Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae wedi dod yn fwyfwy amlwg yn sgil adroddiad yr archwilydd cyffredinol, er enghraifft, ac wedyn y dystiolaeth y mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi ei derbyn yn ddiweddar, bod un o gonglfeini polisi caffael Llywodraeth Cymru, sef y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, yn tangyflawni a dweud y lleiaf. Hynny yw, y targed, os ydy’r Aelodau’n ei gofio, yn ôl yn 2012, pan grëwyd y gwasanaeth, oedd creu £25 miliwn o arbedion ar wariant o £4.3 biliwn o fewn y sector cyhoeddus. Ond, yn y flwyddyn mwyaf cyfredol sy’n cael ei dangos yn adroddiad yr archwilydd, dim ond £15 miliwn sydd yna, felly 60 y cant, ar wariant o £6 biliwn, felly. Ac, wrth gwrs, rŷm ni’n darganfod hefyd yn yr adroddiad mai dim ond 19 y cant o aelodau’r gwasanaeth sydd yn datgan eu bod nhw yn cael cynilon ariannol a thraean, dim ond traean, o’r holl awdurdodau lleol sydd yn fodlon gyda’r gwasanaeth. Ac mae hyd yn oed Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw’n anfodlon gyda’r gwasanaeth y maen nhw eu hunain wedi ei greu. Onid yw e’n glir, Ysgrifennydd, fod polisi caffael Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn methu?