Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 17 Ebrill 2018.
Mae'r datganiad, wrth gwrs, yn cynnwys yr ymosodiad defodol ar Brexit, ac yn sôn am fygythiadau, ond gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn cydnabod, mewn termau amgylcheddol, beth yw'r bygythiad yma? Y bygythiad yw ein bod ni'n gwneud y penderfyniadau hyn drosom ni ein hunain yn hytrach na bod pobl eraill yn eu gwneud ar ein rhan. Rydym ni'n gyfrifol am ein polisi amgylcheddol ein hunain o'r diwrnod y byddwn yn gadael yr UE, a rhydd hynny gyfle i ni gywiro rhai o ddiffygion deddfwriaeth amgylcheddol yr UE. O ran Cymru yn benodol, hoffwn ailadrodd rhywbeth yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen yn hyn o beth hefyd, o ran dad-ddofi tir ar y bryniau, er enghraifft, oherwydd rwy'n cymeradwyo'n llwyr yr hyn a ddywedir yn y Senedd am fioamrywiaeth yn ei holl ffurfiau. Rydym ni wedi gweld, drwy'r polisi dad-ddofi tir, sydd yn deillio o Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE, rai newidiadau trychinebus. Bu cynnydd trychinebus, er enghraifft, yn y rhan fwyaf o ysglyfaethwyr, a chanlyniad hynny yw dirywiad, weithiau tuag at ddifodiant, lawer o rywogaethau ysglyfaethus sy'n fregus.
Mae gadael yr UE yn rhoi cyfle inni, gan fod yr amgylchedd yn un o'r meysydd pwysicaf o gyfrifoldeb y byddwn ni'n ei ennill, i gymryd ymagwedd wahanol iawn i'r un a fabwysiadwyd hyd yma. Unwaith eto, rydym ni wedi gweld cynnydd mewn glaswelltau breision ac annymunol, a'r rheini'n bla o drogod gan nad yw grug aeddfed wedi'i losgi, a hefyd heigiadau eraill, fel chwilen y grug, o ganlyniad i hynny. Gall rhedyn sydd allan o reolaeth wneud tirwedd yn anffrwythlon, ac mae rhedyn yn fector i'r clefyd Lyme. Rwy'n credu bod yn rhaid inni ailystyried y ffordd yr ydym ni'n edrych ar hyn mewn ardaloedd cefn gwlad, a rhydd Brexit y cyfle i ni wneud hynny er budd bioamrywiaeth. Felly, os ydym ni'n gwneud hynny, yna byddwn ni i gyd yn mynd i'r un cyfeiriad gyda'n gilydd, ni waeth pa safbwyntiau gwahanol a allai fod gennym ar y mater mwy o hunanlywodraeth cenedlaethol.
Cefais fy nghyfareddu gan y sôn am ailgyflwyno rhywogaethau brodorol lle mae'n synhwyrol i wneud hynny. Bydd hi'n gwybod bod dadl fywiog ar y gweill am ailgyflwyno'r lyncs, a hyd yn oed y blaidd, i dirweddau'r wlad hon. Felly, bydd yn werthfawr, yn fy marn i, i ni gael rhywfaint o sicrwydd ar hyn. Yn sicr, mae ffermwyr yn bryderus iawn ynghylch rhyddhau anifeiliaid o'r math hwnnw i'r gwyllt, gan fod yn berygl i ffermwyr defaid, yn benodol.
O ran ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a pharciau cenedlaethol, unwaith eto, rwy'n llwyr gefnogi'r hyn a ddywedodd David Melding yn gynharach. Ac, unwaith eto, hoffwn wneud fy mhle defodol, lle ceir gwrthdaro posibl rhwng amcanion y polisi amgylcheddol ar y naill law—yn achos ynni adnewyddadwy, er enghraifft, yr wyf wedi ei godi sawl tro, lleoli ffermydd gwynt mewn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol—mae'n rhaid inni gymryd, rwy'n credu, ymagwedd fwy cymesur tuag at hyn. Heb fynd i'r ddadl ar gynhesu byd-eang yn sgil gweithredoedd dynol, mae'n rhaid i ni ystyried bod y gost i'r dirwedd o leoli fferm wynt sylweddol, rwy'n meddwl, yn fwy na'r budd cyffredinol o'r ynni y gall y fferm wynt ei gynhyrchu, ac felly mae'n rhaid inni fod yn sensitif o ran y dirwedd, rwy'n credu, a dyna beth yr hoffwn i ei weld yn cael ei flaenoriaethu.
Rwy'n cefnogi yn llwyr, fel un sydd wrth ei fodd yn plannu coed, yr hyn y mae hi'n ei ddweud am goetiroedd, ond, unwaith eto, mae David Melding wedi gwneud y pwynt bod y Llywodraeth ymhell ar ei hôl hi o ran ei hamcanion ar hyn, a hoffwn hefyd dynnu sylw at yr angen am fwy o amrywiaeth yn y mathau o goetiroedd yr ydym ni'n eu plannu. Mae'r ffaith bod plannu gormod o goed conwydd yn y gorffennol wedi gadael y dirwedd yn farwaidd yn cael ei dderbyn yn eang bellach, ac mae'n rhaid inni symud tuag at ffurf fwy amrywiol o blannu coed.
