Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 17 Ebrill 2018.
A gaf i ddweud yn y cychwyn y bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r Gorchymyn heddiw i barhau â'r ddeddfwriaeth? Y rheswm ein bod ni'n trafod hwn heddiw, wrth gwrs, yw bod yna gymal machlud yn y ddeddfwriaeth wreiddiol. Y rheswm bod yna gymal machlud yn y ddeddfwriaeth wreiddiol oedd ei bod hi wedi cael ei phasio fel deddfwriaeth frys. Rŷm ni newydd gael profiad cyn y Pasg o hynny. Bach yn eironig yn y cyd-destun yma, wrth gwrs, fe gymerodd e 18 mis ar ôl pasio'r ddeddfwriaeth frys i sefydlu'r bwrdd a oedd cymaint o frys yn ei gylch e. Ond, wedi ei sefydlu, mae'r bwrdd wedi mynd ati, fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud, i amlinellu nifer o bethau pwysig sydd yn gynsail i gyflogau yn y sector amaeth.
Rydw i'n credu bod yna dri rheswm y dylem ni gefnogi parhau â'r ddeddfwriaeth yma. Yn gyntaf oll, os ŷm ni'n rhoi'r gorau i'r ddeddfwriaeth heddiw, ni fyddwn yn gallu dychwelyd at y ddeddfwriaeth yma. Mae Deddf Cymru wedi newid ac erbyn hyn ni fyddai gennym ni'r hawl i ddeddfu yn y maes yma. Nid rheswm, efallai, am ganrifoedd i afael yn y grymoedd hynny, neu byddem ni'n dal i bleidleisio ar yfed ar y Sul ar gefn y fath yna o ddadl, ond mae'n ddadl i ni ei hystyried fel Cynulliad, i beidio rhoi i fyny'r grymoedd sydd gyda ni ar hyn o bryd.
Yr ail reswm yw, wrth gwrs, er bod y bwrdd yn weithredol, er bod gennym ni sector amaeth sydd wedi'i gefnogi gan y ddeddfwriaeth yma, mae lefel cyflogau ar gyfartaledd yn y sector amaeth yn dal yn is na'r lefel cyfartaledd cyflogau drwy sectorau eraill yng Nghymru. Felly, mae yna job o waith i'w wneud i godi sgiliau, codi cyflogau, a chodi gwybodaeth ymysg y sector amaeth. Mae'n amlwg, felly, fod yna waith parhaus a pharhaol i'w wneud yn y cyd-destun yma.
A'r trydydd rheswm, a'r rheswm olaf, wrth gwrs, yw'r ffaith bod y sector yma yn wynebu un o'r heriau mwyaf y gallech chi ei dychmygu yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, sef gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, nid ydym ni'n gwybod, i fod yn gwbl onest, a fydd y ddeddfwriaeth yma o fudd mawr wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, ond beth rŷm ni yn teimlo yn gryf yw na ddylem ychwanegu at y broses o newid yn y sector wrth iddo wynebu cymaint o newid a'r heriau sydd ar y gorwel. Rydw i yn pleidio y dylem ni gadw'r sector o dan gymaint o gysondeb ag sy'n bosibl, ac mae hwn yn rhan o beth mae'r sector yn hen gyfarwydd ag ef, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr ymyrraeth sy'n mynd i ddeillio o adael yr Undeb Ewropeaidd ar y lefel isaf posibl.
Mae yna un agwedd o hyn, serch hynny, sydd yn fy nharo i fel rhywbeth o wendid gyda'r Llywodraeth, ac yn gyffredinol: y wybodaeth sydd gyda ni am Gymru yn benodol—am effaith cyflogau yn y sector amaeth, am y gymhariaeth rhwng Cymru a'r sector amaeth yn Lloegr, a'r gymhariaeth ar draws sectorau hefyd. Mae'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio yn y papurau wedi'u cyhoeddi gan y Llywodraeth yn tanlinellu bod yna wendid a diffyg gwybodaeth. Wrth gefnogi parhau â'r ddeddfwriaeth yma, byddwn i'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet a yw'n bosib iddi ddweud beth sydd gyda hi ar y gweill i wella'r ffordd yr ŷm ni'n casglu gwybodaeth ac i gasglu mwy o dystiolaeth ynglŷn â pha mor ffeithiol yw'r ddeddfwriaeth yma a gwaith y bwrdd o dan y ddeddfwriaeth.