5. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Yr Amgylchedd yng Nghymru

– Senedd Cymru am 4:39 pm ar 17 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:39, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog dros yr amgylchedd ar yr amgylchedd yng Nghymru. Galwaf ar Hannah Blythyn i gyflwyno'r datganiad.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yng Nghymru, rydym ni'n ffodus o fod â thirwedd anhygoel a threftadaeth naturiol gyfoethog. Mae'n atyniad mawr i ymwelwyr â'n harfordir ac yn lle gwych i ni i gyd dreulio amser. Ond nid mater o hamdden yn unig yw ein hamgylchedd naturiol; mae'n dirwedd ar gyfer byw a gweithio, sydd yno, a dylai fod yno, er budd holl bobl Cymru. Mae'n fwy na dim ond man sy'n bodoli y tu allan i'n trefi a'n dinasoedd i ddianc iddo, ac mae'n gartref i'r rhai hynny sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, yn ogystal â bod yn ased sy'n sail i ddiwydiannau allweddol ac yn ffynhonnell hanfodol o ddŵr ac ynni i'r DU gyfan, ac mae'n rhan hanfodol o bwy ydym ni fel cenedl. Felly, heddiw, wrth danlinellu ein hymrwymiad fel Llywodraeth i'r amgylchedd a nodi fy mlaenoriaethau, rwy'n gwneud hynny nid fel ychwanegiad at ein prif amcanion ond fel egwyddor graidd sy'n hanfodol i'n dull gweithredu ar y cyd.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 4:40, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Gyda phwyslais Brexit ar hyn o bryd ar yr effaith economaidd a chymdeithasol, efallai ei bod yn hawdd colli golwg weithiau ar y bygythiadau amgylcheddol a oedd gynt yn ganolbwynt ein sylw ac sydd heb ddiflannu. Ni ddylid diystyru bygythiadau Brexit. Ond ochr yn ochr â hyn hefyd ni ddylem anghofio graddfa'r risgiau sy'n deillio o ddirywiad parhaus mewn bioamrywiaeth, neu gynnydd parhaus mewn allyriadau byd-eang.

Mae ffermwyr yn ffermio'r amgylchedd, a heb fioamrywiaeth y pridd a heb bryfed peillio, nid oes dyfodol hirdymor i ffermio. Ac os nad ydym ni'n chwarae ein rhan yn y gweithredu byd-eang sydd ei angen, mae risg ein bod yn peryglu ein ffyniant ein hunain ynghyd â ffyniant cenedlaethau'r dyfodol. Nid yw'r amgylchedd yn 'naill ai/neu'; mae'n hanfodol i'n ffyniant economaidd ac i'n hiechyd a'n llesiant.

Fel Llywodraeth, rydym ni'n gwbl ymrwymedig i weithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn llawn. Mae'r dystiolaeth o adroddiad 'Sefyllfa Adnoddau Naturiol' cyntaf Cymru yn nodi'n glir fod angen gweithredu trawsnewidiol ar yr heriau amgylcheddol yr ydym ni'n eu hwynebu. Mae tystiolaeth leol ac yn fyd-eang yn dangos nad yw cymryd camau bach, bob yn dipyn, yn ddigon erbyn hyn. Mae'r dirywiad parhaus mewn bioamrywiaeth ddaearol yn gwneud hyn yn gwbl amlwg. Ym mholisi adnoddau naturiol cyntaf Cymru, nodwyd bod gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a gwella cydnerthedd ecosystemau yn gymaint o her â newid yn yr hinsawdd. Dyna pam y bydd gwrthdroi'r dirywiad hwn yn ganolog i'm dull i o weithredu.

Yn briodol, mae'n rhaid i'n hamgylcheddau naturiol o'r ansawdd uchaf fod wrth wraidd ein dull o adfer natur ac maen nhw'n cynrychioli cynefinoedd allweddol y mae'n rhaid inni dyfu ein bioamrywiaeth ohonynt. Mae'r dystiolaeth yn dangos nad yw cynnal y sefyllfa bresennol yn opsiwn. Mae'n rhaid inni sicrhau gweithredu ar seilwaith gwyrdd, a bod peirianneg werdd yn cael ei phrif ffrydio ar draws popeth a wnawn. Mae'n rhaid inni hefyd ystyried camau gweithredu fel ailgyflwyno rhywogaethau brodorol, lle mae'n synhwyrol gwneud hynny.

Rydym ni i gyd yn cydnabod bod gennym barciau o'r radd flaenaf ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, a fy ail flaenoriaeth yw gweithio gyda'r parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol i wella gwerth natur i bobl ledled Cymru. Mae ein parciau cenedlaethol a'n hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn ganolog er mwyn gwella'r ddealltwriaeth o werth ein tirweddau naturiol. Mae ganddynt swyddogaeth addysgol allweddol, sydd hefyd yn ymwneud â helpu pobl i archwilio a defnyddio'r adnoddau hynny yn gynaliadwy i sicrhau budd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

Galwaf felly ar ein parciau cenedlaethol a'n hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol i fod yn esiamplau rhagorol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn enwedig ar fioamrywiaeth, coed a choetiroedd, ond hefyd o ran cyfrannu at ddarparu'r atebion priodol o'r maint cywir i wella effeithlonrwydd adnoddau a datgarboneiddio yn yr ardaloedd hynny. Mae'r prosiectau o dan ein cynllun rheoli cynaliadwy erbyn hyn yn dangos yr hyn sy'n bosibl. Rwy'n cydnabod bod y parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn wynebu her ariannu, a dyna pam yr wyf eisoes wedi dyrannu £3.4 miliwn o gyllid ychwanegol. 

Mae fy nhrydedd flaenoriaeth yn sylfaenol i'r cynnydd y mae'n rhaid inni ei wneud: cynyddu nifer y coed a'r coetiroedd yng Nghymru. Mae coedwigaeth eisoes yn ddiwydiant pwysig yng Nghymru, ar ei ben ei hun ac fel rhan o'r hyn yr ydym yn ei gynnig gyda'n gweithgareddau hamdden yn yr awyr agored sydd o'r radd flaenaf. Ond nid yw ein hadnoddau coetir yn ddigonol nac yn ddigon cydnerth i fod yn gynaliadwy, ac mae hyn yn rhwystr i wneud cynnydd amgylcheddol ac economaidd. I ddatgloi'r cyfleoedd masnachol, yn enwedig mewn economi sy'n datgarboneiddio'n gyflym, mae'n hanfodol bod gennym goedwigaeth a phren amrywiol fel adnodd os ydym i gadw cymaint â phosibl o fanteision y gadwyn gyflenwi yma yng Nghymru. Fy nod yw sicrhau bod gennym goetir bioamrywiol o ansawdd uchel sy'n sicrhau budd economaidd ac amgylcheddol. Rwy'n cydnabod, fodd bynnag, y bydd angen cyfnod pontio i gyflawni hyn. E mwyn creu coetir newydd, mae'n rhaid bod proses dryloyw, gymesur a rhagweladwy, a byddaf yn cyflwyno strategaeth goetiroedd ddiwygiedig gerbron y lle hwn cyn toriad yr haf.

Ehangu ein coetiroedd yw un ffordd yn unig o gynyddu nifer ein coed. Mae gan wrychoedd, coridorau afonydd, a choed trefol i gyd swyddogaeth hanfodol. Mae Glastir wedi bod â rhan allweddol yn y canlyniadau cadarnhaol hyd yn hyn, ond ar ôl Brexit bydd ein polisi newydd ar gyfer rheoli tir yn canolbwyntio ar nwyddau cyhoeddus, ac mae potensial mawr i goetiroedd yn y maes hwn.

