Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 18 Ebrill 2018.
Mae awdurdodau lleol a etholwyd yn ddemocrataidd yn gyfrifol am bennu'r dreth gyngor bob blwyddyn. Mae awdurdodau lleol yn atebol i'w poblogaethau lleol am y penderfyniadau a wnânt, gan gynnwys pennu cyfraddau'r dreth gyngor. Yr wythnos hon, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, sy'n cefnogi aelwydydd incwm isel.