Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 18 Ebrill 2018.
A all yr Aelod nodi unrhyw enghraifft o Lywodraeth San Steffan yn cyhoeddi adroddiad i ymchwiliad i ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd? Rwy'n tybio na all, oherwydd mae'n gwybod yn iawn nad yw unrhyw Lywodraeth yn San Steffan, o unrhyw blaid, yn cyhoeddi ymchwiliadau i wybodaeth a ddatgelwyd heb ganiatâd. Felly, pam y mae'n gofyn i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth nad yw Llywodraeth ei blaid ei hun yn Llundain yn ei wneud?