Gadewch inni fod yn glir, nid blaenoriaeth ar gyfer cefn gwlad Cymru yn unig yw hon; mae'n flaenoriaeth i'n hardaloedd trefol hefyd. Mae prosiect Llynfi yn enghraifft o sut y gall coetir gefnogi amrywiaeth eang o fanteision i gymunedau. Ceir tystiolaeth gynyddol sy'n dangos pa mor bwysig yw mannau gwyrdd i'n hiechyd corfforol a meddyliol a sut y mae rhoi'r coed iawn yn y lleoliadau iawn yn cyfrannu at fynd i'r afael â llifogydd ag ansawdd aer gwael.

Daw hyn â mi at fy mhedwaredd flaenoriaeth: cyflymu ein camau gweithredu ar ansawdd aer gwael. Byddaf yn gwneud datganiad manwl ar wahân yn nodi ein dull ar 24 Ebrill. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i weithredu ar un o faterion iechyd cyhoeddus ataliadwy mwyaf ein hoes, ac mae'r ymrwymiad hwn yn atgyfnerthu sut y mae gan weithredu ar yr amgylchedd y potensial i sicrhau manteision i bawb.

Mae fy mlaenoriaeth olaf yn mynd at wraidd ymrwymiad ein polisi adnoddau naturiol i effeithlonrwydd adnoddau. Gan ategu ein hanes llwyddiannus iawn o ran ailgylchu, rwyf eisiau ein harwain i fod y gorau yn y byd. Yn sicr, rydym ni eisiau parhau i leihau ein gwastraff a mynd i'r afael â materion allweddol fel y pla o fagiau plastig untro. Ond mae datgloi y cyfleoedd a all ddod o fod yn fwy effeithlon o ran adnoddau hefyd yn ganolog i'n cynllun gweithredu economaidd. Byddaf yn cyflwyno rheoliadau i weithredu Rhan 4 o Ddeddf yr Amgylchedd, a hefyd yn datblygu map llwybr ar gyfer economi fwy effeithlon o ran adnoddau.

Mae'r pum blaenoriaeth yr wyf wedi'u hamlinellu heddiw i gyd mor bwysig â'i gilydd, ac mewn llawer o ffyrdd maen nhw'n rhyng-gysylltiedig: gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth; gweithio gyda'r parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol; cynyddu nifer y coed a'r coetiroedd; cyflymu ein camau gweithredu ar ansawdd aer; a bod y gorau yn y byd am ailgylchu. Mae'r rhain i gyd yn dangos y camau ymarferol sy'n cael eu cymryd ar y cyfeiriad a bennwyd gan bolisi adnoddau naturiol cyntaf Cymru. Dyma'r camau sydd eu hangen i wireddu'r dyheadau lefel uchel a'r uchelgeisiau a nodwyd wrth ddiwygio deddfwriaeth yn flaenorol.

Fel y nodwyd gan y Prif Weinidog yn 'Ffyniant i Bawb', mae ein dull gweithredu yn un traws-Lywodraethol, boed hynny wrth i mi weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y defnydd o fannau gwyrdd i wella iechyd meddwl ac iechyd corfforol; gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar ansawdd aer a'r contract economaidd a'r cyfleoedd ar gyfer twf gwyrdd mewn meysydd fel pren yn y diwydiant adeiladu; neu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar y symudiad i ffwrdd o system lle caiff elw ei breifateiddio tra mae'r pwrs cyhoeddus yn ysgwyddo'r gost o effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol—y cyfan yn waith yr ydym ni eisoes wedi'i ddechrau—ac, wrth gwrs, gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y diwygiadau i'r polisi cynllunio, a defnyddio arian cyhoeddus i ddarparu nwyddau cyhoeddus drwy wobrwyo rheolwyr tir am adfer a chynnal amgylchedd iach, ac ar bolisi rheoli morol cynaliadwy sy'n cydnabod pwysigrwydd adfer ecosystemau cydnerth ac yna sicrhau'r manteision lawer a gawn o'r amgylchedd morol.

Ond ni fydd camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru yn unig yn ddigon i fynd i'r afael â'r heriau yr ydym yn eu hwynebu. Mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i fod yn gyfrifol a gweithredu, ac rwyf eisiau talu teyrnged i'r cymunedau, sefydliadau ac unigolion ar draws y wlad sydd eisoes yn gweithredu'r camau hyn. Rwy'n croesawu'r mentrau mewn ardaloedd o Ynys Môn i Aberporth, sydd eisoes yn cymryd camau arloesol i fynd i'r afael â llygredd plastig, a byddaf yn cynnal cyfres o ymweliadau ac ymgysylltiadau ledled Cymru yn yr haf i weld ac i drafod y gwaith sy'n cael ei wneud. Rwyf eisiau sicrhau ein bod yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i rymuso pobl a dileu rhwystrau i weithredu cadarnhaol, i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu a chyflawni ein blaenoriaethau.

Mae grymuso'r sector cyhoeddus i gymryd rôl arweiniol, fel rydym ni wedi'i wneud eisoes mewn partneriaeth â llywodraeth leol ar ailgylchu, yn allweddol. Rwy'n bwriadu adeiladu ar y bartneriaeth hon ar gyfer bioamrywiaeth a byddaf yn cyfarfod â phob awdurdod lleol i drafod sut y maen nhw'n bwriadu gweithredu eu dyletswyddau cyfreithiol newydd yn Neddf yr amgylchedd.

Mae'r pwyslais presennol ar blastig yn dangos pwysigrwydd camau gweithredu y gallwn ni i gyd eu cymryd fel unigolion ac fel sefydliadau. Mae swyddogaeth allweddol ar gyfer ein digwyddiadau eiconig. Byddaf yn gweithio gyda threfnwyr digwyddiadau mawr Cymru, fel Sioe Frenhinol Cymru a'r Eisteddfod, i weld sut y gallwn ddefnyddio ein digwyddiadau byd-enwog yn llwyfan ar gyfer gweithredu.

Yn olaf, nodais ar y dechrau bod yr amgylchedd yn egwyddor sy'n rhan o'n dull gweithredu ar y cyd. Mae hon yn egwyddor sydd gennym yn gyffredin ag egwyddorion amgylcheddol yr UE sy'n cydnabod pwysigrwydd yr amgylchedd, nid dim ond fel cartref i natur, ond yn benderfynydd allweddol o'n hiechyd fel unigolion, cydnerthedd ein cymunedau, a dichonoldeb hirdymor ein heconomi. Rwy'n deall y pryder a fynegwyd yn sgil colli safonau'r UE a'r egwyddorion amgylcheddol sydd ar waith ar hyn o bryd.

Rydym wedi ymrwymo i beidio â llithro'n ôl ar egwyddorion a safonau amgylcheddol, ac rydym yn gwbl ymrwymedig i gynnal safonau presennol yr UE a pharhau i wella arnynt. Ac fel y nodwyd yn glir yn y ddadl ar ein Bil parhad, byddwn yn gweithio i gau'r bwlch llywodraethu amgylcheddol a achosir drwy ymadael â'r UE ar y cyfle deddfwriaethol priodol cyntaf. Ond mae'n rhaid gwneud hyn mewn ffordd sy'n gweithio gyda, ac yn ategu, yn hytrach na thorri ar draws y ddeddfwriaeth sylfaenol a gydnabyddir yn rhyngwladol yr ydym wedi'i rhoi ar waith yng Nghymru, ac sy'n unigryw yn y DU.

Rwy'n falch o'r ffaith ein bod yn cael ein cydnabod yn rhyngwladol fel cenedl sy'n seiliedig ar egwyddorion ac sy'n ymwybodol o'r amgylchedd. Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae'r gwerthoedd hynny yn gynyddol wrth wraidd y brandiau mwyaf llwyddiannus a byddant yn sylfaenol i'n gallu i gystadlu'n rhyngwladol. Fel cenedl, mae gennym ni'r adnoddau naturiol, yr hanes, a'r gallu i wireddu cyfleoedd y cyfnod pontio yr ydym yn ei wynebu. Wrth nodi'r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu amgylcheddol heddiw, rydym yn cydnabod nad yw'n beth braf i'w gael, ond yn fuddsoddiad yn nyfodol ein cenedl.

