– Senedd Cymru am 3:52 pm ar 17 Ebrill 2018.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: diweddariad a chamau nesaf y grant datblygu disgyblion. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Kirsty Williams.
Diolch, Llywydd dros dro.
Mae'r bwlch rhwng lefelau cyrhaeddiad dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig a'u cyfoedion yn her ryngwladol. Mae sail y bwlch yn hanesyddol ac yn gymhleth; mae wedi ei wreiddio mewn anghydraddoldeb, anfantais a systemau dosbarth. Er nad yw Cymru yn unigryw, yr ydym yn wynebu heriau penodol. Dyna pam yr wyf i wedi rhoi'r nod i gau'r bwlch wrth wraidd ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau a sicrhau system addysg a fydd yn destun balchder cenedlaethol ac yn system y bydd y cyhoedd yn ymddiried ynddi.
Ers i'r grant datblygu disgyblion gael ei gyflwyno, mae mwy na £394 miliwn wedi'i roi ar gael. Mae'r arian wedi cefnogi'r hyn sy'n cyfateb i dros 450,000 o ddysgwyr, ac rydym ni yn gweld cynnydd. Ond mae'n amlwg nad oes yna ateb cyflym. Mae'n rhaid inni feddwl am y tymor hir, a dyna pam yr ydym yn canolbwyntio fwyfwy ar y blynyddoedd cynnar ac ar ymyrraeth gynnar.
Dro ar ôl tro, dywedir wrthyf pa mor bwysig yw'r grant datblygu disgyblion. Mae'n cael effaith wirioneddol wrth godi dyheadau; meithrin hyder; gwella ymddygiad a phresenoldeb; ac yn cynnwys teuluoedd yn addysg eu plant, ac mae pob un o'r rhain yn flociau adeiladu hanfodol i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cyrraedd eu llawn botensial. Cefnogir yr adborth hwn gan werthusiad o'r grant datblygu disgyblion a gyhoeddwyd gennym ym mis Rhagfyr, a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod ysgolion yn ei ystyried yn amhrisiadwy.
Fodd bynnag, mae llawer mwy i'w wneud os yw ein dysgwyr sydd o dan fwy o anfantais yn mynd i gyflawni ar yr un lefel â'u cyfoedion, a gwelir hynny'n glir iawn yng nghanlyniadau TGAU 2017. Er na allwn gymharu'r hen fesurau â'r mesurau newydd, mae'n amlwg bod dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn llai gwydn wrth ymdrin â newidiadau'r haf diwethaf, a'r plant sy'n derbyn gofal yn llai gwydn eto. Ond fe welsom enghreifftiau rhagorol o ysgolion yn mynd yn groes i'r duedd, ble roedd eu dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim wedi'r perfformio'n well na'u cyfoedion nad ydynt yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Rydym yn gweithio'n galed i ddeall beth a wnaeth yr ysgolion hyn yn wahanol ac i sicrhau bod yr arfer rhagorol hwn yn cael ei rannu, ac yr adeiledir arno.
Mae hi hefyd yn bwysig peidio â cholli golwg ar y cynnydd sylweddol a wnaed yn y lefelau cyrhaeddiad dros y blynyddoedd diwethaf. Fe gyrhaeddodd fwy nag un ym mhob tri disgybl sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim drothwy lefel 2 yn 2016, o'i gymharu ag un ym mhob pump yn 2009. A chyrhaeddodd 23 y cant o'n plant sy'n derbyn gofal y lefel honno yn 2016, o'i gymharu â dim ond 13 y cant yn 2013. Ond gwyddom nad yw'r un mesur unigol hwn o lwyddiant addysgol yn adlewyrchu system addysg fodern. Mae angen i fesurau perfformiad yrru cwricwlwm cynhwysol ac amrywiol sy'n fuddiol i'r holl ddisgyblion, felly rydym yn datblygu cyfres o fesurau a fydd yn canolbwyntio ar gynnydd a gwerth ychwanegol, yn ogystal â chyrhaeddiad cyffredinol.
Yn y cyfamser, yr ydym yn ehangu'r grant datblygu disgyblion ymhellach i ddarparu pecyn cymorth gwell ar gyfer ein dysgwyr dan anfantais. O'r mis hwn, rwyf wedi cynyddu'r grant datblygu disgyblion ar gyfer disgyblion blynyddoedd cynnar o £600 i £700, sy'n gynnydd ar y cymorth ariannol a ddyblwyd y llynedd o £300 i £600, ac yn adlewyrchu pwysigrwydd ymyrraeth gynnar i ddymchwel y rhwystrau hynny a grëir yn aml gan dlodi ac anfantais. Rwyf wedi ehangu diffiniad y grant datblygu disgyblion i roi mwy o hyblygrwydd i ysgolion gefnogi dysgwyr a fu'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Mae hyn yn ymateb i bryderon bod y pwynt casglu data unigol yn artiffisial a bydd yn hybu creadigrwydd wrth ddefnyddio'r arian.
Yn hollbwysig, yr wyf hefyd wedi gwarantu lefelau dyraniad ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf. Bydd hyn, ynghyd â'n hymrwymiad i'r grant datblygu disgyblion dros weddill tymor y Cynulliad, yn rhoi lefel o sicrwydd i ysgolion ar adeg o ansicrwydd ac adeg o her ariannol sylweddol. Mae cyflwyno'r credyd cynhwysol, sydd ar fin digwydd, yn ffactor arwyddocaol yn y sefyllfa ansicr hon. Roedd cael amser i asesu a chynllunio ar gyfer goblygiadau llawn credyd cynhwysol yn ffactor pwysig wrth i mi benderfynu pennu lefelau'r dyraniad ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Tra bo agenda o gyni Llywodraeth y DU yn parhau i roi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru dan bwysau, gallwn ni o leiaf gynnig rhywfaint o sicrwydd o ran y grant datblygu disgyblion i ysgolion tan fis Mawrth 2020. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i gyllid wedi'i dargedu. Cyflwynwyd tystiolaeth i'r Pwyllgor yn awgrymu nad yw'r grant datblygu disgyblion bob amser yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob dysgwr cymwys, gan ganolbwyntio weithiau dim ond ar y rhai hynny sy'n cael trafferth academaidd. Gadewch imi fod yn glir iawn: mae'r grant datblygu disgyblion ar gael i gefnogi pob dysgwr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a dysgwyr sy'n derbyn gofal, gan gynnwys y rhai sy'n fwy galluog. Nid yw'r sefyllfa hon yn newydd, ond rwyf yn awyddus i atgyfnerthu ei bwysigrwydd ac yr wyf eisiau gweld ymarferwyr yn adeiladu ar arferion da cyfredol.
Roeddwn yn falch iawn o glywed bod Estyn yn cydnabod, yn ei dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor, bod y grant datblygu disgyblion yn un o'r meysydd penderfyniadau hynny ble mae ysgolion yn gwneud y defnydd gorau o dystiolaeth. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau ymyriadau effeithiol a gwerth am arian. Gall ysgolion ddibynnu hefyd ar gymorth consortia rhanbarthol, ac mae'r grant yn mynnu bod ganddynt gynghorydd strategol grant datblygu disgyblion a chydgysylltydd grant datblygu disgyblion ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Yn ogystal â darparu cymorth hanfodol, arweinyddiaeth a heriau ar draws eu rhanbarthau, mae arweinwyr y consortia hyn yn gweithio ar lefel genedlaethol gyda fy swyddogion a'n heiriolwr codi cyrhaeddiad, Syr Alasdair MacDonald, i ddarparu rhaglen waith genedlaethol i sbarduno cynnydd drwyddi draw. Bydd y rhaglen hon yn adlewyrchu canfyddiadau'r gwerthusiadau sydd ar y gweill o elfennau'r grant sy'n ymwneud â phlant blynyddoedd cynnar a phlant sy'n derbyn gofal.
Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod yn rhaid inni barhau i roi blaenoriaeth i gau'r bwlch cyrhaeddiad. Mae gennym ddyletswydd foesol i sicrhau y caiff pob dysgwr gyfle cyfartal i gyrraedd eu potensial, beth bynnag yw hynny. Dyna yw ein her, ac rwyf yn llwyr ymrwymo i'w bodloni. Diolch, Llywydd dros dro.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Darren Millar.
Diolch, Cadeirydd. Gwrandewch, er fy mod yn croesawu unrhyw gyllid ychwanegol y gallech ei gyhoeddi ar ran Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgwyr yn ein hysgolion, yn enwedig y rhai hynny sydd dan anfantais, mae'n rhaid imi ddweud bod amseriad y cyhoeddiad hwn wedi fy siomi; rwy'n credu eich bod yn anghwrtais iawn wrth y Cynulliad Cenedlaethol, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'i Gadeirydd wrth wneud y cyhoeddiad hwn, dim ond oherwydd hwylustod cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y ciosg lle cafodd ei chynnal, mae'n siŵr, yng Nghaerdydd dros y penwythnos.
Rwy'n credu y dylech fod wedi cyhoeddi hyn yn y Siambr, nid i aelodau eich plaid, ac a dweud y gwir, mae'n wir wrthun gennyf, oherwydd chi fyddai'r cyntaf i weiddi a beirniadu'r math hwn o ymddygiad pan oeddech chi ar feinciau'r gwrthbleidiau cyn ichi ymuno â'r Llywodraeth ddi-drefn hon, felly rwy'n siomedig iawn eich bod chi wedi gwneud y cyhoeddiad yn y modd hwn, a chredaf ei fod yn dangos diffyg parch sylweddol tuag at y pwyllgor plant a phobl ifanc yn arbennig, yn enwedig gan ein bod yng nghanol ymchwiliad i gyllid wedi'i dargedu ar gyfer plant a phobl ifanc yn ein hysgolion. Ac rydych yn gwybod, o fewn maes yr ymchwiliad hwnnw, ein bod ni'n edrych ar y grant datblygu disgyblion a'i effeithiolrwydd ac fe fyddwn, mae'n debyg, yn gwneud nifer fawr o argymhellion ynghylch ffurf y grant hwnnw yn y dyfodol. Felly, wn i ddim pam yr ydych chi wedi gwneud hyn yn awr. Dylech chi fod wedi aros i gael yr adroddiad hwnnw, yn hytrach nag achub y blaen gyda rhagymosodiad heddiw. Felly, siomedig iawn yn wir, ac yr wyf yn siomedig iawn eich bod chi wedi gosod o'r neilltu'r moesau yr oedd gennych pan oeddech chi yn yr wrthblaid o ran y mathau hyn o gyhoeddiadau.
Yn awr, wedi dweud hynny, mae gennyf nifer o gwestiynau, fel y gallwch ddychmygu, ynglŷn â'ch cyhoeddiad. Rydych wedi nodi eich bod wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd i awdurdodau addysg lleol o ran yr arian yr ydych wedi ei ddarparu hyd at ddiwedd tymor y Cynulliad, ond, fel y deallaf, rydych wedi seilio'r dyraniadau ar ddata cyfrifiad ysgolion 2016. Pam y dewisoch chi seilio'r dyraniadau ar ddata cyfrifiad ysgolion 2016 yn hytrach nag un 2017, sydd ar gael i chi? A yw wedi'i sefydlu nawr ar ddata 2016, er eich bod chi'n gwybod bod niferoedd y plant a phobl ifanc a allai fod yn gymwys ar gyfer grant amddifadedd disgyblion yn newid o flwyddyn i flwyddyn yn ein hysgolion? Mae ysgolion yn fy etholaeth i fy hun wedi cysylltu i ddweud 'Dydyn ni ddim wedi cael ceiniog o'r grant amddifadedd disgyblion eleni, er bod gennym ddisgyblion a ddylai fod â hawl i'r grant, yn ôl meini prawf Llywodraeth Cymru, ac mae hyn oherwydd eu bod wedi defnyddio hen ddata o'r flwyddyn flaenorol'. Pam dewisoch chi wneud hynny? Yn sicr dydi hynny ddim yn ymddangos yn deg o gwbl. Felly, gwerthfawrogwn eglurhad ynglŷn â pham wnaethoch chi hynny.
Yr wyf yn falch o glywed eich bod yn cydnabod ei bod hi'n bwysig iawn bod pob dysgwr sydd â hawl i'r grant hwn yn cael y cyfle i ddatblygu i'w botensial llawn, gan gynnwys y rhai sy'n fwy galluog a thalentog. Un peth sydd wedi bod yn glir iawn o'r dystiolaeth sydd wedi cyrraedd y Pwyllgor yw eu bod wedi eu hanwybyddu i raddau helaeth hyd yma o ran yr ymdrechion sydd wedi'u gwneud, a chredaf ei bod yn bwysig iawn, nid yn unig eich bod yn anfon neges glir gan ddweud ychydig o eiriau yn y Siambr hon, ond bod canllawiau clir ac ymarferol yn cael eu rhoi i'n hawdurdodau addysg lleol, consortia rhanbarthol ac i'n hysgolion. Felly, gofynnaf i chi: a wnewch chi gyhoeddi canllawiau o'r fath yn y dyfodol ar bethau sydd ar gael i bobl eu defnyddio, sydd yn unol ag arfer gorau i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer y dysgwyr hynny?
Fe gyfeirioch at y ffaith mai nod y gronfa hon yw cau'r bwlch o ran cyrhaeddiad addysgol. Rydym yn gwybod bod y bwlch hwnnw wedi agor yn sylweddol yn 2017. Yn awr, yr wyf yn gwerthfawrogi eich bod yn dweud na allwch gymharu'n uniongyrchol â'r flwyddyn flaenorol o reidrwydd oherwydd rydych wedi newid y mesurau; mae'n beth arferol i bob Llywodraeth newid mesurau pan nad ydy hi'n hoffi'r mesurau sydd yn eu lle, ond y realiti yw, hyd yn oed os gymrwch chi'r newidiadau hynny yn y mesurau i ystyriaeth, roedd y bwlch yn dal i dyfu. Felly, er gwaetha'r ffaith eich bod yn cynyddu'r grant datblygu disgyblion, mae'n ymddangos fod ei effeithiolrwydd yn lleihau o ran ei allu i gau'r bwlch hwnnw. Felly, tybed pa waith yr ydych yn ei wneud i ganfod pam yn union fod y bwlch hwnnw'n tyfu er gwaethaf yr adnoddau ychwanegol yr ydych yn eu rhoi i mewn.