Unwaith eto, ni allai neb anghytuno â'r hyn y mae hi'n ei ddweud am yr angen i wella ansawdd aer, ond mae'n baradocs, on'd yw e', ein bod ni o fewn cof cymharol ddiweddar wedi bod yn hyrwyddo defnyddio diesel, er enghraifft, ar sail amgylcheddol, dim ond i ganfod—a dylai hynny wedi bod yn eithaf amlwg o'r dechrau, rwy'n meddwl, dim ond wrth edrych ar yr allyriadau eu hunain, yn gorfforol, drwy eu harsylwi—maen nhw'n eithaf trychinebus, mewn termau cymharol, o'u cymharu â dewisiadau eraill.
Ac, yn olaf, mae hi'n sôn am lygredd plastig. Unwaith eto, does neb eisiau gweld sbwriel ar y strydoedd nac yng nghefn gwlad, ond, unwaith eto, mae'n rhaid i ni, rwy'n credu, gadw mewn cof y gwahaniaeth rhwng cost a budd a chyfyngiadau unrhyw beth a wnawn i gyflawni yng nghyswllt y broblem fyd-eang, yn enwedig o ran yr amgylchedd morol, er enghraifft, a grybwyllir yn benodol yn y datganiad. Rwy'n credu bod yn rhaid inni gydnabod bod mwy na hanner y gwastraff plastig byd-eang sy'n llifo i'r cefnforoedd yn dod o bum gwlad: Tsieina, Indonesia, Ynysoedd y Philipinos, Sri Lanka a Fietnam, a'r unig wlad ddiwydiannol orllewinol sydd yn y 20 llygrwr uchaf yw'r Unol Daleithiau, a hynny yn rhif 20. Mae Tsieina yn gyfrifol am 28 y cant o lygredd plastig y byd—2.5 miliwn tunnell o wastraff plastig. Mae naw deg pump y cant o blastig sy'n llygru cefnforoedd y byd yn dod o 10 afon, wyth ohonynt yn Asia a dwy ohonynt yn Affrica.
Felly, rwy'n credu bod angen inni edrych ar atebion sy'n canolbwyntio mwy ar yr agweddau gweledol o'r defnydd o blastig, lle mae'n hyll ac yn lleihau ein mwynhad o'r amgylchedd, yn hytrach na'r hyn y gallech chi ei alw'n agweddau amgylcheddol. Wedi'r cyfan, o ble y mae plastig yn tarddu? Wrth gwrs, mae'r rhain yn foleciwlau olew sydd wedi'u newid. Mae'r olew yn dod o'r ddaear, ac mae'n mynd yn ôl i'r ddaear os caiff ei roi mewn safle tirlenwi. Yn bersonol, dydw i ddim yn gweld unrhyw wrthwynebiad i roi plastig mewn safleoedd tirlenwi oherwydd mae'n anadweithiol, nid yw'n mynd i bydru, nid yw'n mynd i wneud unrhyw niwed inni.
Rwy'n anghytuno ag un peth y dywedodd fy nghymydog Simon Thomas am ailgylchu plastig i fod yn blastig newydd. Dydw i ddim o reidrwydd yn gweld dim o'i le ar hynny os yw'n gwneud synnwyr masnachol i wneud hynny, ond yr hyn y mae angen inni ei wneud yw bod â mwy o ddadansoddiad cost a budd o'r hyn a wnawn. Pan oeddwn i'n aelod o Gyngor Gweinidogion yr UE fel Gweinidog dadreoleiddio Llywodraeth y DU, roeddwn i'n aml yn gwneud areithiau i'm cyd-Aelodau, cyn deddfu, am geisio cymryd agwedd gymesur tuag at yr hyn yr oeddem yn ceisio'i wneud, a cheisio mesur y costau yn ogystal â'r manteision honedig.
Felly, pan fyddwn yn ailystyried yr holl ddeddfwriaeth amgylcheddol y byddwn yn ei hetifeddu gan yr UE, mae'n rhoi cyfle i ni beidio â chymryd safbwynt absoliwtaidd bod yn rhaid cadw popeth sydd yno eisoes. Cawn edrych ar y mater o'r newydd ar ryw fath o sail wyddonol a dadansoddol. Weithiau, efallai y byddai'n synhwyrol i ni gynyddu faint o reoleiddio a wneir, ac weithiau—a chredaf y bydd llawer o gyfleoedd ar gyfer hyn ar lefel micro—i leihau effaith a chost rheoleiddio arnom. Felly, gobeithio y bydd y Gweinidog yn derbyn bod hynny'n ddull synnwyr cyffredin o reoleiddio yn y dyfodol.