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:49, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Er fy mod i'n croesawu'r datganiad heddiw, mae'n rhaid imi ddweud, ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'n gyffredinol iawn o ran ei strwythur, ac rwy'n ofni ei fod mewn mannau yn ein difyrru gydag ymadroddion eang a mynegiant gwael iawn. Wyddoch chi, rwy'n credu weithiau fod angen myfyrio mwy ar y testunau a ddaw ger eich bron. Mae'n rhaid imi ddweud, i ddatgan yn y Cynulliad hwn, ac rwy'n dyfynnu'r datganiad:

'Rwyf felly yn galw ar ein parciau cenedlaethol a'n hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol i fod yn esiamplau rhagorol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn enwedig ar fioamrywiaeth, coed a choetiroedd', ac yn y blaen. Wel, iesgob, maen nhw mewn argyfwng os nad ydyn nhw'n gwneud hynny'n naturiol eisoes, wyddoch chi. Rwy'n credu bod angen mwy o fanylion arnom ni a mwy o afael. Ac rwy'n credu bod angen i'ch adran chi yn gyffredinol—rwy'n gweld Ysgrifennydd y Cabinet yma hefyd—achosi llawer mwy o helynt i'r agenda amgylcheddol a datblygu cynaliadwy, a defnyddio'r cyfrwng deddfwriaethol allweddol—sef Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn benodol—ac ar hyn o bryd, rwy'n credu bod hyn yn esbonio llawer o'r cyflawni gwael: nid yw yno; nid oes gweithio traws-Lywodraethol ar hyn o bryd ac mae angen hynny arnom.

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:51, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i edrych ar rai o'r pethau penodol, felly, i dynnu sylw at fy mhryderon? Coetiroedd, coedwigaeth. Rydych chi bellach wedi ymrwymo i adnewyddu'r strategaeth coetiroedd. Wel, beth mae hynny'n ei olygu? A yw'n golygu eich bod yn mynd i waredu'r targedau presennol a dyfeisio rhywbeth llawer llai uchelgeisiol? Byddwch yn gwybod bod adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i goetiroedd yng Nghymru wedi nodi'r mater hwn bod lefel isel o greu coetiroedd yn fethiant allweddol yn gyfan gwbl. A dywedodd Confor wrth y pwyllgor, a dyfynnaf:

'Mae creu coetir yng Nghymru wedi bod yn fethiant trychinebus. Mae angen i Gymru blannu 31,800ha o'r 35,000ha a ddylai erbyn hyn fod wedi'u plannu, dim ond i fod yn ôl ar y trywydd iawn'.

Rydym ymhell ar ei hôl hi o ran y targed a bennwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2010, pan  oedd coetiroedd o tua 500 hectar yn cael eu creu ar y pryd, a chynyddwyd hynny i 5,000 y flwyddyn dros gyfnod o 20 mlynedd. Dydyn ni heb hyd yn oed gyrraedd, yn yr holl amser hynny, y targed un flwyddyn—12 mis. Rwy'n credu bod hyn yn crynhoi rhai o'r anawsterau yr ydym ni'n eu profi. A gaf i ofyn i chi, o leiaf o ran y canopi trefol, pan fyddwch chi'n adnewyddu'r strategaeth, i ymrwymo'r targed o 20 y cant o orchudd canopi coetir yn ein hardaloedd trefol, sydd, wrth gwrs, wedyn yn golygu y gellir eu dosbarthu yn goedwigoedd trefol?

Ar ansawdd aer, rwy'n credu ei bod yn siomedig iawn bod gennym y dull rhanedig hwn, lle rydych chi'n gwneud y datganiad cyffredinol hwn yr wythnos hon, ac rydych chi wedi dweud, 'Wel, mewn gwirionedd, bydd y manylion gwirioneddol ar faes allweddol iawn yn dod yr wythnos nesaf,' ond yn amlwg, byddwn ni'n craffu arnoch chi yn fanwl nawr. Rwyf eisiau gweld rhywfaint o uchelgais o ran sut yr ydym ni'n mynd i dargedu'r ardaloedd sydd wedi bod, ers degawdau—cenedlaethau rai ohonynt—ag ansawdd aer gwael, a sut y byddwn yn gwrthsefyll hynny. Ac rwyf eisiau gweld strategaeth mannau gwyrdd mwy cyffredinol, fel bod gennym ni gysyniadau fel toeau gwyrdd, a sut mae mannau gwyrdd, yn ein cymdogaethau tlotaf, yn arbennig, yn gallu, gyda pholisi gwrth-tagfeydd da, gwella ein hansawdd aer mewn ardaloedd trefol mewn ffordd radical.

O ran effeithlonrwydd adnoddau, rwy'n cytuno i raddau helaeth â'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud. Mae angen strategaeth plastigau, nid dim ond yng Nghymru, ond ledled Ewrop a'r DU,—sut yr ydym yn defnyddio'r deunydd defnyddiol iawn, ond mae'n achosi problemau gwirioneddol o ran ei ddefnydd sengl a'i waredu. A beth yw'r sefyllfa o ran y cynllun blaendal poteli? Mae hyd yn oed Llywodraeth y DU wedi mynd o'n blaenau ni nawr, ar ôl dechrau eithaf araf, ar gynlluniau blaendal. Maen nhw'n ymddangos yn awyddus, ond ar ôl y brwdfrydedd cychwynnol, ymddengys nad ydym yn cyflawni llawer o ran ein cynlluniau ni ac mae sut yr ydym yn diffinio prosiect peilot wedi achosi problemau i ni, hyd yn oed. Ac a gaf i ddweud, rwyf wedi cyhoeddi datganiad o farn heddiw, yn galw ar y Comisiwn i gydnabod ac ymuno mewn mis Gorffennaf di-blastig, sef strategaeth i geisio lleihau plastig untro? Byddai'n syniad da pe byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud yr un peth—byddem ni i gyd yn gallu gweiddi hwrê, wedyn.

O ran gweithio ar y cyd, rwyf eisoes wedi dweud fy mod o'r farn bod angen defnyddio'r fframwaith deddfwriaethol ardderchog. Ond, cawsom dystiolaeth fis neu ddau yn ôl, efallai, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth a'i swyddogion a ddywedodd yn ffroenuchel mai'r egwyddor drefniadol bellach oedd Deddf cenedlaethau'r dyfodol. Felly, gofynasom, 'Wel, pa fath o hyfforddiant yr ydych chi wedi'i gael? Pa adolygiad o'ch targedau a'ch uchelgeisiau cyfredol?' ac roedd yn union fel bod â bechgyn ysgol nerfus o'ch blaen yn baglu dros eu geiriau wrth iddyn nhw geisio rhoi ymateb cydlynol, ac ni lwyddon nhw mewn gwirionedd.

Yn olaf, ar Brexit, rydych chi'n iawn i ddweud nad ydym ni eisiau dirywiad; mae angen inni gynnal safonau uchel. Mae llawer o faterion yma y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw ar sail y DU, a byddwn ni'n eich cefnogi chi pan fo'n rhaid i chi wneud yr achos dros Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol yn y gwahanol fforymau ar lefel y DU. Tybed a ydych chi wedi ymateb eto i awgrym Llywodraeth y DU y dylai rhyw fath o gorff monitro annibynnol weithredu ar lefel y DU.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 4:56, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am eich cwestiynau a'ch cyfraniadau niferus yn y fan honno. Yn gyntaf, a gaf i ddweud fy mod yn croesawu eich cefnogaeth o ran gwneud yn siŵr nad ydym yn camu yn ôl ar unrhyw un o'n camau diogelu amgylcheddol wrth i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a bod y dulliau hynny ar waith o ran cadw'r camau diogelu hynny mewn gwirionedd a glynu wrth ein rhwymedigaethau rhyngwladol? O ran gwaith a wnaed ar y corff amgylcheddol, mae sgyrsiau a gwaith yn mynd rhagddynt gyda chyfarfodydd rheolaidd gyda DEFRA, ar lefel swyddogol ac ar lefel weinidogol drwy Ysgrifennydd y Cabinet.

