Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 17 Ebrill 2018.
Gyda phwyslais Brexit ar hyn o bryd ar yr effaith economaidd a chymdeithasol, efallai ei bod yn hawdd colli golwg weithiau ar y bygythiadau amgylcheddol a oedd gynt yn ganolbwynt ein sylw ac sydd heb ddiflannu. Ni ddylid diystyru bygythiadau Brexit. Ond ochr yn ochr â hyn hefyd ni ddylem anghofio graddfa'r risgiau sy'n deillio o ddirywiad parhaus mewn bioamrywiaeth, neu gynnydd parhaus mewn allyriadau byd-eang.
Mae ffermwyr yn ffermio'r amgylchedd, a heb fioamrywiaeth y pridd a heb bryfed peillio, nid oes dyfodol hirdymor i ffermio. Ac os nad ydym ni'n chwarae ein rhan yn y gweithredu byd-eang sydd ei angen, mae risg ein bod yn peryglu ein ffyniant ein hunain ynghyd â ffyniant cenedlaethau'r dyfodol. Nid yw'r amgylchedd yn 'naill ai/neu'; mae'n hanfodol i'n ffyniant economaidd ac i'n hiechyd a'n llesiant.
Fel Llywodraeth, rydym ni'n gwbl ymrwymedig i weithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn llawn. Mae'r dystiolaeth o adroddiad 'Sefyllfa Adnoddau Naturiol' cyntaf Cymru yn nodi'n glir fod angen gweithredu trawsnewidiol ar yr heriau amgylcheddol yr ydym ni'n eu hwynebu. Mae tystiolaeth leol ac yn fyd-eang yn dangos nad yw cymryd camau bach, bob yn dipyn, yn ddigon erbyn hyn. Mae'r dirywiad parhaus mewn bioamrywiaeth ddaearol yn gwneud hyn yn gwbl amlwg. Ym mholisi adnoddau naturiol cyntaf Cymru, nodwyd bod gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a gwella cydnerthedd ecosystemau yn gymaint o her â newid yn yr hinsawdd. Dyna pam y bydd gwrthdroi'r dirywiad hwn yn ganolog i'm dull i o weithredu.
Yn briodol, mae'n rhaid i'n hamgylcheddau naturiol o'r ansawdd uchaf fod wrth wraidd ein dull o adfer natur ac maen nhw'n cynrychioli cynefinoedd allweddol y mae'n rhaid inni dyfu ein bioamrywiaeth ohonynt. Mae'r dystiolaeth yn dangos nad yw cynnal y sefyllfa bresennol yn opsiwn. Mae'n rhaid inni sicrhau gweithredu ar seilwaith gwyrdd, a bod peirianneg werdd yn cael ei phrif ffrydio ar draws popeth a wnawn. Mae'n rhaid inni hefyd ystyried camau gweithredu fel ailgyflwyno rhywogaethau brodorol, lle mae'n synhwyrol gwneud hynny.
Rydym ni i gyd yn cydnabod bod gennym barciau o'r radd flaenaf ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, a fy ail flaenoriaeth yw gweithio gyda'r parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol i wella gwerth natur i bobl ledled Cymru. Mae ein parciau cenedlaethol a'n hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn ganolog er mwyn gwella'r ddealltwriaeth o werth ein tirweddau naturiol. Mae ganddynt swyddogaeth addysgol allweddol, sydd hefyd yn ymwneud â helpu pobl i archwilio a defnyddio'r adnoddau hynny yn gynaliadwy i sicrhau budd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.
Galwaf felly ar ein parciau cenedlaethol a'n hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol i fod yn esiamplau rhagorol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn enwedig ar fioamrywiaeth, coed a choetiroedd, ond hefyd o ran cyfrannu at ddarparu'r atebion priodol o'r maint cywir i wella effeithlonrwydd adnoddau a datgarboneiddio yn yr ardaloedd hynny. Mae'r prosiectau o dan ein cynllun rheoli cynaliadwy erbyn hyn yn dangos yr hyn sy'n bosibl. Rwy'n cydnabod bod y parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn wynebu her ariannu, a dyna pam yr wyf eisoes wedi dyrannu £3.4 miliwn o gyllid ychwanegol.
