr, a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod ysgolion yn ei ystyried yn amhrisiadwy.
Fodd bynnag, mae llawer mwy i'w wneud os yw ein dysgwyr sydd o dan fwy o anfantais yn mynd i gyflawni ar yr un lefel â'u cyfoedion, a gwelir hynny'n glir iawn yng nghanlyniadau TGAU 2017. Er na allwn gymharu'r hen fesurau â'r mesurau newydd, mae'n amlwg bod dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn llai gwydn wrth ymdrin â newidiadau'r haf diwethaf, a'r plant sy'n derbyn gofal yn llai gwydn eto. Ond fe welsom enghreifftiau rhagorol o ysgolion yn mynd yn groes i'r duedd, ble roedd eu dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim wedi'r perfformio'n well na'u cyfoedion nad ydynt yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Rydym yn gweithio'n galed i ddeall beth a wnaeth yr ysgolion hyn yn wahanol ac i sicrhau bod yr arfer rhagorol hwn yn cael ei rannu, ac yr adeiledir arno.
Mae hi hefyd yn bwysig peidio â cholli golwg ar y cynnydd sylweddol a wnaed yn y lefelau cyrhaeddiad dros y blynyddoedd diwethaf. Fe gyrhaeddodd fwy nag un ym mhob tri disgybl sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim drothwy lefel 2 yn 2016, o'i gymharu ag un ym mhob pump yn 2009. A chyrhaeddodd 23 y cant o'n plant sy'n derbyn gofal y lefel honno yn 2016, o'i gymharu â dim ond 13 y cant yn 2013. Ond gwyddom nad yw'r un mesur unigol hwn o lwyddiant addysgol yn adlewyrchu system addysg fodern. Mae angen i fesurau perfformiad yrru cwricwlwm cynhwysol ac amrywiol sy'n fuddiol i'r holl ddisgyblion, felly rydym yn datblygu cyfres o fesurau a fydd yn canolbwyntio ar gynnydd a gwerth ychwanegol, yn ogystal â chyrhaeddiad cyffredinol.
Yn y cyfamser, yr ydym yn ehangu'r grant datblygu disgyblion ymhellach i ddarparu pecyn cymorth gwell ar gyfer ein dysgwyr dan anfantais. O'r mis hwn, rwyf wedi cynyddu'r grant datblygu disgyblion ar gyfer disgyblion blynyddoedd cynnar o £600 i £700, sy'n gynnydd ar y cymorth ariannol a ddyblwyd y llynedd o £300 i £600, ac yn adlewyrchu pwysigrwydd ymyrraeth gynnar i ddymchwel y rhwystrau hynny a grëir yn aml gan dlodi ac anfantais. Rwyf wedi ehangu diffiniad y grant datblygu disgyblion i roi mwy o hyblygrwydd i ysgolion gefnogi dysgwyr a fu'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Mae hyn yn ymateb i bryderon bod y pwynt casglu data unigol yn artiffisial a bydd yn hybu creadigrwydd wrth ddefnyddio'r arian.
Yn hollbwysig, yr wyf hefyd wedi gwarantu lefelau dyraniad ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf. Bydd hyn, ynghyd â'n hymrwymiad i'r grant datblygu disgyblion dros weddill tymor y Cynulliad, yn rhoi lefel o sicrwydd i ysgolion ar adeg o ansicrwydd ac adeg o her ariannol sylweddol. Mae cyflwyno'r credyd cynhwysol, sydd ar fin digwydd, yn ffactor arwyddocaol yn y sefyllfa ansicr hon. Roedd cael amser i asesu a chynllunio ar gyfer goblygiadau llawn credyd cynhwysol yn ffactor pwysig wrth i mi benderfynu pennu lefelau'r dyraniad ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Tra bo agenda o gyni Llywodraeth y DU yn parhau i roi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru dan bwysau, gallwn ni o leiaf gynnig rhywfaint o sicrwydd o ran y grant datblygu disgyblion i ysgolion tan fis Mawrth 2020. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i gyllid wedi'i dargedu. Cyflwynwyd tystiolaeth i'r Pwyllgor yn awgrymu nad yw'r grant datblygu disgyblion bob amser yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob dysgwr cymwys, gan ganolbwyntio weithiau dim ond ar y rhai hynny sy'n cael trafferth academaidd. Gadewch imi fod yn glir iawn: mae'r grant datblygu disgyblion ar gael i gefnogi pob dysgwr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a dysgwyr sy'n derbyn gofal, gan gynnwys y rhai sy'n fwy galluog. Nid yw'r sefyllfa hon yn newydd, ond rwyf yn awyddus i atgyfnerthu ei bwysigrwydd ac yr wyf eisiau gweld ymarferwyr yn adeiladu ar arferion da cyfredol.
Roeddwn yn falch iawn o glywed bod Estyn yn cydnabod, yn ei dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor, bod y grant datblygu disgyblion yn un o'r meysydd penderfyniadau hynny ble mae ysgolion yn gwneud y defnydd gorau o dystiolaeth. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau ymyriadau effeithiol a gwerth am arian. Gall ysgolion ddibynnu hefyd ar gymorth consortia rhanbarthol, ac mae'r grant yn mynnu bod ganddynt gynghorydd strategol grant datblygu disgyblion a chydgysylltydd grant datblygu disgyblion ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Yn ogystal â darparu cymorth hanfodol, arweinyddiaeth a heriau ar draws eu rhanbarthau, mae arweinwyr y consortia hyn yn gweithio ar lefel genedlaethol gyda fy swyddogion a'n heiriolwr codi cyrhaeddiad, Syr Alasdair MacDonald, i ddarparu rhaglen waith genedlaethol i sbarduno cynnydd drwyddi draw. Bydd y rhaglen hon yn adlewyrchu canfyddiadau'r gwerthusiadau sydd ar y gweill o elfennau'r grant sy'n ymwneud â phlant blynyddoedd cynnar a phlant sy'n derbyn gofal.
Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod yn rhaid inni barhau i roi blaenoriaeth i gau'r bwlch cyrhaeddiad. Mae gennym ddyletswydd foesol i sicrhau y caiff pob dysgwr gyfle cyfartal i gyrraedd eu potensial, beth bynnag yw hynny. Dyna yw ein her, ac rwyf yn llwyr ymrwymo i'w bodloni. Diolch, Llywydd dros dro.