O ran coetiroedd, mae hon yn sgwrs yr ydym wedi ei chael cyn hyn, rwy'n sylweddoli hynny. Un o'r dadleuon cyntaf yr ymatebais iddi yn y Siambr oedd ar adroddiad pwyllgor yr amgylchedd, 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater', ac roeddwn gerbron y pwyllgor gydag Ysgrifennydd y Cabinet yn y sesiwn graffu ychydig cyn toriad y Pasg. Rydym yn sylweddoli nad ydym mewn sefyllfa i fodloni'r targedau uchelgeisiol hynny o ran creu coetiroedd, ond rwyf wedi nodi hynny i wneud yn siŵr bod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei newid yn sylweddol.

Soniais fy mod wedi ymweld â'r Alban a chyfarfod â'm cyd-Aelod, Fergus Ewing. Maen nhw'n gwneud mwy o gynnydd yn yr Alban, ond mae eu dull nhw wedi ei seilio ar coed conwydd yn unig. Ond fel y dywedais i, yn y fan yma, rydym ni'n chwilio am fwy o fioamrywiaeth a'r cydbwysedd hwnnw rhwng llydanddail a chonwydd. Rydym yn chwilio am ateb sy'n gydnaws â ni yng Nghymru. Ond, mae yna gyfleoedd o ran swyddi wrth inni edrych ar ddyfodol rheoli tir; bydd yn agor maes inni fynd iddo ar hynny, ond yn y cyfamser—a chaiff hyn ei amlinellu yn y fersiwn ddiwygiedig o'r strategaeth hon—mae'n ymwneud mewn gwirionedd â'r camau y gallwn ni eu cymryd nawr a beth yw'r rhwystrau sy'n bodoli ar hyn o bryd o ran creu coetiroedd a phlannu coed a'r hyn y gallwn ni ei wneud yn awr. A allwn ni ystyried a oes potensial i nodi rhagdybiaeth o greu coetir mewn rhai ardaloedd, felly mynd yn ôl at y coed iawn yn y lleoedd iawn a gwneud yn siŵr bod hynny'n lle priodol? 

Croesawaf yn fawr iawn ddatganiad o farn yr Aelod—sylwais arno heddiw—ar fis Gorffennaf di-blastig. Rwy'n siŵr bod rhywbeth y gallwn ni fod yn ei wneud i gefnogi hynny, ac rwy'n credu ei bod yn fenter wych ac yn un o'r pethau hynny sydd mewn gwirionedd yn tynnu sylw'r cyhoedd a'r cyfryngau. Roeddech chi'n sôn am ystâd y Cynulliad a bod heb blastig untro, mae hynny'n rhywbeth, o'm safbwynt i, o ran ystâd Llywodraeth Cymru, y mae gwaith ar y gweill i ystyried sut y gallwn gymryd camau. Rydym eisoes yn gweithio gyda'r contractwyr a'r arlwywyr i weld sut y gallwn fwrw ymlaen i weithio tuag at wneud yn siŵr bod ystâd Llywodraeth Cymru heb unrhyw blastig untro.

O ran effeithlonrwydd adnoddau a chynlluniau dychwelyd blaendal, rydych chi'n ymwybodol ein bod bellach wedi cael crynodeb cychwynnol o adroddiad estynedig cyfrifoldeb y cynhyrchydd, a gobeithiaf fod mewn sefyllfa i ddod yn ôl i'r lle hwn yn y dyfodol agos iawn i amlinellu argymhellion allweddol hwnnw a'r camau nesaf, ac yn amlwg, rwy'n croesawu eich sylwadau a'ch gwaith craffu pan gyrhaeddwn ni'r pwynt hwnnw. Ond credaf y dylem  gydnabod hefyd pan fyddwn yn edrych ar lefelau ailgylchu yma yng Nghymru, ein bod ni ar y blaen i'n cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr. Serch hynny, ni ddylem fod yn hunanfodlon, oherwydd mae angen inni ystyried sut mewn gwirionedd yr ydym yn parhau â'r cynnydd hwnnw a meddwl am bethau ac atebion arloesol a gwahanol ddulliau y gallwn ni eu gweithredu. Dyna pam y credaf fod llawer i'w ddysgu o'r math o don gweithredu cymunedol yr ydym ni wedi ei gweld a sut y gallwn ddod â hynny at ei gilydd. Fel y dywedais, mae camau y mae angen inni eu cymryd ar lefel Llywodraeth hefyd.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 5:00, 17 Ebrill 2018

A gaf i groesawu naws y datganiad gan y Gweinidog heddiw? Mae'r egwyddorion sydd yn y datganiad yn rai digon cadarn. Nid oes modd imi, yn sicr, ddadlau yn eu cylch nhw, ond mae'n rhaid i minnau ddweud hefyd roeddwn i'n gobeithio am gynigion penodol yn y datganiad yma ynglŷn â sut mae'r Llywodraeth yn mynd i fynd i'r afael â'r cwestiynau a'r heriau sydd wedi cael eu gosod gan y Gweinidog. Rydym ni'n dal, yn anffodus, mewn sefyllfa lle'r ydym ni'n trafod rhai syniadau eithaf lefel uchel, ond heb drafod beth yw'r cynigion penodol sydd gan y Llywodraeth.

Felly, a gaf i droi at rai o'r rhain nawr a gofyn nifer o gwestiynau, os caf i, i'r Gweinidog ar y materion hyn? Er enghraifft, fe gynhaliodd y Llywodraeth ymgynghoriad eang iawn ar reolaeth adnoddau naturiol Cymru llynedd. Roedd e'n ymgynghoriad dadleuol mewn cylchoedd. Mae'r rhan fwyaf o'r cynigion hynny bellach yn gorwedd gyda'r Gweinidog, rydw i'n meddwl. Roedd yna 56 cynnig yn yr ymgynghoriad yma. Hyd yma, nid ydym ni wedi gweld yr adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad a addawyd yn y flwyddyn newydd, ond nid ydw i'n sicr ddim wedi gweld bod unrhyw beth wedi cael ei gyflwyno i'r Cynulliad. O'r 56 cynnig, nid oes sôn heddiw am ba rai y mae'r Llywodraeth yn bwriadu mynd yn eu blaen, felly hoffwn i wybod gan y Gweinidog pa rai y mae hi'n bwriadu gweithredu arnyn nhw.

Yn sylfaenol i'r her y mae'r Gweinidog wedi ei osod allan inni heddiw ynglŷn â bioamrywiaeth, er enghraifft, ynglŷn ag ansawdd yr amgylchedd, yw datganiadau ardal gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Pryd byddwn ni'n gweld y datganiadau ardal yma a phryd, felly, byddwn ni'n gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd ar lefel lleol iawn i fynd i'r afael â hyn?

Mae'r Gweinidog wedi trafod coedwigoedd, a David Melding hefyd. Mae'n wir i ddweud, rydw i'n meddwl, ein bod ni ond wedi cyrraedd 10 y cant o'r targed presennol sydd gyda ni, felly, beth yn union sydd gan y Llywodraeth i'w gynnig i gyflymu'r broses yna sut gymaint fel ein bod ni'n gallu mynd yn llawer mwy eang gyda phlannu coedwigoedd, ac yn enwedig coedwigoedd masnachol? Rydw i'n derbyn y pwynt bod gyda ni dirwedd wahanol ac amgylchedd gwahanol i'r Alban, ond mae yna le i ddatblygu coedwigoedd masnachol yng Nghymru. Er enghraifft, a oes unrhyw beth pellach mae'r Gweinidog yn gallu dweud wrthym ni ynglŷn â galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i gadw rhan o'r arian sydd yn cael ei godi drwy lesio tir ar gyfer ynni adnewyddol er mwyn dargyfeirio'r arian yna yn uniongyrchol at blannu coed a phlannu coed masnachol yn ogystal?