Yn olaf, os caf, un cwestiwn y mae llawer o bobl yn gofyn imi yw pam nad oes neb yn cydnabod yr unigolion hynny nad ydynt yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim, mewn ysgolion ble mae'r cyllid wedi gostwng yn sylweddol o ganlyniad i'r ymgyrch gynyddol i gynyddu'r grant hwn ar draul y pot cyllid cyffredinol ar gyfer ein hysgolion. Fe wyddoch chi a fi ein dau, pan fyddwch yn cynyddu grant penodol, fod yn rhaid i chi leihau'r dyraniad gwariant cyffredinol y mae'r ysgolion yn ei gael. Ceir llawer o rieni yn crafu byw yn yr ysgolion hynny ble mae gennych chi bobl ifanc sydd o gefndiroedd difreintiedig, ac, a dweud y gwir, nid yw'r mesur a ddefnyddiwn ar gyfer prydau ysgol am ddim, o reidrwydd yr un gorau, ac, unwaith eto, mae hyn wedi dod yn amlwg yn rhywfaint o'r dystiolaeth. Nawr, un o'r pethau sydd wedi ei awgrymu yw defnyddio'r mesur Ever 6, sy'n edrych ar yr unigolion sydd wedi bod yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim dros y chwe blynedd diwethaf, yn hytrach na chymryd un cipolwg yn ystod un flwyddyn arbennig. Tybed a ydych chi wedi ystyried defnyddio mesur Ever 6 erioed o ran cymhwysedd, yn hytrach na'r meini prawf cymhwysedd yr ydych yn eu defnyddio ar hyn o bryd. Diolch.
A gaf i ddiolch i Darren am ei gyfres o gwestiynau? Efallai y gallaf ddechrau lle y gorffennodd ef. Ar y naill llaw, dywed Darren, 'Rydych yn gwario gormod o arian ar y grant datblygu disgyblion, a hynny ar draul plant heb grant datblygu disgyblion yn yr ysgolion,' ac ar y llaw arall, mae'n dweud, 'Pam nad ydych wedi cyflwyno Ever 6 erioed?' [Torri ar draws.] 'Pam nad ydych wedi cyflwyno Ever 6 erioed?' Byddwn wrth fy modd—ac rwyf wedi edrych yn ofalus iawn ar yr egwyddor o allu cyflwyno system Ever 6 yma gyda grant datblygu disgyblion Cymru. Yn syml, nid yw'r adnoddau ar gael imi wneud hynny. I weithredu Ever 6 byddwn yn gwneud beth oedd Darren yn fy nghyhuddo o'i wneud—sef blaenoriaethu gwario ar y grant hwn ar draul plant eraill. Nawr, Darren, byddwn yn cytuno â chi nad prydau ysgol am ddim yw'r procsi perffaith ar gyfer diffinio anfantais, ond, ar yr adeg hon ac yn absenoldeb unrhyw beth arall, hwn yw'r procsi gorau sydd gennym ar hyn o bryd.
Gofynnodd Darren hefyd am y mater o arfer gorau. Yn gynyddol, rydym yn ymwybodol o'r hyn sy'n gweithio ar gyfer ein plant mwyaf difreintiedig, ac rydym eisoes wedi cyhoeddi canllawiau i ysgolion ac i gonsortia rhanbarthol unigol ynglŷn â defnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wario'r adnoddau hyn. Un o'r adnoddau mwyaf hygyrch yw pecyn cymorth Ymddiriedolaeth Sutton, y gwn fod Darren a'r Pwyllgor yn gyfarwydd iawn ag ef, fel ymyriad seiliedig ar dystiolaeth sy'n gyfarwydd i ni yr ydym yn gwybod ei fod yn gweithio. Bydd Darren hefyd yn gwybod, o'r dystiolaeth a roddais i'r Pwyllgor cyn toriad y Pasg, ein bod ni'n ystyried edrych ar fersiwn i Gymru o becyn cymorth Ymddiriedolaeth Sutton, gan adeiladu ar ymyriadau Cymru, profiad Cymreig, ac ar yr hyn y gwyddom ni sy'n gweithio yma yn ein hysgolion. Ond, fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, mae Estyn ei hunan wedi dweud bod hwn yn un grant lle ceir tystiolaeth helaeth bod ysgolion yn defnyddio tystiolaeth i gyfeirio eu buddsoddiadau.
Gofynnodd Darren ynghylch y mater yn ymwneud â data CYBLD 2016 a defnyddio data CYBLD. Yr hyn sy'n bwysig i'w ddeall yw bod dyraniadau'r grant datblygu disgyblion o hyd ar ei hôl hi—dyna sut y buont erioed. Gofynnodd Darren gwestiwn rhesymol iawn—pam y dewisom ni 2016 fel y sylfaen ar gyfer y ddwy flynedd nesaf? Fe wnes i hynny am reswm syml iawn, Llywydd dros dro. Fe ddefnyddion ni'r data hwnnw oherwydd y mae'n fy ngalluogi i roi cymaint o arian â phosibl i mewn i'r system, oherwydd, mewn gwirionedd, oherwydd amrywiaeth o ffactorau, mae prydau ysgol am ddim yn lleihau. Felly, mae 2016 yn rhoi mwy o arian imi na defnyddio data 2017, ac rydym wedi ei rewi am ddwy flynedd mewn ymgynghoriad â'r proffesiwn, oherwydd nid ydym yn gwybod, ar hyn o bryd, beth fydd effaith cyflwyno'r credyd cynhwysol ar brydau ysgol am ddim yng Nghymru. Efallai y gwelwn ni newidiadau mewn ymddygiad a fyddai'n arwain at amrywiadau enfawr yn y niferoedd sy'n cymryd prydau ysgol am ddim ac, felly, amrywiadau mawr mewn cyllidebau ysgolion unigol. Rydym wedi penderfynu ei bod yn well—mae'n well—gallu rhoi sicrwydd adnoddau ar gyfer ysgolion ar gyfer y ddwy flynedd nesaf er mwyn iddynt allu cynllunio, yn hytrach na chymryd siawns ar beth fydd effaith y credyd cynhwysol ar y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim, oherwydd nid wyf yn gwybod beth fydd hynny. Fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef, Darren, bod ein hysgolion mewn cyfnod heriol iawn yn ariannol, sicrwydd o ran y gyllideb honno sy'n bwysig i'r ymarferwyr hynny, ac mae data 2016 yn rhoi mwy o arian imi na fyddai data 2017, ac rwy'n ceisio cael cymaint o arian ag y gallaf i mewn i'r system. A dyna'r rheswm dros y buddsoddiad hwnnw.
Mae'r ffigurau yn 2017 yn gymhleth, ac, er na allwn wneud cymariaethau uniongyrchol, yr oeddwn yn glir iawn yn fy natganiad bod y plant hynny yn llai gwydn i wrthsefyll y newidiadau i'w harholiadau na'u cyfoedion mwy cefnog, ac mae'n rhaid inni fod yn glir ynghylch y rhesymau dros hynny, ac mae llu o resymau—popeth o eirfa haen 2 a lefel llafaredd sydd eu hangen bellach i gael cymhwyster mathemateg, i bobl sy'n cael eu tynnu allan o bynciau craidd eraill er mwyn llwyddo mewn Saesneg a mathemateg. Ceir llu o resymau, ond rwyf hefyd yn ymchwilio i hyn gyda goruchwylwyr annibynnol ein system gymwysterau, Cymwysterau Cymru, i gael gwell dealltwriaeth. Ond gadewch i ni fod yn glir: ceir rhai ysgolion lle gwelir disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim yn gwneud yn well na'r disgyblion nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim. Felly, Cefn Hengoed yn Abertawe: fe wnaeth y rhai sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn well yn eu harholiadau TGAU y llynedd na'u cymheiriaid mwy cefnog. Ceir rhai ysgolion o fewn Dinas Caerdydd gyda niferoedd tebyg iawn yn cael prydau ysgol am ddim. Mae gan rai o'r ysgolion hynny nifer sylweddol o'r disgyblion hynny yn llwyddo yn eu lefel 2 plws, a charfan debyg yn yr un ddinas heb wneud cystal. Ac mae'r amrywiad yna yn y system, lle mae rhai ysgolion wedi gallu ynysu eu disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim a'u datblygu'n llwyddiannus, ac ysgolion eraill yn yr un ddinas yn methu â gwneud hyn, yn fy mhryderu. A dyna pam y byddwn ni'n disgwyl i'n cydgysylltwyr grant datblygu disgyblion yn ein consortia rhanbarthol sicrhau bod arferion gorau—lle mae'r ysgolion hynny sy'n mynd yn groes i'r duedd a'r disgyblion yn gwneud yn dda, bod eu harferion da yn cael eu rhannu'n gyson â'r holl ysgolion. Oherwydd os gall rhai wneud hynny, yna dylai pob un fod yn gallu gwneud hynny.