Mae fy nhrydedd flaenoriaeth yn sylfaenol i'r cynnydd y mae'n rhaid inni ei wneud: cynyddu nifer y coed a'r coetiroedd yng Nghymru. Mae coedwigaeth eisoes yn ddiwydiant pwysig yng Nghymru, ar ei ben ei hun ac fel rhan o'r hyn yr ydym yn ei gynnig gyda'n gweithgareddau hamdden yn yr awyr agored sydd o'r radd flaenaf. Ond nid yw ein hadnoddau coetir yn ddigonol nac yn ddigon cydnerth i fod yn gynaliadwy, ac mae hyn yn rhwystr i wneud cynnydd amgylcheddol ac economaidd. I ddatgloi'r cyfleoedd masnachol, yn enwedig mewn economi sy'n datgarboneiddio'n gyflym, mae'n hanfodol bod gennym goedwigaeth a phren amrywiol fel adnodd os ydym i gadw cymaint â phosibl o fanteision y gadwyn gyflenwi yma yng Nghymru. Fy nod yw sicrhau bod gennym goetir bioamrywiol o ansawdd uchel sy'n sicrhau budd economaidd ac amgylcheddol. Rwy'n cydnabod, fodd bynnag, y bydd angen cyfnod pontio i gyflawni hyn. E mwyn creu coetir newydd, mae'n rhaid bod proses dryloyw, gymesur a rhagweladwy, a byddaf yn cyflwyno strategaeth goetiroedd ddiwygiedig gerbron y lle hwn cyn toriad yr haf.
Ehangu ein coetiroedd yw un ffordd yn unig o gynyddu nifer ein coed. Mae gan wrychoedd, coridorau afonydd, a choed trefol i gyd swyddogaeth hanfodol. Mae Glastir wedi bod â rhan allweddol yn y canlyniadau cadarnhaol hyd yn hyn, ond ar ôl Brexit bydd ein polisi newydd ar gyfer rheoli tir yn canolbwyntio ar nwyddau cyhoeddus, ac mae potensial mawr i goetiroedd yn y maes hwn.
Gadewch inni fod yn glir, nid blaenoriaeth ar gyfer cefn gwlad Cymru yn unig yw hon; mae'n flaenoriaeth i'n hardaloedd trefol hefyd. Mae prosiect Llynfi yn enghraifft o sut y gall coetir gefnogi amrywiaeth eang o fanteision i gymunedau. Ceir tystiolaeth gynyddol sy'n dangos pa mor bwysig yw mannau gwyrdd i'n hiechyd corfforol a meddyliol a sut y mae rhoi'r coed iawn yn y lleoliadau iawn yn cyfrannu at fynd i'r afael â llifogydd ag ansawdd aer gwael.
Daw hyn â mi at fy mhedwaredd flaenoriaeth: cyflymu ein camau gweithredu ar ansawdd aer gwael. Byddaf yn gwneud datganiad manwl ar wahân yn nodi ein dull ar 24 Ebrill. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i weithredu ar un o faterion iechyd cyhoeddus ataliadwy mwyaf ein hoes, ac mae'r ymrwymiad hwn yn atgyfnerthu sut y mae gan weithredu ar yr amgylchedd y potensial i sicrhau manteision i bawb.
Mae fy mlaenoriaeth olaf yn mynd at wraidd ymrwymiad ein polisi adnoddau naturiol i effeithlonrwydd adnoddau. Gan ategu ein hanes llwyddiannus iawn o ran ailgylchu, rwyf eisiau ein harwain i fod y gorau yn y byd. Yn sicr, rydym ni eisiau parhau i leihau ein gwastraff a mynd i'r afael â materion allweddol fel y pla o fagiau plastig untro. Ond mae datgloi y cyfleoedd a all ddod o fod yn fwy effeithlon o ran adnoddau hefyd yn ganolog i'n cynllun gweithredu economaidd. Byddaf yn cyflwyno rheoliadau i weithredu Rhan 4 o Ddeddf yr Amgylchedd, a hefyd yn datblygu map llwybr ar gyfer economi fwy effeithlon o ran adnoddau.
Mae'r pum blaenoriaeth yr wyf wedi'u hamlinellu heddiw i gyd mor bwysig â'i gilydd, ac mewn llawer o ffyrdd maen nhw'n rhyng-gysylltiedig: gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth; gweithio gyda'r parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol; cynyddu nifer y coed a'r coetiroedd; cyflymu ein camau gweithredu ar ansawdd aer; a bod y gorau yn y byd am ailgylchu. Mae'r rhain i gyd yn dangos y camau ymarferol sy'n cael eu cymryd ar y cyfeiriad a bennwyd gan bolisi adnoddau naturiol cyntaf Cymru. Dyma'r camau sydd eu hangen i wireddu'r dyheadau lefel uchel a'r uchelgeisiau a nodwyd wrth ddiwygio deddfwriaeth yn flaenorol.
Fel y nodwyd gan y Prif Weinidog yn 'Ffyniant i Bawb', mae ein dull gweithredu yn un traws-Lywodraethol, boed hynny wrth i mi weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y defnydd o fannau gwyrdd i wella iechyd meddwl ac iechyd corfforol; gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar ansawdd aer a'r contract economaidd a'r cyfleoedd ar gyfer twf gwyrdd mewn meysydd fel pren yn y diwydiant adeiladu; neu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar y symudiad i ffwrdd o system lle caiff elw ei breifateiddio tra mae'r pwrs cyhoeddus yn ysgwyddo'r gost o effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol—y cyfan yn waith yr ydym ni eisoes wedi'i ddechrau—ac, wrth gwrs, gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y diwygiadau i'r polisi cynllunio, a defnyddio arian cyhoeddus i ddarparu nwyddau cyhoeddus drwy wobrwyo rheolwyr tir am adfer a chynnal amgylchedd iach, ac ar bolisi rheoli morol cynaliadwy sy'n cydnabod pwysigrwydd adfer ecosystemau cydnerth ac yna sicrhau'r manteision lawer a gawn o'r amgylchedd morol.