Mae heriadau'r parciau cenedlaethol eisoes wedi cael eu crybwyll, ond rydw i, er yn cydnabod bod rhywfaint o arian ychwanegol—mae'r cyllido sylfaenol ar gyfer y parciau cenedlaethol, ac yn enwedig ardaloedd harddwch eithriadol, yn dila iawn ac wedi crebachu dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, a ydyn nhw wedi eu cyllido yn ddigon i ymateb i'r her sydd yn y datganiad? Ac a gaf i ofyn: a ydy Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei gyllido digon ac mewn siâp llywodraethu digon da i fynd i'r afael â rhai o'r heriadau yma hefyd?

Rwy'n derbyn bod yna ddatganiad mewn wythnosau ynglŷn ag ansawdd awyr, ond mae'n wir i ddweud bod angen gweithredu cyflym iawn gan y Llywodraeth ar y mater yma. Rydw i a Phlaid Cymru o'r farn bellach bod angen dim llai na Deddf awyr glân er mwyn mynd i'r afael â hyn, ac rydw i'n edrych ymlaen at glywed beth sydd gan y Gweinidog i'w ddweud. Rwy'n derbyn nad yw e yn adroddiad heddiw, ond gobeithio y daw e yn fuan iawn.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 5:04, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Pwynt olaf yr ymdriniodd y Gweinidog ag ef yw anghenion economi effeithlon o ran adnoddau, ac rwy'n rhannu ei hamcanion, yn sicr. Mae angen inni weld yr adroddiad cyfrifoldeb cynhyrchydd cyn gynted â phosibl. Mae angen inni ddeall, hefyd, sut mae'r Llywodraeth bellach yn mynd i ymateb i'r seilwaith newydd, os dymunwch chi, ar gynllun dychwelyd blaendal. Rydym wedi trafod y posibiliadau neu'r hyn sy'n ddichonadwy yng Nghymru. Rydym yn sicr y tu hwnt i hynny erbyn hyn; mae gennym gynnig ledled y DU. Yn ddiddorol, mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud ei bod yn dymuno cynnal, neu weld a all ymuno â ni a Llywodraethau eraill i gynnal uwchgynhadledd ar ddychwelyd blaendal fel y gallwn gytuno ar fframwaith cyffredin i'r DU. Hoffwn wybod gan y Gweinidog heddiw a fydd hi'n ymateb i'r gwahoddiad hwnnw gan Roseanna Cunningham a Llywodraeth yr Alban a bod yn rhan o uwchgynhadledd ledled y DU i drafod hyn.

O ran plastigau, wrth gwrs, rydyn ni mewn sefyllfa hollol hurt ein bod heddiw yn yfed dŵr o boteli plastig sy'n cynnwys plastig o boteli plastig blaenorol. Pan rydych chi'n cyrraedd y sefyllfa honno, mae angen inni mewn gwirionedd wybod bod—angen gwneud rhywbeth. Er y sonnir am hyn eto yn y datganiad hwn, collwyd y cyfle i roi ardoll ar blastig untro yng Nghymru fel ein treth gyntaf arloesol, a bellach mae angen inni symud ymlaen, yn sicr, os nad ydym ni'n mynd i gael yr ardoll honno, i rywbeth sydd mewn gwirionedd yn ymdrin â chynllun dychwelyd blaendal, ac yn adeiladu ar ein llwyddiant o ran ailgylchu. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol, er ein bod yn ailgylchu tua 70 y cant o'r poteli plastig, dim ond 70 y cant o'r rhai sy'n cyrraedd y ffrwd gwastraff ailgylchu yw'r rheini. Mae llawer ohonyn nhw'n cael eu gwaredu naill ai fel sbwriel neu hyd yn oed ar y strydoedd neu beth bynnag—efallai eu bod yn y bin, ond dydyn nhw ddim yn cael eu hailgylchu. Felly, mae'r 70 y cant yn dipyn o darged camarweiniol.

Y peth olaf yr hoffwn ofyn iddi yw hyn: mae hi wedi sôn yn y datganiad hwn am ddeddfwriaeth a gweld y cyfleoedd ddeddfwriaeth—pryd mae hi'n gweld y cyfle'n codi ar gyfer deddfwriaeth, a drafodwyd cyn y Pasg ynghylch cadw ein camau diogelu Ewropeaidd wrth i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd? Pryd mae hi'n gweld hynny'n digwydd? A soniodd hefyd cyn y Pasg, dim ond mis yn ôl, am y potensial o gael deddfwriaeth i barciau cenedlaethol ynghylch eu defnydd o adnoddau naturiol. Felly, pryd mae hi'n gweld y cyfle ar gyfer deddfwriaeth ar y mater hwnnw?

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 5:06, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le wrth iddo sôn am lefelau ailgylchu poteli plastig, o ran, mewn gwirionedd, un o'r heriau yn awr yw'r broblem o ailgylchu pan fydd pobl i ffwrdd o'u cartrefi, nid taflu sbwriel yn unig, sy'n ffactor sy'n cyfrannu. Ond hefyd ni allaf ond sylwi nawr, ble bynnag yr af, rwy'n chwilio'n benodol i weld a oes gan ardal siopa neu ganolfan drafnidiaeth gyfleusterau ailgylchu. Rwyf wedi troi'n gymaint o 'geek', rwy'n tueddu i dynnu lluniau ohonyn nhw hefyd erbyn hyn—rwyf wedi newid. Ond mae hynny'n dangos mewn gwirionedd ein bod ni'n gallu gweld newid diwylliannol hefyd yn nisgwyliadau pobl, wrth iddynt chwilio am gyfle i ddefnyddio cyfleusterau o'r fath, ac rwy'n credu mai gweithio mewn partneriaeth yw'r cyfan sy'n rhaid ei wneud i fod yn siŵr ein bod yn gwneud i hynny ddigwydd.

O ran y cynllun dychwelyd blaendal a'r astudiaeth ddichonoldeb a'r camau nesaf, rwy'n credu eich bod chi a minnau yn cyfarfod bore yfory. Rwyf wedi cael cyswllt, gohebiaeth, â Roseanna yn Llywodraeth Cymru—. Y DU—. Yn Llywodraeth yr Alban; fe gyrhaedda' i yno yn y pen draw. Ac rydym ni i fod i gael trafodaeth draws-Lywodraethol ar y mater hwn yn benodol fis nesaf, rwy'n credu. Felly, rwy'n siŵr y byddaf mewn sefyllfa ar yr adeg honno i roi diweddariad i'r Aelodau ar hynny.

Mae angen imi gywiro'r Aelod ar un peth. Rydych chi'n dweud bod y datganiad ansawdd aer i ddod ymhen ychydig wythnosau; yr wythnos nesaf fydd hynny mewn gwirionedd, felly mae'n gynt nag yr ydych chi'n ei feddwl. Ond yr wyf i, yn amlwg, yn derbyn o ddifrif yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am yr angen i weithredu ar frys. Mae'n un o'r materion iechyd ataliadwy mwyaf sy'n ein hwynebu yn ein cenhedlaeth ni.