Rydw i'n ofni y bydd yn rhaid i fi hefyd ddechrau drwy adleisio sylwadau'r llefarydd blaenorol ynglŷn ag amseru'r datganiad yma. Rydw i yn teimlo ei fod e'n dangos ychydig o sarhad tuag at waith y pwyllgor, oherwydd rŷm ni fater o wythnosau o gyhoeddi adroddiad ar y grantiau cefnogi ysgolion, a fydd, wrth gwrs, â ffocws cryf ar y PDG, a dyma ni yn cael datganiad gan y Llywodraeth sydd, felly, yn awgrymu nad ŷch chi'n barod i aros i weld beth fydd gan yr adroddiad i'w ddweud ar rai o'r materion yma. Felly, mae hynny yn destun siom, a hefyd, ocê, fe gewch chi ei gyhoeddi fe i'ch cynhadledd plaid os ŷch chi eisiau, ond y Senedd yma sy'n gosod eich cyllideb chi, ac i'r Senedd yma y dylech chi fod yn atebol ac yn gwneud datganiadau yn y lle cyntaf.
Nawr, wrth gwrs, mae rhywun yn croesawu unrhyw arian ychwanegol, yn enwedig i'r PDG blynyddoedd cynnar. Rŷm ni wastad wedi dweud bod angen y buddsoddiad yna rhag blaen, yn y blynyddoedd cynnar, oherwydd dyna pryd maen nhw'n mynd i gael yr effaith cryfaf, ac felly mae hynny yn gam positif, yn ogystal, wrth gwrs, â symud i gylch ariannu dwy flynedd. Nawr, mae yna gwestiynau yn dal i fod, rydw i'n ofni, ynglŷn ag ai dyma'r defnydd gorau o'r arian yna. Mae'n hen ddadl sydd wedi rhygnu ymlaen ers blynyddoedd, rydw i'n gwybod, ynglŷn â pha fath o return byddai rhywun yn gallu ei gael am bron i £400 miliwn drwy ei ddefnyddio fe mewn ffyrdd eraill. Ac mae'n rhaid cofio, roedd y trend o gau'r bwlch yma rhwng cyrhaeddiad y rhai sydd yn gymwys i ginio ysgol am ddim a'r rhai sydd ddim wedi cychwyn cyn cyflwyno'r PDG, felly mae yna fwy o waith i'w wneud, ac rydw i'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod bod yna wastad mwy o waith i'w wneud, i brofi bod y buddsoddiad yma yn uchafu gwerth o safbwynt cyflawni polisi'r Llywodraeth yma.
Nawr, nid oes cwestiynu'r gwerth y mae ysgolion yn rhoi ar y buddsoddiad yma, wrth gwrs. Ni fyddwn i'n dadlau hynny am funud, ond, yn y dystiolaeth rŷm ni wedi'i chael fel pwyllgor, a hefyd yn yr ymweliadau rydw i wedi'u gwneud â nifer o ysgolion, nid yw e wastad yn gwerthfawrogi'r arian er mwyn cyflawni'r pwrpas y mae e'n cael ei roi, ond yn fwy i sybsideiddio toriadau mewn ariannu craidd ysgolion. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn cael ei wneud mewn gwahanol ffyrdd, sydd yn ticio bocsys y Llywodraeth ond sydd hefyd, efallai, i ddefnyddio term sydd wedi cael ei ddefnyddio i fi gan rywun o'r sector, 'yn papuro dros lawer o'r craciau'. Felly, mae yna gwestiynau ynglŷn ag a ydy'r Llywodraeth yn hyderus bod y pres yn cael ei ddefnyddio, bob tro, i'r pwrpas y'i fwriadwyd e.
Ac a oes yna ystyriaeth wedi'i rhoi—? Efallai bod angen i ni gael trafodaeth ynglŷn â symud y pres yma i ariannu craidd ysgolion drwy'r grant cynnal refeniw, oherwydd rŷch chi'n sôn mwy a mwy am roi hyblygrwydd i ysgolion i'w ddefnyddio fe mewn modd y maen nhw'n teimlo sy'n addas o safbwynt cyflawni'r pwrpas yr ŷch chi'n ei roi e iddyn nhw, ond rydw i jest yn gweld anghysondeb fan hyn o ran polisi, oherwydd rydw i'n siŵr y byddech chi—ac rydw i'n gweld wrth eich wyneb chi y byddech chi—yn dadlau ei bod hi'n bwysig amddiffyn hwn fel grant penodol sydd â chriteria arbennig y byddech chi'n disgwyl i ysgolion i'w cyflawni, ond wrth gwrs rŷch chi'n cael gwared ar grantiau eraill ac yn eu rhoi nhw i mewn i'r RSG, a phan fyddem ni'n mynegi consérn wedyn efallai fod yna golli ffocws yn mynd i fod, 'O, na, na, na—rŷm ni'n mynd i roi pwyslais newydd ar allbynnau a chanlyniadau a sicrhau ein bod ni'n gallu tracio defnydd yr arian.'
Felly, mae yna anghysondeb, rydw i'n meddwl, yn y modd y mae'r Llywodraeth yn dynesu at wahanol ddulliau o ddarparu arian i ysgolion. Rydw i yn meddwl, efallai, bod angen trafodaeth. Nid wyf yn siŵr fy hun beth yw’r ateb, ond rydw i jest yn gweld yr anghysondeb yna, heb sôn wedyn, wrth gwrs, fod peth o’r arian yn mynd i ysgolion, peth yn mynd i awdurdodau lleol a pheth grantiau’n dod drwy’r consortia. Mae’r adborth rydw i’n ei gael oddi wrth ysgolion yn awgrymu efallai bod yna drafodaeth a darn o waith angen ei wneud o gwmpas hynny.
A gaf i ofyn hefyd—? Yn sgil y pwynt yr oeddwn i’n ei wneud ynglŷn â’r angen i fonitro effaith y PDG, roeddech chi’n sôn am roi ffocws cynyddol ar gynnydd, neu progress, ac ychwanegu gwerth yn y datganiad. A allwch chi, efallai, sôn ychydig ynglŷn â pha fesuryddion rydych chi’n eu hystyried, neu beth rydych chi’n edrych i’w fesur? Mae’n beth anodd iawn i fesur yn y cyd-destun yna, a byddai ychydig o eglurder ar hynny yn dderbyniol iawn.
