Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch, Lywydd. Mae hon yn ddadl fer y gallai ei chanlyniad arwain at effeithiau hirdymor. Nawr, yn ôl pob golwg, mae'n ymwneud â chyhoeddi adroddiad penodol—set benodol o amgylchiadau—sydd, wrth gwrs, yn seiliedig ar drasiedi bersonol. Fodd bynnag, mae ei harwyddocâd hefyd yn mynd yn llawer pellach na hynny. Dylwn ddweud, ar y cychwyn, nad oes gennyf unrhyw ddisgwyliadau afrealistig y bydd cyhoeddi'r adroddiad hwn yn ateb yr holl gwestiynau ynghylch yr achos hwn, na hyd yn oed yn yr agwedd hon ar yr achos. Mae ymchwiliadau i ryddhau gwybodaeth heb ganiatâd yn tueddu, oherwydd eu natur, i fod yn yn amhendant. Fel y dywedodd Syr Humphrey Appleby wrth Jim Hacker yn Yes Minister, rwy'n credu, gorchwyl ymchwiliad mewnol a gynhaliwyd yn broffesiynol yw datgelu llwyth mawr o ddim tystiolaeth. Nawr, er gwaethaf hynny—. Mae Lee Waters yn iawn, wrth gwrs. Nid yw llywodraethau byth yn hoffi—. Maent yn hoffi cyhoeddi ymchwiliadau i wybodaeth a ddatgelir heb ganiatâd, nid ydynt yn hoffi cyhoeddi'r adroddiad, gan fod y cynnwys bron bob amser yn fwy diddorol na'r casgliadau. Yn lle crynhoi'r ymchwiliad i'r datgelu heb ganiatâd wrth wraidd mater Westland wrth siarad yn Nhy'r Cyffredin, pe bai Margaret Thatcher wedi cyhoeddi'r adroddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, yna mentraf ddweud y byddai Geoffrey Howe wedi dod yn Brif Weinidog erbyn 6 o'r gloch, fel yr oedd hi wedi'i ddarogan i'w chydweithwyr. Nawr, ceir rhai eithriadau. Damian Green—yr adroddiad gan y Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd ynghylch yr ymchwiliad i'r datgelu heb ganiatâd yn 2009, fe gredaf. Ymchwiliad Alistair Carmichael i'r datgelu heb ganiatâd yn 2015—ni chawsom yr adroddiad llawn gan y Llywodraeth, ond roedd yna grynodeb fanwl tu hwnt mewn gwirionedd, a nodai'r broses a'r fethodoleg a ddefnyddiwyd.
Nawr, rwy'n derbyn mai adroddiad wedi'i olygu fydd hwn drwy ddiffiniad, ond hyd yn oed wedyn, drwy ddiffiniad, bydd hi bron yn bosibl casglu o leiaf fwy o wybodaeth nag sydd gennym ar hyn o bryd o'r ddau baragraff byr a gawsom gan yr Ysgrifennydd Parhaol. Nawr, rwy'n credu bod y dadleuon o blaid cyhoeddi yn fwy sylfaenol. Maent yn ymwneud ag egwyddorion Llywodraeth agored, maent yn ymwneud ag atebolrwydd seneddol, ac maent yn cyffwrdd â'r bennod dywyll, rwy'n credu, yng ngwleidyddiaeth Cymru y cawn ein hunain ynddi ar hyn o bryd.
Ar werth tryloywder, Louis Brandeis—yr unig sosialaidd erioed i gael ei benodi i'r Goruchaf Lys, dyn a raddiodd yn y gyfraith o Harvard, ond peidiwch â gadael i ni ddal hynny yn ei erbyn—a lefarodd y geiriau enwog:
Dywedir mai golau haul yw'r diheintydd gorau; a golau trydan yw'r plismon mwyaf effeithlon.
Os ceir amheuon dilys ynghylch mater pwysig sy'n destun trafod a dadlau cyhoeddus, y ffordd orau o chwalu'r amheuon hynny yw cyhoeddi, a'r ffordd sicraf o gynnal yr amheuon yw gwrthod. Nawr, mae'r Llywodraeth wedi cynnig y ddadl y bydd yna bob amser gategori o wybodaeth na ellir ei ryddhau oherwydd ei natur, ac yn gyffredinol, mae hynny'n wir wrth gwrs, ond mae'n wir hefyd, ar faterion mawr sydd wedi dod yn destun dadl genedlaethol, y dylai buddiannau sylfaenol tryloywder ac atebolrwydd ennill bob amser yn y pen draw dros awydd y weithrediaeth am gyfrinachedd. Ac yn achlysurol, mae'n rhaid i Seneddau atgoffa Llywodraethau, fel y dadleuodd Ralph Nader yn gyntaf, mai:
Gwybodaeth sy'n gyrru democratiaeth. Rhaid i unrhyw gamau i'w gwrthod godi amheuon.
Nawr, mae'r hawl i alw am bobl a phapurau wedi'i hymgorffori yn y traddodiad seneddol. Yn ein hachos ni, mae wedi'i ysgrifennu mewn statud yn hytrach nag Erskine May, ond yr un egwyddor ydyw ag a ysgogwyd gan yr wrthblaid swyddogol yn San Steffan wrth wneud cynnig fis Tachwedd diwethaf a orfododd Lywodraeth y DU i gyhoeddi ei hastudiaethau o effaith Brexit, a chydsyniodd y Llywodraeth â hynny pan dderbyniwyd y cynnig. Ni ellid dychmygu swyddogion y gyfraith yn gorymdeithio i swyddfa'r Llywydd yn San Steffan, fel y gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol i'n Llywydd ni, i gyhoeddi bygythiad o achos cyfreithiol. Am y rheswm hwnnw'n unig, buaswn yn dadlau bod yn rhaid inni dderbyn y cynnig hwn fel symbol ein bod yn gwrthod cael ein bwlio i gyfaddawdu gan Weithrediaeth drahaus.
Nawr, y rheswm olaf pam y mae'n rhaid derbyn y cynnig hwn yw er mwyn gwella'r clwyfau dwfn presennol yng nghorff gwleidyddiaeth Cymru. Mae'r rhain yn amseroedd tywyll. Mae Hamilton yn cyfeirio at yr awyrgylch gwenwynig yn Llywodraeth Cymru. Beth bynnag yw eich barn am y cyhuddiad penodol hwnnw, rydym yn sicr mewn lle tywyll, mewn cyfnod tywyll. Mae coctel gwenwynig yn erydu ymddiriedaeth oddi mewn a chan y cyhoedd yn sefydliadau ein democratiaeth, pa un a yw'n onestrwydd neu uniondeb Llywodraeth, natur ddiduedd y gwasanaeth sifil, neu allu'r Senedd hon i ddwyn y Weithrediaeth i gyfrif—mae'r cwestiynau hyn yn chwyrlïo drwy feddyliau pobl.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod, ac mae'n bwysig inni fod yn deg ynglŷn â hyn, fod ymchwiliad Hamilton yn rhyddhau'r Prif Weinidog o fai ar y cwestiynau a roddodd i Mr Hamilton. Fodd bynnag, credaf ei bod hi'n deg dweud hefyd nad yw'r adroddiad yn peintio darlun hapus iawn o ddiwylliant Llywodraeth, a buaswn yn dweud mai'r cam cyntaf wrth symud ymlaen yw diwylliant newydd o onestrwydd, waeth pa mor boenus, ac anghyfleus weithiau, y gallai'r gonestrwydd hwnnw fod.