O ran yr ymgynghoriad ar reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, dydw i ddim yn gwybod a ydych chi'n ymwybodol y cafwyd llawer iawn o ymatebion iddo—dros 17,000 o ymatebion. Mae swyddogion wedi cwblhau'r crynodeb cychwynnol o'r holl ymatebion, ac mae'n amlwg bod rhai o'r cynigion wedi polareiddio safbwyntiau. Ond, serch hynny, mae'r ymatebion hyn wedi caniatáu inni gael gwell dealltwriaeth o farn a safbwyntiau amrywiaeth eang o sefydliadau sy'n rhanddeiliaid, fel rwy'n siŵr y gall yr Aelod ei ddychmygu. Rwyf eisiau cyhoeddi'r ddogfen ymateb honno cyn gynted ag sy'n bosibl nawr, ond rwyf eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n ystyried yn briodol, ac mewn ffordd gytbwys, yr effeithiau posibl, yn gadarnhaol a negyddol, i wneud yn siŵr ein bod yn dod o hyd i'r ffordd iawn ymlaen. Ond, na, rwy'n cydnabod yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud o ran y cyfnod o amser a'r angen i ddatblygu hynny bellach.

I ateb eich pwynt o ran—. Rydym ni'n sôn am greu coetiroedd eto, a gwnaethoch chi gyfeirio'n benodol at allu Cyfoeth Naturiol Cymru i godi arian, ac mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cytuno y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ymgymryd â phlannu cydadferol o'r incwm a ddaw o ddatblygiadau ffermydd gwynt. Fel rheolwyr yr ystâd coetir, byddant hefyd yn cael tua £3.7 miliwn o gyllid ychwanegol y flwyddyn hon i fynd i'r afael â Phytophthora ramorum, a bydd rhan o hyn yn ymwneud ag ailblannu hefyd.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:09, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Dydw i ddim yn dymuno bod yn angharedig wrth y Gweinidog—weithiau mae hynny'n ddyletswydd gadarnhaol arnom ni, fel yn gynharach yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog—ond, yn yr achos arbennig hwn, hoffwn i fynd ar drywydd y pwyntiau a wnaed i ddechrau gan David Melding yn gynharach. Mae diffyg dyfnder yn y datganiad a hynny er ei fod yn hir. Mae'r Llywodraeth yn aml, rwy'n meddwl, yn dangos ei hymrwymiad i ailgylchu drwy ailadrodd yr hyn y mae wedi'i ddweud lawer, lawer gwaith o'r blaen, ac mae hyn, yn fy marn i, yn enghraifft o hynny.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:10, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r datganiad, wrth gwrs, yn cynnwys yr ymosodiad defodol ar Brexit, ac yn sôn am fygythiadau, ond gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn cydnabod, mewn termau amgylcheddol, beth yw'r bygythiad yma? Y bygythiad yw ein bod ni'n gwneud y penderfyniadau hyn drosom ni ein hunain yn hytrach na bod pobl eraill yn eu gwneud ar ein rhan. Rydym ni'n gyfrifol am ein polisi amgylcheddol ein hunain o'r diwrnod y byddwn yn gadael yr UE, a rhydd hynny gyfle i ni gywiro rhai o ddiffygion deddfwriaeth amgylcheddol yr UE. O ran Cymru yn benodol, hoffwn ailadrodd rhywbeth yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen yn hyn o beth hefyd, o ran dad-ddofi tir ar y bryniau, er enghraifft, oherwydd rwy'n cymeradwyo'n llwyr yr hyn a ddywedir yn y Senedd am fioamrywiaeth yn ei holl ffurfiau. Rydym ni wedi gweld, drwy'r polisi dad-ddofi tir, sydd yn deillio o Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE, rai newidiadau trychinebus. Bu cynnydd trychinebus, er enghraifft, yn y rhan fwyaf o ysglyfaethwyr, a chanlyniad hynny yw dirywiad, weithiau tuag at ddifodiant, lawer o rywogaethau ysglyfaethus sy'n fregus.

Mae gadael yr UE yn rhoi cyfle inni, gan fod yr amgylchedd yn un o'r meysydd pwysicaf o gyfrifoldeb y byddwn ni'n ei ennill, i gymryd ymagwedd wahanol iawn i'r un a fabwysiadwyd hyd yma. Unwaith eto, rydym ni wedi gweld cynnydd mewn glaswelltau breision ac annymunol, a'r rheini'n bla o drogod gan nad yw grug aeddfed wedi'i losgi, a hefyd heigiadau eraill, fel chwilen y grug, o ganlyniad i hynny. Gall rhedyn sydd allan o reolaeth wneud tirwedd yn anffrwythlon, ac mae rhedyn yn fector i'r clefyd Lyme. Rwy'n credu bod yn rhaid inni ailystyried y ffordd yr ydym ni'n edrych ar hyn mewn ardaloedd cefn gwlad, a rhydd Brexit y cyfle i ni wneud hynny er budd bioamrywiaeth. Felly, os ydym ni'n gwneud hynny, yna byddwn ni i gyd yn mynd i'r un cyfeiriad gyda'n gilydd, ni waeth pa safbwyntiau gwahanol a allai fod gennym ar y mater mwy o hunanlywodraeth cenedlaethol.

Cefais fy nghyfareddu gan y sôn am ailgyflwyno rhywogaethau brodorol lle mae'n synhwyrol i wneud hynny. Bydd hi'n gwybod bod dadl fywiog ar y gweill am ailgyflwyno'r lyncs, a hyd yn oed y blaidd, i dirweddau'r wlad hon. Felly, bydd yn werthfawr, yn fy marn i, i ni gael rhywfaint o sicrwydd ar hyn. Yn sicr, mae ffermwyr yn bryderus iawn ynghylch rhyddhau anifeiliaid o'r math hwnnw i'r gwyllt, gan fod yn berygl i ffermwyr defaid, yn benodol.

O ran ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a pharciau cenedlaethol, unwaith eto, rwy'n llwyr gefnogi'r hyn a ddywedodd David Melding yn gynharach. Ac, unwaith eto, hoffwn wneud fy mhle defodol, lle ceir gwrthdaro posibl rhwng amcanion y polisi amgylcheddol ar y naill law—yn achos ynni adnewyddadwy, er enghraifft, yr wyf wedi ei godi sawl tro, lleoli ffermydd gwynt mewn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol—mae'n rhaid inni gymryd, rwy'n credu, ymagwedd fwy cymesur tuag at hyn. Heb fynd i'r ddadl ar gynhesu byd-eang yn sgil gweithredoedd dynol, mae'n rhaid i ni ystyried bod y gost i'r dirwedd o leoli fferm wynt sylweddol, rwy'n meddwl, yn fwy na'r budd cyffredinol o'r ynni y gall y fferm wynt ei gynhyrchu, ac felly mae'n rhaid inni fod yn sensitif o ran y dirwedd, rwy'n credu, a dyna beth yr hoffwn i ei weld yn cael ei flaenoriaethu.

Rwy'n cefnogi yn llwyr, fel un sydd wrth ei fodd yn plannu coed, yr hyn y mae hi'n ei ddweud am goetiroedd, ond, unwaith eto, mae David Melding wedi gwneud y pwynt bod y Llywodraeth ymhell ar ei hôl hi o ran ei hamcanion ar hyn, a hoffwn hefyd dynnu sylw at yr angen am fwy o amrywiaeth yn y mathau o goetiroedd yr ydym ni'n eu plannu. Mae'r ffaith bod plannu gormod o goed conwydd yn y gorffennol wedi gadael y dirwedd yn farwaidd yn cael ei dderbyn yn eang bellach, ac mae'n rhaid inni symud tuag at ffurf fwy amrywiol o blannu coed.

Unwaith eto, ni allai neb anghytuno â'r hyn y mae hi'n ei ddweud am yr angen i wella ansawdd aer, ond mae'n baradocs, on'd yw e', ein bod ni o fewn cof cymharol ddiweddar wedi bod yn hyrwyddo defnyddio diesel, er enghraifft, ar sail amgylcheddol, dim ond i ganfod—a dylai hynny wedi bod yn eithaf amlwg o'r dechrau, rwy'n meddwl, dim ond wrth edrych ar yr allyriadau eu hunain, yn gorfforol, drwy eu harsylwi—maen nhw'n eithaf trychinebus, mewn termau cymharol, o'u cymharu â dewisiadau eraill.