A gaf i groesawu’r ffaith eich bod chi yn symud i gylchdro dwy flynedd o ariannu'r PDG? Oherwydd mae’r adborth ynglŷn â pha mor anodd yw hi i fynd o flwyddyn i flwyddyn yn un sydd wedi dod drwyddo’n glir o sawl cyfeiriad. A gaf i ddweud, hefyd, bod Cyngor Gwynedd wedi bod yn gwarantu arian i’w hysgolion nhw dros dymor hirach na dim ond blwyddyn yn barod? Felly, mae’n amlwg bod angen gwneud hynny ar lawr gwlad, ac mae’n dda bod hynny’n cael ei adlewyrchu yn eich penderfyniad chi, er, wrth gwrs, roeddech chi’n ei fframio yng nghyd-destun universal credit, ac mae hynny’n ddigon rhesymol, ond byddwn i’n dadlau mai nid dim ond oherwydd universal credit—buaswn i’n gobeithio ei fod yn benderfyniad sydd yn rhywbeth y tu hwnt i hynny. Rydym ni yn fyr o’r sefyllfa yn Lloegr, wrth gwrs, fel yr oeddem ni’n clywed am yr Ever 6, ond mae’n sicr yn gam i’r cyfeiriad iawn, ac rydw i'n croesawu hynny.
Rydym ni wedi cyfeirio at sylwadau Estyn ynglŷn â’r PDG. Wrth gwrs, mae Estyn hefyd yn dweud mai dim ond dwy ran o dair o ysgolion sy’n defnyddio’r PDG yn effeithiol, felly mae hynny’n gadael un rhan o dair sydd ddim. Byddwn i’n licio clywed pa gamau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod potensial yr incwm yma yn cael ei facsimeiddio ym mhob ysgol, yn enwedig yn y traean yna lle mae Estyn yn teimlo nad ydyn nhw’n gwneud y defnydd gorau neu ddefnydd effeithiol o’r PDG.
Yn olaf gen i, mi gawsom ni ambell gwestiwn yn gynharach ynglŷn â diddymu’r grant gwisg ysgol. Yn ei ateb, mi wnaeth y Prif Weinidog ddweud y byddai’n cael ei droi i mewn i gronfa mwy hyblyg—rhywbeth fyddai’n gallu rhoi cefnogaeth ychwanegol i ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig, a rhywbeth, efallai, fyddai’n talu am dripiau ysgol neu brofiadau penodol iddyn nhw. Mae’n swnio’n debyg iawn i’r PDG. Efallai y gallech chi ymhelaethu ychydig ynglŷn â sut y bydd yn wahanol. Diolch.
Diolch, Llyr, am hynny. Rwyf eisiau dechrau drwy ddweud fy mod i'n ddiolchgar eich bod yn cydnabod yr angen i roi sefydlogrwydd i ysgolion cymaint ag y gallwn, a dyna pam y mae'r penderfyniad wedi'i wneud. Mae hynny'n arbennig o wir, fel y dywedais wrth Darren, pan fo sefyllfaoedd cyllido yn anodd, ac mae hyn yn rhoi'r cyfle gorau posibl i ysgolion a'u cyrff llywodraethu gynllunio ar gyfer defnydd effeithiol o'r adnoddau hyn. Ac rydych chi'n gywir; mae Estyn yn dweud bod mwy y gellir ei wneud i sicrhau y defnyddir yr adnoddau hyn yn effeithiol, a dyna pam yr ydym ni'n gweithio gyda'r consortia rhanbarthol, gyda'r cydgysylltydd grant datblygu disgyblion ym mhob un ohonynt, er mwyn sicrhau bod ysgolion yn gwneud hynny'n union: eu bod yn defnyddio'r arferion gorau ac y gallant ddangos tystiolaeth am y rhesymau dros y penderfyniadau y maent yn eu gwneud o ran y grant datblygu disgyblion.
Efallai nad ydych chi'n ystyried hyn yn flaenoriaeth benodol, ond ni allwn gael y system addysg y mae arnaf i ei heisiau i'n disgyblion os ydym ni'n tynnu'n sylw oddi ar yr agwedd benodol hon. Efallai, pe byddech chi yn fy sefyllfa i, y byddai arnoch chi eisiau cael gwared ar y grant datblygu disgyblion. Ond rwyf i eisiau ei gwneud hi'n gwbl glir i rieni rhai o'n plant mwyaf difreintiedig, ac i ysgolion sy'n gwasanaethu'r cymunedau hynny, tra byddaf i'n Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yna bydd y grant datblygu disgyblion yn bodoli, ac fe wnaf i fy ngorau i sicrhau, lle ceir cyfleoedd i gynyddu gwerth hynny, fel y gwnaethom y llynedd, ac, fel yr ydym wedi gwneud y flwyddyn hon, y byddwn yn gwneud yr union beth hynny. Nid wyf yn ymddiheuro am fod eisiau buddsoddi'r arian hwn yn addysg ein plant tlotaf.
Nid fy mwriad i oedd bod yn anghwrtais tuag at y Cadeirydd nac aelodau eraill y Pwyllgor drwy wneud y cyhoeddiad hwn, ond mae hi yn ddechrau'r flwyddyn ariannol, ac rydym ni wedi gorfod gwneud dyraniadau i ysgolion. Nid eich bai chi yw hi y bydd eich adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen, ond nid fy mai i yw hynny ychwaith. Pan fydd ysgolion yn gofyn imi am eu dyraniadau, mae angen inni allu rhoi gwybod iddyn nhw am y dyraniad hwnnw. Rwy'n gobeithio fy mod wedi dangos dros y ddwy flynedd ddiwethaf, pan fydd modd i mi ymateb yn gadarnhaol i waith pwyllgorau craffu, fy mod yn gwneud hynny, ond o ran y dyraniad, rydym ni wedi gorfod rhoi gwybod i ysgolion am yr arian hwnnw a'r dyraniadau hynny cyn gynted â phosib. Nid bod yn anghwrtais i'r Pwyllgor oedd y bwriad. Mae'n fater o amseru a dechrau'r flwyddyn ariannol.
Byddaf yn gwneud datganiad yn ddiweddarach y tymor hwn i roi diweddariad i'r Aelodau ynglŷn â'r newidiadau yr ydym yn eu gwneud i'r mesurau asesu ac atebolrwydd. Mae'n ymddangos i mi ein bod ni mewn sefyllfa i ddechrau defnyddio cyfres fwy deallus o fesurau asesu ac atebolrwydd a fydd yn fodd inni wneud cynnydd o'r sefyllfa y buom ynddi yn y gorffennol, a ddefnyddiwyd efallai, mewn rhai ysgolion, i ganolbwyntio'n yn llwyr ar y ffin rhwng gradd C a gradd D, sydd wedi effeithio ar agweddau eraill ar ein system addysg, o ran y mathau o gymwysterau y mae plant wedi eu cofrestru ar eu cyfer. Er gwaethaf y gostyngiad mewn perfformiad yn 2017, yr hyn a welsom yn 2017 oedd mwy o blant yn cael prydau ysgol am ddim yn cael eu cofrestru ar gyfer TGAU nag erioed o'r blaen—plant na fyddai wedi cael eu cofrestru o'r blaen ar gyfer arholiad gwyddoniaeth TGAU. Mae mwy o blant nag erioed o'r blaen o gefndiroedd tlotach yn cael eu cofrestru ar gyfer y cymwysterau hyn, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn credu y dylem ni ei ystyried, ac mae angen cyfres well o fesurau perfformiad arnom.
