Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddweud fy mod wedi gweld fy nghyn gyd-aelod o'r Pwyllgor Cyllid, Peter Black, i fyny yn yr oriel? Cefais fy atgoffa o etholiad diwethaf y Cynulliad, pan oeddem yn edrych ymlaen at ddatganoli treth fel rhywbeth anochel a phell, er ei fod yn agosáu. Rydym bellach ar ochr arall y datganoli hwnnw.
Wrth ateb Mark Reckless yn gynharach, mewn perthynas â'r dreth trafodiadau tir, ac rwyf am eich holi ynglŷn â hynny hefyd, fe ddywedoch chi ein bod ar hyn o bryd mewn cyfnod o gasglu tystiolaeth ynghylch cyflwyno'r trethi, ac effaith y trethi hynny, yn hytrach na dim ond dyfalu. Os yw'n ymddangos ar unrhyw adeg, fel y dywedoch chi wrth ateb Mark Reckless, fod problem gyda chyfraddau'r dreth trafodiadau tir, pryd y byddwch yn cymryd camau gweithredu i sicrhau bod y cyfraddau hynny yn cael eu gostwng er mwyn iddynt fod yn debycach i'r rhai dros y ffin?