Ac, yn olaf, mae hi'n sôn am lygredd plastig. Unwaith eto, does neb eisiau gweld sbwriel ar y strydoedd nac yng nghefn gwlad, ond, unwaith eto, mae'n rhaid i ni, rwy'n credu, gadw mewn cof y gwahaniaeth rhwng cost a budd a chyfyngiadau unrhyw beth a wnawn i gyflawni yng nghyswllt y broblem fyd-eang, yn enwedig o ran yr amgylchedd morol, er enghraifft, a grybwyllir yn benodol yn y datganiad. Rwy'n credu bod yn rhaid inni gydnabod bod mwy na hanner y gwastraff plastig byd-eang sy'n llifo i'r cefnforoedd yn dod o bum gwlad: Tsieina, Indonesia, Ynysoedd y Philipinos, Sri Lanka a Fietnam, a'r unig wlad ddiwydiannol orllewinol sydd yn y 20 llygrwr uchaf yw'r Unol Daleithiau, a hynny yn rhif 20. Mae Tsieina yn gyfrifol am 28 y cant o lygredd plastig y byd—2.5 miliwn tunnell o wastraff plastig. Mae naw deg pump y cant o blastig sy'n llygru cefnforoedd y byd yn dod o 10 afon, wyth ohonynt yn Asia a dwy ohonynt yn Affrica.

Felly, rwy'n credu bod angen inni edrych ar atebion sy'n canolbwyntio mwy ar yr agweddau gweledol o'r defnydd o blastig, lle mae'n hyll ac yn lleihau ein mwynhad o'r amgylchedd, yn hytrach na'r hyn y gallech chi ei alw'n agweddau amgylcheddol. Wedi'r cyfan, o ble y mae plastig yn tarddu? Wrth gwrs, mae'r rhain yn foleciwlau olew sydd wedi'u newid. Mae'r olew yn dod o'r ddaear, ac mae'n mynd yn ôl i'r ddaear os caiff ei roi mewn safle tirlenwi. Yn bersonol, dydw i ddim yn gweld unrhyw wrthwynebiad i roi plastig mewn safleoedd tirlenwi oherwydd mae'n anadweithiol, nid yw'n mynd i bydru, nid yw'n mynd i wneud unrhyw niwed inni.

Rwy'n anghytuno ag un peth y dywedodd fy nghymydog Simon Thomas am ailgylchu plastig i fod yn blastig newydd. Dydw i ddim o reidrwydd yn gweld dim o'i le ar hynny os yw'n gwneud synnwyr masnachol i wneud hynny, ond yr hyn y mae angen inni ei wneud yw bod â mwy o ddadansoddiad cost a budd o'r hyn a wnawn. Pan oeddwn i'n aelod o Gyngor Gweinidogion yr UE fel Gweinidog dadreoleiddio Llywodraeth y DU, roeddwn i'n aml yn gwneud areithiau i'm cyd-Aelodau, cyn deddfu, am geisio cymryd agwedd gymesur tuag at yr hyn yr oeddem yn ceisio'i wneud, a cheisio mesur y costau yn ogystal â'r manteision honedig.

Felly, pan fyddwn yn ailystyried yr holl ddeddfwriaeth amgylcheddol y byddwn yn ei hetifeddu gan yr UE, mae'n rhoi cyfle i ni beidio â chymryd safbwynt absoliwtaidd bod yn rhaid cadw popeth sydd yno eisoes. Cawn edrych ar y mater o'r newydd ar ryw fath o sail wyddonol a dadansoddol. Weithiau, efallai y byddai'n synhwyrol i ni gynyddu faint o reoleiddio a wneir, ac weithiau—a chredaf y bydd llawer o gyfleoedd ar gyfer hyn ar lefel micro—i leihau effaith a chost rheoleiddio arnom. Felly, gobeithio y bydd y Gweinidog yn derbyn bod hynny'n ddull synnwyr cyffredin o reoleiddio yn y dyfodol.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 5:17, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Rwyd wedi fy syfrdanu i glywed yr Aelod yn dweud bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn beth da o ran ein diogelwch amgylcheddol. Oherwydd y bygythiad hwnnw—yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod siawns go iawn bod yna berygl i'n camau diogelu gael eu gwthio yn ôl, ond hefyd bod ein pwerau yn cael eu cymryd yn ôl, bod y ddeddfwriaeth sydd gennym ar waith yn cael ei thanseilio. Ond fel Llywodraeth Cymru, rwy'n pwysleisio ein bod yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gynnal a chyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol pan ddaw at yr amgylchedd.

Mae'r Aelod yn sôn hefyd am—. Gwnaethoch gydnabod ar ddechrau eich cyfraniad sylweddol yn y fan honno ein bod ni fel Llywodraeth Cymru yn siarad o hyd am ein llwyddiant o ran ailgylchu. Nid wyf yn ymddiheuro am hynny, oherwydd rwy'n ymfalchïo yn ein record o ran ailgylchu, ond rwy'n cydnabod hefyd bod yna bethau y mae angen inni ei wneud o hyd i adeiladu ar hynny, a dyna pam yr ydym ni wedi siarad am y pethau hyn heddiw, a byddwn ni'n bwrw ymlaen â nhw o ran edrych ar gynllun dychwelyd blaendal. Byddwn hefyd yn edrych ar gyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd, oherwydd mewn gwirionedd, fel y dywedais yn y datganiad, mae yna gyfrifoldeb nad ydym ni'n caniatáu i bobl ddefnyddio elw preifat ac yna bod y pwrs cyhoeddus yn talu'r bil o ran yr effaith gymdeithasol ac amgylcheddol. Mae angen inni newid hynny, ac mae'n bwysig iawn.

Unwaith eto, mae'r Aelod yn sôn am wledydd penodol sy'n cyfrannu at y broblem plastig, ond pa un a ydym ni'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd ai peidio, rydym ni'n byw mewn byd cynyddol rhyng-gysylltiedig, a byddwn i'n dweud ei bod yn rhan o'n cyfrifoldeb byd-eang fel dinesydd byd-eang i gymryd yr awenau a dangos arweinyddiaeth wrth fynd i'r afael â gwastraff plastig.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:19, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu datganiad y Gweinidog. Mae'r amgylchedd, lle mae pob un ohonom yng Nghymru yn byw, yn fwy na dim ond yr ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, y parciau cenedlaethol, y ffermydd a chefn gwlad—mae'n cynnwys yr ardaloedd hynny y mae pobl fel fi'n byw ynddynt. Yn Nwyrain Abertawe, roedd gennym ni raglen plannu coed torfol yn y 1960au a'r 1970au, a Chwm Tawe isaf, lle cefais i fy ngeni, oedd yr ardal o'r diffeithdra trefol fwyaf yn Ewrop. Cafodd ei thrawsnewid gan y prosiect Cwm Tawe isaf, a gefnogwyd gan Gyngor Abertawe a Phrifysgol Abertawe, ac roedd y  plannu coed torfol yn rhan o hynny.

Ar Heol Castell-nedd yn yr Hafod yn fy etholaeth i y mae'r ansawdd aer waethaf ond un yng Nghymru o ganlyniad i gyfuniad o'r traffig a'r topograffi. Mae Ffordd Ddosbarthu Morfa wedi arwain at ostyngiad yn y traffig ar Heol Castell-nedd, ond mae'n parhau'n ffynhonnell fawr o lygredd aer.