Fel y dywedais, Llyr, efallai nad ydych chi'n credu yng ngallu'r buddsoddiad hwn i weddnewid bywyd plant. O wrando ar ysgolion, o wrando ar y gwerthusiad ac o wrando ar Estyn, rwyf i'n creu mai hwn yw'r llwybr cywir, hwn yw'r pwyslais cywir, a thra byddaf i yn y swydd hon, bydd yn parhau i fod felly.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu eich cyhoeddiad ynglŷn â'r cynnydd yn y grant datblygu disgyblion ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Mae gweithredu yn gynharach ym mywyd plentyn i liniaru anfanteision cymdeithasol a rhai eraill sy'n effeithio ar y plentyn yn gwneud synnwyr, ac yn amlwg y cynharaf i gyd y byddwch yn gweithredu, y gorau i gyd yw hynny ar gyfer y plentyn, ac rydych chi'n fwy tebygol o osgoi canlyniadau'r anfantais honno. Rwyf hefyd yn croesawu eich penderfyniad i ymestyn y meini prawf cymhwysedd i ddwy flynedd—yn ochelgar braidd, oherwydd gall gymryd llawer mwy na dwy flynedd i blentyn oresgyn effeithiau bod ar brydau ysgol am ddim neu fod dan anfantais arall. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro i ni pam nad yw'r cyfnod hwn yn fwy, a pham y mae hi wedi dewis dwy flynedd yn hytrach na thair, pedair, pump neu beth bynnag? Mae gwarantu'r dyraniad am ddwy flynedd hefyd yn ddatblygiad i'w groesawu. Rwyf mewn gwirionedd yn cytuno â chi y bydd yn rhoi elfen o sicrwydd o leiaf. A oes gennych chi unrhyw syniadau ynghylch p'un a allech chi adolygu'r cyfnod hwnnw? A fydd y cyfnod hwn o ddwy flynedd yn beth parhaus neu ai penderfyniad unigol yw hwn?
O droi at y grant datblygu disgyblion a sut y caiff ei gymhwyso, ymddengys bod elfen o hyblygrwydd yn bodoli o ran sut y mae ysgolion yn defnyddio'r grant datblygu disgyblion, ac er efallai nad yw ysgolion yn defnyddio 100 y cant o'r grant datblygu disgyblion yn benodol ac yn uniongyrchol i dargedu disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim, ni fyddwn yn dymuno gweld cyfaddawdu ar yr hyblygrwydd hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn rhoi rhywbeth i ysgolion—arf ychwanegol yn eu harfogaeth i helpu plant a fyddai o bosibl yn syrthio rhwng dwy stôl, efallai. Felly, a oes gennych chi unrhyw fwriad i gyfyngu'r ffordd y caiff ysgolion ddefnyddio'r grant datblygu disgyblion? Oherwydd rydych chi wedi ymlafnio heddiw i bwysleisio mai diben y grant datblygu disgyblion yw lleihau'r bwlch cyrhaeddiad. Beth yw'r goblygiadau i ysgolion? A ydych chi'n mynd i geisio cyfyngu ar sut y maen nhw'n defnyddio'r grant datblygu disgyblion, neu dim ond cynnal y sefyllfa y byddwch chi, fel y mae pethau ar hyn o bryd?
Mae'r hawl i gael prydau ysgol am ddim hefyd yn arf eithaf aneffeithiol, ac rwy'n credu y byddech yn cytuno â mi yn hynny o beth. Gall ffactorau fel profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael effaith hynod andwyol ar gyrhaeddiad addysgol, felly a ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i p'un a ellid addasu meini prawf y grant datblygu disgyblion i ystyried ffactorau megis profiadau niweidiol penodol yn ystod plentyndod a allai gael effaith ofnadwy o andwyol ar ddatblygiad a chyrhaeddiad addysgol plentyn ar hyd ei oes? Os nad ydych chi'n teimlo mai'r grant datblygu disgyblion yw'r offeryn priodol ar gyfer hynny, pa gynigion ydych chi'n eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r ffactorau hynny sy'n cael effaith mor fawr ar gyrhaeddiad addysgol? Rwy'n cydnabod mai eich amcan yw lleihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim a'r rheini nad ydynt, ond dim ond rhan o'r darlun yw cau'r bwlch cyrhaeddiad. Os yw disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim yn mynd i ddianc o'r cylch o gyflogau isel y mae eu rhieni o bosibl wedi canfod eu hunain ynddo, mae'n rhaid caniatáu iddynt ac mae'n rhaid eu hannog i wireddu eu potensial. Felly, a oes gennych chi unrhyw gynigion ynglŷn â sut y gellir targedu disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim i gyflawni'n well, y tu hwnt i dalu'r grant datblygu disgyblion? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Gadewch imi fod yn gwbl glir ynghylch y defnydd o'r grant amddifadedd disgyblion. Mae'r grant amddifadedd disgyblion yn bodoli er mwyn cefnogi cyrhaeddiad addysgol y plant hynny sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu blant sy'n derbyn gofal, waeth beth yw eu potensial. Felly, i rai, gallai hynny fod ynglŷn â darparu cymorth dal i fyny fel eu bod ar yr un tir â'u cyfoedion. I rai plant fydd yn cael y grant amddifadedd disgyblion, y diben yw eu cefnogi i gyrraedd eu potensial fel plant mwy abl a thalentog. Felly, nid oes a wnelo hyn â lefel cyrhaeddiad addysgol ar gyfer unigolion, mae'n golygu cefnogi pob un o'r plant hynny i fod y gorau y gallant fod.
Mae'n rhaid defnyddio'r arian er mwyn ymyrryd yn uniongyrchol er budd y plant cymwys hynny, ond gellir defnyddio'r adnoddau ar gyfer ymyraethau cyffredinol a fyddai'n arwain at fanteision anghymesur i rai dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim neu blant sy'n derbyn gofal hefyd. Felly, mae hynny'n effeithio yn ei dro ar y rhai sydd efallai ychydig dros y trothwy neu y mae cyfyngiadau eraill ar eu cyrhaeddiad addysgol, ond nid rhai ariannol. Gadewch imi roi un enghraifft o ranbarth yr Aelod ei hun. Yn Ysgol Gynradd Sirol Brynteg yn Wrecsam mae mwy na 32 y cant o ddysgwyr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac maen nhw wedi defnyddio eu grant amddifadedd disgyblion i ddatblygu rhaglen meddylfryd twf ar gyfer pob dysgwr yn yr ysgol—pob dysgwr. Ond yr hyn y gwyddom ni yw bod hynny yn rhoi mantais anghymesur i ddysgwyr sy'n dod o gefndir mwy difreintiedig. Felly, mae pob dysgwr yn elwa ar y rhaglen honno, ond mae o fudd anghymesur i'r plant hynny sy'n cael prydau ysgol am ddim.
O ran profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac anhwylder ymlyniad, sy'n agweddau y mae ysgolion cynradd yn dweud wrthyf eu bod yn ymryson ac yn ymdrin fwyfwy â nhw, yng nghonsortiwm rhanbarthol ERW defnyddiwyd adnoddau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal i sicrhau bod pob ysgol gynradd yn ymwybodol o broblemau ymlyniad a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Unwaith eto, mae hynny o bosibl er budd pawb yn yr ysgol, ond gwyddom ei fod yn rhoi budd anghymesur i is-set benodol o blant sydd â hawl i'r adnodd hwn.
