Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 18 Ebrill 2018.
Wel, a gaf fi ddechrau drwy gydnabod y pwynt a wnaeth yr Aelod? Mae'r angen am gapasiti a galluogrwydd priodol ym maes caffael yn her. Siaradais â Kevin Morgan ynglŷn â hyn, ac roedd yr Aelod yn llygad ei le wrth nodi bod methodoleg McClelland yn awgrymu diffyg yng Nghymru i'r graddau a nodwyd ganddo. Nawr, rydym eisoes wedi gwneud rhai pethau am hyn yng Nghymru. Cawsom brosiect Doniau Cymru, sydd wedi llwyddo i ddod â phobl newydd i mewn i'r system. Rydym wedi ymrwymo i gynyddu'r gronfa o weithwyr caffael proffesiynol yng Nghymru. Rydym yn gweithio gydag ysgolion a cholegau i godi ymwybyddiaeth o gaffael fel proffesiwn dymunol. Ond mae angen inni weithio gyda sefydliadau'r sector cyhoeddus hefyd er mwyn iddynt roi'r un ymdeimlad o statws a chydnabyddiaeth i weithwyr caffael proffesiynol ag y gwnânt i eraill. Yn rhy aml, ymddengys i mi, mae sefydliadau cyhoeddus yn ystyried caffael yn ymarfer troi handlen braidd, lle nad ydych yn meddwl bod y bobl sy'n ymwneud â chaffael yn gwneud cyfraniad arloesol i waith y sefydliad. Ond gwyddom—rhai o'r pwyntiau a wnaed eisoes gan Adam Price—am allu caffael i hybu gwerth ar gyfer y cyhoedd, ac nid gwerth yn unig, ond gweithgarwch o ran cyflogaeth a buddion cymunedol ac ati. Mae angen gwell cydnabyddiaeth i statws y proffesiwn, ac mae hynny'n rhan o'r gwaith rydym yn awyddus i'w wneud i geisio mynd i'r afael â'r materion recriwtio a chadw staff a nodwyd gan Adam Price.