Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 18 Ebrill 2018.
Roeddwn yn meddwl bod arweinydd yr wrthblaid, gyda sgiliau fforensig, wedi chwalu dadleuon tila'r Llywodraeth yn erbyn cyhoeddi'r adroddiadau hyn. Yn sicr roedd yn syfrdanol darllen y llythyr a ddatgelwyd heb ganiatâd a gefais ychydig funudau cyn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, yn bygwth camau cyfreithiol yn erbyn y Llywydd. Eto, clywais wedyn, ychydig funudau ar ôl imi ddarllen y dudalen honno, y Prif Weinidog yn dweud ei fod yn derbyn nad oes unrhyw bŵer i atal y lle hwn rhag cael y ddadl yr oedd yn ceisio'i hatal drwy gyfrwng camau cyfreithiol.
Nid wyf yn gwybod sut y byddai camau cyfreithiol wedi cael eu rhoi ar waith pe bai wedi llwyddo i berswadio barnwr o gywirdeb ei achos, barnwr a fyddai wedi ymddangos yma, fel tipstaff uchel lys, i arestio'r Llywydd neu unrhyw rai eraill a geisiai arfer ein hawliau democrataidd i roi ein barn ar sut yr oedd y Llywodraeth yn ymddwyn ar unrhyw fater o gwbl. Roeddwn yn meddwl ei fod yn atgynhyrchiad eithriadol o'r math o agwedd a welsom ddiwethaf yn Nhŷ'r Cyffredin yn y 1640au, pan gollodd brenin trahaus ei ben yn y pen draw oherwydd ei fod yn amharod i dderbyn hawl y bobl i drafod drostynt eu hunain yr hawliau yr oeddent wedi'u hetifeddu gan y cenedlaethau blaenorol.
Rwy'n credu ei bod yn berffaith amlwg o adroddiad James Hamilton y gellir golygu'r materion hyn mewn ffordd sy'n diogelu cyfrinachedd unigolion, er nad yw eu henwau'n gyfrinachol mewn gwirionedd beth bynnag, gan ein bod i gyd yn gwybod am bwy rydym yn sôn yn yr achos hwn a phwy yw'r bobl a ddrwgdybir fwyaf. Ond yr anhawster yn aml yw profi hyn o ganlyniad i ddiffyg tystiolaeth, oherwydd, mewn diwylliant omertà, nid oes neb yn barod i siarad a dweud y gwir.
Nid wyf yn gweld pam na allwn gael rhywbeth yn debyg i'r system o ddarllen dogfennau a chael trafodaethau ar delerau'r Cyfrin Gyngor yn y Cynulliad hwn, lle'r ydym yn ymddiried yn ein gilydd i wneud y peth iawn, ac mewn ymateb i ymyriad Lee Waters yn gynharach i ddweud bod Llywodraethau San Steffan yn cadw'r pethau hyn yn gyfrinach fel mater o drefn, oni ddylem anelu, mewn gwirionedd, i fod yn well na'r rhai yn San Steffan? Oni ddylai Cymru geisio arwain yn hytrach na dilyn yn yr amgylchiadau hyn? Nid fy mod yn disgwyl y bydd unrhyw ymchwiliad i ddatgelu heb ganiatâd byth yn cyrraedd y gwir; byddai'n annhebygol iawn—er fy mod yn Nhŷ'r Cyffredin pan gynhaliwyd yr ymchwiliad i ddatgeliad Westland a'r gyfres hynod ddramatig o ddigwyddiadau a ddatblygodd wedyn—ond yr hyn y gallwch ei wneud gyda chyhoeddi dogfennau o'r fath, wrth gwrs, yw gwerthuso pa mor drwyadl y mae'r ymchwiliadau wedi bod, a gellid rhoi pob math o ddarnau o wybodaeth y gellid eu cael at ei gilydd yn jig-so, yn enwedig pan allai fod cyfres o ymchwiliadau fel y ceir yn yr achos arbennig hwn, ac ar y sail honno gallwn ddod i gasgliadau mwy gwybodus ar ddiwedd y prosesau hyn.
Mae'r pwynt olaf yr oeddwn am ei wneud yn ymwneud â sylwedd y llythyr hwn gan y Llywodraeth at y Llywydd, sy'n ceisio rhoi'r Prif Weinidog mewn sefyllfa hynod freintiedig. Y ddadl gyfreithiol, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ar adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yw bod unrhyw benderfyniadau neu gamau gweithredu a wneir gan y Llywodraeth yn gyfunol, ac y gallai unrhyw Weinidog eu gwneud o dan y pwerau a ddatganolir yn y Ddeddf hon, ar gael i'r Cynulliad hwn i gael eu gwneud yn destun ymchwiliad, ond nad oes gennym unrhyw bŵer i ymchwilio i weithredoedd y Prif Weinidog lle mae ganddo ef yn unig bŵer i wneud penderfyniadau o'r fath neu i gymryd camau o'r fath. Ymddengys bod hyn yn dyrchafu'r Prif Weinidog yn rhyfeddol yn rhyw fath o frenin absoliwt, ac yn sicr ni fyddem byth wedi rhagweld hyn pan oedd y Bil hwn yn cael ei ddatblygu yn 2005, 2006, ac mae'n gamddehongliad llwyr o'r adran berthnasol i roi'r Prif Weinidog yn y sefyllfa freintiedig honno. Credaf mai'r hyn a wna yn syml yw gwahaniaethu rhwng pwerau Gweinidogion. Nid yw'r is-Weinidogion, gan gynnwys Gweinidogion y Cabinet, o reidrwydd yn gyfrifol ar y cyd am ei benderfyniadau yn yr ystyr gyfreithiol, ond mae ef yn gyfrifol, oherwydd ei fod yn gyfrifol am y Llywodraeth gyfan, am yr holl benderfyniadau y gallai unrhyw Weinidog eu gwneud. Fel arall, byddai wedi ei eithrio mewn modd unigryw o waith craffu'r Cynulliad, a chredaf ei bod hi'n hanfodol bwysig felly fod y Cynulliad yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn y prynhawn yma i ddangos ein gwrthwynebiad i'r Llywodraeth ac i ddangos ein bod yn gwrthod yr egwyddor wenwynig honno.