Nid wyf yn bwriadu cyfyngu ar ddefnydd ysgolion o'r arian. Yr hyn yr wyf eisiau ei wneud yw sicrhau bod yr ysgolion yn defnyddio'r dystiolaeth a'r arferion gorau a gwybod mai'r ymyraethau maen nhw'n eu defnyddio yw'r rhai y gwyddom ni eu bod yn gweithio mewn gwirionedd ar gyfer plant. Felly, Michelle, rydych chi yn llygad eich lle; mae angen inni edrych yn gynhwysfawr ar bob plentyn unigol ac ar sut y gallwn ni gefnogi'r plant hynny i gyrraedd eu potensial, beth bynnag fo hwnnw. Felly, nid cefnogaeth yn unig i blant ddal i fyny yw hyn, ond mae'n ymestyn plant sy'n fwy abl a thalentog ac i gynyddu'r dyheadau hynny ar gyfer y plant, rhywbeth y mae Ysgol Gynradd Sirol Brynteg wedi ei wneud yn rhyfeddol.
Nid wyf yn siwr ai dyma'r siaradwr olaf, Cadeirydd—
Na, mae gennych chi un neu ddau arall. Mae'n ddrwg gennyf am hynny. Lynne Neagle.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel mae Aelodau wedi ei ddweud ac fel mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, rydym ni bron ar ddiwedd ein hymchwiliad i gyllid wedi'i dargedu. Mae gennym ni drafodaeth yn ei gylch yfory, a does arnaf i ddim awydd o gwbl achub y blaen ar ganfyddiadau'r Pwyllgor ynghylch hynny, oherwydd byddwn yn gwneud, gobeithio, nifer dda o argymhellion, yr wyf yn siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau rhoi ystyriaeth ddifrifol iddynt. Rwy'n falch bod y gwaith a wnaeth y Pwyllgor wedi bod yn fodd o daflu goleuni parhaus ar y maes pwysig iawn hwn o waith.
Dim ond eisiau gofyn dau gwestiwn byr oeddwn i, y cyntaf yn ymwneud â chydnerthedd disgyblion yn arholiadau TGAU 2017, yr ydych chi wedi cyfeirio ato sawl gwaith mewn atebion. Yn arbennig, rydych chi wedi tynnu sylw at y ffaith eich bod yn bwriadu sicrhau y caiff y gwersi arfer da eu cyflwyno i bob rhan o Gymru. A gaf i ofyn a allwch chi roi arwydd mwy pendant o bryd yr ydych chi'n disgwyl y caiff y gwaith hwnnw ei gwblhau ac am eich sicrwydd y bydd hynny mewn da bryd ar gyfer arholiadau yr haf hwn?
Roedd fy ail gwestiwn yn ymwneud â'r mater o ddysgwyr mwy abl a thalentog, oherwydd mae'r Pwyllgor wedi cael llawer o dystiolaeth bod rhai ysgolion yn defnyddio eu grant amddifadedd disgyblion dim ond ar y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim nad ydynt yn cyflawni'n dda, ac rwy'n croesawu'n fawr iawn yr eglurder a roesoch chi y prynhawn yma eich bod yn disgwyl y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio ar gyfer pob disgybl sy'n cael prydau ysgol am ddim. Ond yn hynny o beth, a oes gennych chi unrhyw gynlluniau pendant i sicrhau y caiff y neges honno ei chyfleu yn glir i Gymru gyfan, ac i sicrhau y caiff hyn ei weithredu yn briodol ym mhob man? Diolch.
A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor am ei sylwadau? Fel y dywedais wrth ateb Llyr Huws Gruffydd, nid oes bwriad i ddibrisio gwaith y Pwyllgor. Mae hi'n ddechrau y flwyddyn ariannol ac mae angen i ysgolion wybod eu cyllidebau. Rydym wedi gorfod gwneud y cyhoeddiad hwnnw cyn cyhoeddi'r adroddiad. A dim ond er mwyn eglurder, roedd llawer o Aelodau yn bryderus iawn y prynhawn yma oherwydd imi gyhoeddi'r arian hwn yn gyntaf i gynhadledd fy mhlaid fore Sadwrn. Gadewch imi sicrhau'r holl Aelodau mai'r bobl gyntaf a wyddai am yr adnoddau ychwanegol oedd yr ysgolion. Cyhoeddais hyn i ysgolion unigol ym mis Mawrth. Ysgolion ar hyd a lled y wlad hon a glywodd gyntaf am yr adnodd hwn, a hoffwn sicrhau'r holl Aelodau o hynny yn y dyraniadau grant a anfonwyd atynt ym mis Mawrth.
Lynne, rwy'n rhannu eich pryderon ynghylch defnyddio'r adnodd hwn, fel y dywedais wrth Michelle Brown, dim ond er mwyn dal i fyny, ac nid i nodi plant unigol sy'n fwy abl a thalentog. Rwyf wedi bod yn glir heddiw, gobeithio, ac roeddwn yn glir yn nhystiolaeth y pwyllgor a roddais i chi, fy mod i'n disgwyl i bob plentyn elwa ar yr adnoddau hyn, a byddaf yn disgwyl i gynghorwyr y consortia rhanbarthol, y rhai unigol mewn ysgolion unigol, yn ogystal â chydgysylltydd yr holl gonsortia, i ofyn y cwestiynau hyn mewn ysgolion i benaethiaid ynghylch sut y defnyddir yr adnodd hwn. Ac rwyf wedi bod yn glir iawn ynghylch fy nisgwyliadau y dylid gofyn y cwestiynau hynny. Mae'r arian hwn yn bodoli fel y gall pob plentyn sy'n gymwys gyrraedd ei lawn botensial.
Mae'r broblem ynghylch cydnerthedd mewn TGAU yn waith parhaus; nid gwaith unwaith ac am byth mohono. Rydym ni eisoes wedi cael sgyrsiau gyda'r consortia rhanbarthol, gyda phenaethiaid drwy gyfrwng ein cynadleddau penaethiaid, yn ogystal â'r trafodaethau parhaus y mae swyddogion yn eu cael gyda phenaethiaid am yr angen i ledaenu arfer dda, a deall pam mae rhai ysgolion yn gallu mynd yn groes i'r duedd a pham na allai ysgolion eraill, fel y dywedais, hyd yn oed o fewn yr un awdurdod addysg lleol neu gonsortia rhanbarthol, gefnogi eu disgyblion yn yr un modd. Petai un rheswm syml am y diffyg cydnerthedd, byddai'n hawdd, ond mae hyn yn amlochrog ac ychydig yn wahanol ym mhob ysgol. Ond mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo'n barhaus a chyson ym mhob un o'r meysydd. Un o'r heriau strategol mwyaf sydd gennym ni yn y system addysg yng Nghymru yw amrywiaeth, ac mae hyn eto yn enghraifft arall o pam mae angen mynd i'r afael â'r sefyllfa honno ynglŷn ag amrywioldeb.
Diolch yn fawr iawn. Ac yn olaf, felly, Vikki Howells.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf ambell gwestiwn am eich datganiad. Yn gyntaf, rwy'n nodi eich sylwadau ynghylch sut y defnyddir y grant amddifadedd disgyblion i gynnwys teuluoedd yn addysg eu plant yn well, a byddwch yn gwybod fy mod yn cynnal digwyddiad ar gyfer Parentkind yn y Senedd yfory pryd y byddwch chi'n siarad. Y nod yw dathlu gwaith yr elusen o ran cael rhieni i gymryd rhan mewn addysg. Fodd bynnag, rwy'n gwybod, ac mae llawer o gyn-athrawon ac athrawon eraill yn gwybod, y gall hi fod yn anodd cael rhieni plant sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim i fynd i nosweithiau rhieni neu i deimlo'n gyfforddus yn ymweld ag ysgol eu plentyn. Pa waith y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i oresgyn y rhwystrau hyn?