Ond ni fydd camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru yn unig yn ddigon i fynd i'r afael â'r heriau yr ydym yn eu hwynebu. Mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i fod yn gyfrifol a gweithredu, ac rwyf eisiau talu teyrnged i'r cymunedau, sefydliadau ac unigolion ar draws y wlad sydd eisoes yn gweithredu'r camau hyn. Rwy'n croesawu'r mentrau mewn ardaloedd o Ynys Môn i Aberporth, sydd eisoes yn cymryd camau arloesol i fynd i'r afael â llygredd plastig, a byddaf yn cynnal cyfres o ymweliadau ac ymgysylltiadau ledled Cymru yn yr haf i weld ac i drafod y gwaith sy'n cael ei wneud. Rwyf eisiau sicrhau ein bod yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i rymuso pobl a dileu rhwystrau i weithredu cadarnhaol, i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu a chyflawni ein blaenoriaethau.
Mae grymuso'r sector cyhoeddus i gymryd rôl arweiniol, fel rydym ni wedi'i wneud eisoes mewn partneriaeth â llywodraeth leol ar ailgylchu, yn allweddol. Rwy'n bwriadu adeiladu ar y bartneriaeth hon ar gyfer bioamrywiaeth a byddaf yn cyfarfod â phob awdurdod lleol i drafod sut y maen nhw'n bwriadu gweithredu eu dyletswyddau cyfreithiol newydd yn Neddf yr amgylchedd.
Mae'r pwyslais presennol ar blastig yn dangos pwysigrwydd camau gweithredu y gallwn ni i gyd eu cymryd fel unigolion ac fel sefydliadau. Mae swyddogaeth allweddol ar gyfer ein digwyddiadau eiconig. Byddaf yn gweithio gyda threfnwyr digwyddiadau mawr Cymru, fel Sioe Frenhinol Cymru a'r Eisteddfod, i weld sut y gallwn ddefnyddio ein digwyddiadau byd-enwog yn llwyfan ar gyfer gweithredu.
Yn olaf, nodais ar y dechrau bod yr amgylchedd yn egwyddor sy'n rhan o'n dull gweithredu ar y cyd. Mae hon yn egwyddor sydd gennym yn gyffredin ag egwyddorion amgylcheddol yr UE sy'n cydnabod pwysigrwydd yr amgylchedd, nid dim ond fel cartref i natur, ond yn benderfynydd allweddol o'n hiechyd fel unigolion, cydnerthedd ein cymunedau, a dichonoldeb hirdymor ein heconomi. Rwy'n deall y pryder a fynegwyd yn sgil colli safonau'r UE a'r egwyddorion amgylcheddol sydd ar waith ar hyn o bryd.
Rydym wedi ymrwymo i beidio â llithro'n ôl ar egwyddorion a safonau amgylcheddol, ac rydym yn gwbl ymrwymedig i gynnal safonau presennol yr UE a pharhau i wella arnynt. Ac fel y nodwyd yn glir yn y ddadl ar ein Bil parhad, byddwn yn gweithio i gau'r bwlch llywodraethu amgylcheddol a achosir drwy ymadael â'r UE ar y cyfle deddfwriaethol priodol cyntaf. Ond mae'n rhaid gwneud hyn mewn ffordd sy'n gweithio gyda, ac yn ategu, yn hytrach na thorri ar draws y ddeddfwriaeth sylfaenol a gydnabyddir yn rhyngwladol yr ydym wedi'i rhoi ar waith yng Nghymru, ac sy'n unigryw yn y DU.
Rwy'n falch o'r ffaith ein bod yn cael ein cydnabod yn rhyngwladol fel cenedl sy'n seiliedig ar egwyddorion ac sy'n ymwybodol o'r amgylchedd. Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae'r gwerthoedd hynny yn gynyddol wrth wraidd y brandiau mwyaf llwyddiannus a byddant yn sylfaenol i'n gallu i gystadlu'n rhyngwladol. Fel cenedl, mae gennym ni'r adnoddau naturiol, yr hanes, a'r gallu i wireddu cyfleoedd y cyfnod pontio yr ydym yn ei wynebu. Wrth nodi'r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu amgylcheddol heddiw, rydym yn cydnabod nad yw'n beth braf i'w gael, ond yn fuddsoddiad yn nyfodol ein cenedl.