Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 18 Ebrill 2018.
Rhoddais y cynnig i ddefnyddio adran 37 i gael yr adroddiad wedi'i gyhoeddi gan fod anwybyddu'r Cynulliad hwn yn sarhad ar ddemocratiaeth. Mae'n ymddangos bod y Ceidwadwyr yn hoffi fy nghynnig cymaint fel eu bod wedi ei gynnwys eu hunain, ac rwy'n falch eu bod wedi gwneud hynny oherwydd rydym yn trafod hyn yn gynt nag y byddem wedi ei wneud fel arall.
Dro'n ôl, gofynnais i'r Prif Weinidog gyflwyno deddfwriaeth i reoleiddio lobïwyr. Sylwaf heddiw ei fod yn absennol o'r ddadl hon. Mae'n rhywbeth y gelwais amdano ers cael fy ethol i'r Cynulliad hwn, ac mae'n rhywbeth sy'n digwydd ym mhob un o'r gwledydd democrataidd mawr o amgylch Cymru. Roedd ei ateb yn y ddadl honno'n ddiddorol iawn. Dywedodd ei bod yn iawn i'r Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth fel hon; mater i'r Cynulliad yn gorfforaethol ydyw. Felly, yma rydym yn penderfynu'n gorfforaethol, fel Cynulliad, ar y mater hwn ynglŷn ag a ddylid cyhoeddi ymchwiliad i ddatgelu heb ganiatâd o'r Llywodraeth, ond yn hytrach na gadael inni benderfynu ar y mater hwn mae'r Prif Weinidog wedi ymateb gyda bygythiadau a heriau cyfreithiol. Rwy'n credu bod hynny'n dangos blaenoriaethau Llywodraeth: gwneud dim ynghylch lobïwyr ond ceisio ymyrryd i atal Llywodraeth agored rhag digwydd.
Mae'r Prif Weinidog yn honni y byddai rhyddhau'r ddogfen hon yn atal llywodraethu rhag gallu digwydd, ac ymddengys ei fod yn credu na all lywodraethu oni bai ei fod yn gallu gweithredu yn y cysgodion a chadw pethau wedi eu cuddio rhag y cyhoedd. Efallai fod hynny'n wir i'r Llywodraeth Lafur hon, oherwydd pe bai pobl Cymru'n cael cyfle byth i weld beth sy'n digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig, nid wyf yn meddwl y byddai yn ei swydd yn llawer hirach. Hefyd nid yw fel pe bai'n rhoi llawer o ffydd yng nghynrychiolwyr Cymru a etholwyd yn ddemocrataidd i ddefnyddio adran 37 yn ddoeth. Mae wedi bod ar gael ers blynyddoedd—blynyddoedd—a nawr yn unig y caiff ei ddefnyddio am y tro cyntaf, a hynny ar fater o ddiddordeb i'r cyhoedd sy'n hynod o bwysig.
Pe bai'r Prif Weinidog yn gweithredu ei Lywodraeth mewn ffordd fwy tryloyw, ni fyddai angen inni ei ddefnyddio o gwbl. Ar y mater hwn, gobeithio y gallwn, fel Cynulliad, bleidleisio er mwyn i'r cyhoedd weld canlyniad yr ymchwiliad. Mae'n rhaid inni amddiffyn pobl Cymru ac uniondeb y sefydliad hwn. Byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn, oherwydd mae'n ymwneud ag atebolrwydd democrataidd a chywirdeb democratiaeth Cymru. Diolch yn fawr.