Yn ail, mae'r gwelliant y soniasoch amdano yng nghyrhaeddiad plant sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim a phlant sy'n derbyn gofal i'w groesawu'n fawr. Mae un o bob tri phlentyn yn y categori cyntaf bellach yn cyrraedd y trothwy lefel 2, a bron i un o bob pedwar o'r categori arall. Mae'n briodol ein bod ni'n cydnabod cynnydd disgyblion, ond i lawer o'r disgyblion hyn ni ellir mesur cynnydd yn ôl canlyniadau arholiad yn unig. Felly, byddwn yn croesawu dychwelyd at sefyllfa lle mae mwy o bwyslais ar y mesur cynhwysol o werth ychwanegol. A allech chi ymhelaethu ar eich sylwadau ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cyfres o fesurau a fydd yn canolbwyntio ar gynnydd o ran gwerth ychwanegol?
Yn drydydd ac yn olaf, agwedd hollbwysig ar y grant amddifadedd disgyblion yn amlwg yw'r ffordd y caiff ei ddefnyddio i gefnogi disgyblion sy'n derbyn gofal. Mae'r hyblygrwydd yn y system bresennol yn caniatáu consortia rhanbarthol i deilwra pecynnau cymorth a rhoi sylw i anghenion penodol y disgyblion yn eu hardal. Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro hyn er mwyn sicrhau y caiff yr arfer gorau ei gyflwyno ledled Cymru fel bod disgyblion sy'n derbyn gofal yn cael y cymorth gorau posibl?
A gaf i ddiolch i Vikki am hynny? Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad yfory. Yr hyn a wyddom yw mai ymgysylltiad y rhieni yn addysg eu plentyn, ar ôl ansawdd yr addysgu, yw'r ail ffactor mwyaf o ran adlewyrchu'r canlyniadau. Felly, mae angen athrawon gwych ar ein plant, ond mae angen rhieni, neiniau a theidiau a chymunedau cefnogol iawn arnom hefyd, y tu ôl i'r plant hynny, os ydyn nhw'n mynd i wneud y mwyaf o'u cyfleoedd addysg.
Mae yna rywfaint o arfer da ardderchog. Rwy'n credu efallai mai yn etholaeth Janet Finch-Saunders hyd yn oed neu efallai yn etholaeth Darren Miller—Ysgol Fabanod Glan Gele. Rwy'n credu mai yn etholaeth Darren. Mae hon yn un o'r ysgolion y mae Estyn wedi nodi bod ganddi arfer rhagorol o ran defnyddio'r PDG i ymgysylltu â rhieni. Mae'r ysgol honno wedi gweithio'n galed iawn i dargedu ei PDG yn systematig i fynd i'r afael â'r broblem o ymddieithrio gan rieni. Mae hyn yn cynnwys sesiynau sgiliau sylfaenol ar gyfer y rhieni eu hunain, sy'n digwydd yn y ddarpariaeth partneriaeth rhieni newydd. Felly, maen nhw wedi creu cynllun cyfan sydd mewn gwirionedd yn targedu'r mater hwn, ac maen nhw'n defnyddio eu PDG i'w gefnogi. O ganlyniad, mae'r ysgol wedi gweld mwy o rieni yn gwneud eu rhan i addysgu eu plant yn ogystal â gwella sgiliau'r rhieni eu hunain, sy'n beth gwych, o ran eu sgiliau llythrennedd a rhifedd eu hunain. Mae hynny hefyd wedi cael effaith aruthrol ar lesiant y rhieni hynny yn ogystal â'u plant. Mae'n enghraifft dda iawn o arfer da yn y modd y caiff yr adnodd hwn ei gyllido. Ond mae angen inni weld mwy o'r enghreifftiau hynny yn cael eu datblygu a'u lledaenu ledled Cymru.
O ran asesu a mesurau perfformiad, rwy'n gobeithio gwneud datganiad, fel y dywedais wrth Llŷr Huws Gruffydd, yn nes ymlaen yn y tymor hwn sy'n amlinellu'r dull gweithredu yr ydym ni'n gofyn amdano. Mae angen inni gytuno a chefnogi'r gwaith o baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, oherwydd mae'r trefniadau asesu yn mynd i orfod newid ac rydym yn mynd i orfod cyd-fynd â'n cwricwlwm newydd. Ond mae hefyd yn glir i mi bod angen inni gael ffordd fwy soffistigedig o fesur perfformiad unigol ysgolion.
Oes, mae angen i blant lwyddo yn eu harholiadau ffurfiol, ond, mewn gwirionedd, mae angen i'r modd yr ydym ni'n mesur hynny fod yn llawer mwy soffistigedig. Ar hyn o bryd, yr hyn sydd gennym ni yw system sy'n dweud, 'Os yw plentyn wedi llwyddo i gael gradd C yn ei TGAU—tic, rydych chi wedi bod yn llwyddiannus, ond os yw plentyn yn cael gradd D, yna nid ydych wedi llwyddo gyda'r plentyn hwnnw. Ond, mewn gwirionedd, os oedd y plentyn hwnnw braidd byth yn dod i'r ysgol a bod eich ysgol chi wedi gweithio'n galed iawn, iawn ac wedi cael y plentyn hwnnw i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chyfres o sgiliau a phrofiadau, ni ddylid diystyru’r ymdrech honno. Yn y cyfamser, os oes gennych blentyn a ddylai fod wedi cael A* ond ei fod ond wedi llwyddo i gael gradd C, ni ddylem fod yn llongyfarch y system ysgol am hynny ychwaith, oherwydd nid yw wedi caniatáu i'r plentyn hwnnw gyrraedd ei botensial llawn. Mae angen cyfres o fesurau perfformiad arnom ni sy'n canolbwyntio ar y garfan gyfan, nid dim ond y disgyblion sydd ar y ffin rhwng C a D, y gwyddom fod rhai ysgolion wedi canolbwyntio arnyn nhw, ond mae angen canolbwyntio ar bob un plentyn yn yr ysgol honno. Dylai eu cyflawniadau a'u perfformiad fod yn bwysig a byddaf yn gwneud datganiad am hynny yn nes ymlaen y tymor hwn, ynghylch sut yr ydym yn bwriadu cyflawni hynny.
Efallai nad yw'n syndod, ond mae'n siomedig bod llawer o'r ddadl heddiw wedi trafod prydau ysgol am ddim yn unig ac ni chawsom drafodaeth ar yr elfen o'r PDG sy'n ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal. Os ydym yn poeni am y bwlch cyrhaeddiad ar gyfer ein plant tlotaf, yna bobol bach, mae angen inni fod yn poeni am y bwlch cyrhaeddiad ar gyfer y plant sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal ac sydd yn derbyn gofal.
Bydd fy swyddogion yn cydweithio'n agos iawn gyda'r grŵp y mae David Melding yn ei gadeirio. Rwy'n gobeithio y gall David a minnau gyfarfod cyn hir i drafod sut orau y gallwn ni ddefnyddio'r adnoddau hyn i newid sefyllfa'r plant hyn. Nid yw'n hawdd. Mae'n gymhleth. Rydym ni wedi gwneud cynnydd da, ond yr haf diwethaf rydym wedi gweld dirywiad eto oherwydd y diffyg cydnerthedd hwnnw. Rwy'n gwbl benderfynol bod cyrhaeddiad addysgol y plant hyn yr un mor bwysig â phob plentyn arall yn y system, a byddaf yn gweithio'n draws-bleidiol, ar draws y Siambr, i sicrhau bod yr adnoddau hyn sydd ar gael drwy'r PDG i blant sy'n derbyn gofal yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.