Gan eich bod wedi sôn am rywogaethau anfrodorol, nid wyf yn mynd i drafod clymog eto, ond mae'r rhywogaethau anfrodorol hyn yn creu problem amgylcheddol. Ac nid clymog yw'r unig un, er ei fod yn un mawr yn ardal Abertawe. Mae gennych eraill, fel Jac y neidiwr, ac mae gennych rai eraill yn rhannau eraill o Gymru ac maent yn broblem ddifrifol. Pan fyddwn ni'n sôn am yr amgylchedd, rydym yn cadw anghofio a pheidio â sôn am a gwrthod siarad am y peth, ond mae gwir angen inni fynd i'r afael â'r rhain, gan eu bod yn cael effaith ddifrifol.

Dim ond tri chwestiwn sydd gen i. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i drawsnewid ardaloedd eraill o ddiffeithdra trefol? Beth yw cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer gynyddu'r nifer o goed mewn trefi? Ac nid wyf yn sôn am blannu rhywfaint o goed neu fwy o goedwig mewn ardal, rwy'n sôn am fod â choed yn yr ardaloedd hynny lle mae pobl fel fy etholwyr a minnau'n byw.

A pha gynigion sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella ansawdd aer, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae'r ansawdd aer yn wael iawn? Ac mae yna lawer o ardaloedd o'r fath. Gwelaf nad yw Hefin yma ar hyn o bryd, ond gall ef sôn am le yn ei etholaeth ef. Yn sicr gallaf grybwyll yr Hafod yn fy etholaeth i, a hefyd Heol Fabian, sydd yn etholaeth David Rees ac yn fy un innau, lle mae gennych dopograffi a cyfaint o draffig a'r ffaith bod traffig yn cadw stopio a dechrau oherwydd cyfaint y traffig, sydd yn cael effaith wirioneddol ddifrifol ar yr amgylchedd i'r bobl sy'n byw yno. Yn llawer o'r ardaloedd hyn, mae yna bobl sy'n byw yn nes at y brif ffordd nag yr wyf i at y Llywydd. Mae rhai ohonynt mor agos at y brif ffordd ag yr wyf i at David Melding. Rwy'n credu bod hynny'n broblem wirioneddol. Mae'r ceir yn stopio y tu allan i'w tai ac wedyn maent yn dechrau eto ac weithiau nid oes ond lled palmant rhyngddynt â'u drws ffrynt. Rwy'n credu'n gryf yn y polisi a'r athroniaeth 'y gwaethaf yn gyntaf', felly beth y gellir ei wneud am yr ardaloedd waethaf o ran llygredd ac ansawdd aer?

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 5:22, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Os yw fy naearyddiaeth yn iawn, rwy'n credu yr oeddwn i yng Nghwm Tawe isaf ddydd Sadwrn, os mentraf ddweud, i weld yr unig dîm sydd o Gymru sydd yn yr uwch gynghrair, ond mae'n rhaid imi ychwanegu cafeat: roeddwn i yno yn cefnogi'r gwrthwynebwyr. Gêm gyfartal oedd hi, felly fe symudaf ymlaen yn gyflym.

O ran rhywogaethau anfrodorol, rwy'n gwybod na wnaethoch chi ofyn cwestiwn, ond rydych chi'n iawn i godi clymog Japan a'r bygythiad gwirioneddol gan rywogaethau anfrodorol eraill. Roedd hyn yn rhywbeth a oedd yn uchel ar yr agenda yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig diwethaf fis diwethaf o ran sut y gallwn ni weithio ledled y DU ac Iwerddon i fynd i'r afael â hynny fel mater nad yw'n parchu ffiniau ac sy'n mynd ar draws arfordiroedd hefyd.

Credaf efallai ichi ddweud rhywbeth am gynyddu gorchudd coed trefol. Rydych chi'n iawn, nid yw hyn yn ymwneud â choetiroedd mewn ardaloedd mwy gwledig yn unig neu lle y byddem ni'n credu y byddai caiff wedi'i leoli. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r holl bethau arloesol gwahanol y gallwn ni ei wneud o ran y seilwaith gwyrdd, ac mewn gwirionedd mae i hynny werth ychwanegol lle mae pawb ar eu hennill o wella'r amgylchedd lleol, a hynny o ran golwg a balchder yn y gymuned, ond gall ein helpu ni hefyd i fynd i'r afael â phethau fel llifogydd ac ansawdd aer.

Os edrychwch chi ar enghreifftiau nad ydynt nepell oddi yma, gyda phartneriaeth Grangetown Werddach rhwng Cyngor Caerdydd, Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Buddsoddwyd £2 filiwn yn Grangetown Werddach, sydd mewn gwirionedd yn dal ac yn cyfeirio dŵr glaw glân yn uniongyrchol i Afon Taf yn hytrach na'i bwmpio wyth milltir i ffwrdd i'r môr. Yn rhan o hynny, maen nhw hefyd wedi ailblannu miloedd o lwyni a phlanhigion. Os ewch chi yno nawr, gallwch weld y gwahaniaeth gweledol y mae hynny wedi'i wneud i'r gymuned. Credaf fod hynny'n rhywbeth y gallwn ni ddysgu ohono, fel partneriaeth waith gyda'r gwahanol sefydliadau a chyrff cyhoeddus, i weld cynlluniau fel hwnnw yn cael eu cyflwyno ledled Cymru. Ceir Glawlif Llanelli hefyd.

Un peth yr wyf i'n credu sy'n wirioneddol allweddol yn y mentrau hyn—ac mae'n mynd yn ôl at y cwestiwn o ansawdd aer a thopograffi a'r mater o ba mor agos y gallech chi fod, plant ifanc yn arbennig, os ydych chi'n agos at y ffordd a'r pibelli ecsôst, a cheir yn aros â'r injan ymlaen y tu allan ysgolion. Mewn gwirionedd, yr hyn sy'n allweddol yn rhan o hyn hefyd yw dechrau gyda newid dros genedlaethau a chynnwys plant, oherwydd mae pŵer plagio yn rymus. Rwyf wedi dweud hynny o'r blaen ac fe ddywedaf hynny dro ar ôl tro: mae yn cael effaith drwy gywilyddio oedolion i weithredu a newid eu hymddygiad. Mae'n un o'r pethau yn y prosiect Eco-ysgolion. Rydym ni'n rhoi cynnig arno mewn 35 o ysgolion lle bydd plant yn cymryd rhan yn y gwaith o fonitro ansawdd aer, ac wedyn o'r canlyniadau hynny byddant yn cychwyn eu hymgyrchoedd newid ymddygiad eu hunain, a gallai hynny gynnwys bysiau cerdded, dod ar sgwter i'r ysgol neu bolisi 'dim aros â'r injan ymlaen'. Felly, gallaf weld ar ryw bwynt, os yw car yn aros y tu allan i'r ysgol â'r injan yn rhedeg, y bydd plentyn chwe blwydd oed yn dod i gnocio ar y ffenest a dweud wrtho i ddiffodd ei injan.

Ond o ddifrif, o ran mynd i'r afael ag ansawdd aer—yn amlwg, fe af i fwy o fanylion yr wythnos nesaf—cododd yr Aelod rai pwyntiau dilys ynghylch effaith ein topograffi ac, mewn gwirionedd, rydyn ni'n gwybod bod yna rai lleoedd sydd mewn sefyllfa waeth yng Nghymru a fydd ei angen, a dyna ddiben arddel ymagwedd sy'n seiliedig ar le. Rydym ni'n credu os ydym ni'n edrych ar gynlluniau aer glân neu barthau aer glân, yna mae'n rhaid iddyn nhw mewn gwirionedd—. Nid yw un dull ar gyfer pawb yn mynd i weithio, ac mae angen inni wneud y pethau hynny sy'n ateb yr heriau mewn gwirionedd a gweithredu mewn modd sy'n addas ar gyfer yr ardaloedd hynny.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:26, 17 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Rwy’n credu eich bod wedi cael y wobr am gyfeirio at bêl-droed ym mhob datganiad, ac rydych chi wedi cymryd hynny gan rywun a arferai fod yn gallu gwneud hynny, felly da iawn.