Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rydym ni yng ngrŵp UKIP yn cytuno bod yna broblem gyda recriwtio a chadw athrawon. I ryw raddau, mae'r materion sy'n ymwneud â'r broblem hon yn gyffredin i Gymru a Lloegr, ond ceir rhai materion penodol yng Nghymru hefyd.
Mewn rhai ffyrdd, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud bywyd yn anos iddi ei hun o ran recriwtio athrawon oherwydd gorddibyniaeth ar gymwysterau penodol. Oes, mae angen inni sicrhau bod gennym y bobl iawn yn mynd i'r proffesiwn addysgu, ond rydym hefyd yn gwybod na allwch fesur pethau, ac yn sicr ni allwch fesur pobl, drwy gymwysterau yn unig. Nawr mae gennym Weinidog addysg sy'n aml wedi gwneud y pwynt synhwyrol na allwn edrych ar ystadegau drwy'r amser; rhaid inni edrych ar bopeth yn ei gyd-destun. Rhaid inni weld y darlun ehangach. A chredaf y gallwn gymhwyso peth o'r meddylfryd hwnnw i recriwtio athrawon mewn gwirionedd. Felly, bydd y Gweinidog yn dilyn ei gwireb ei hun yn y mater hwn, gobeithio.
Yn ein barn ni, mae gorddibyniaeth ar gymwysterau'n golygu na all llawer o bobl brofiadol mewn bywyd, y byddai rhai ohonynt o leiaf yn addas ar gyfer yr ystafell ddosbarth, fynd yn rhan o'r proffesiwn addysgu oherwydd nad oes ganddynt y cymwysterau perthnasol, a byddai'n costio gormod mewn arian ac amser iddynt ailhyfforddi. Gallem lacio'r rheolau ychydig mewn gwirionedd i'w gwneud yn haws i bobl ailhyfforddi.
Wrth edrych ychydig yn fwy manwl ar y cynnig heddiw, rydym yn cefnogi'r syniad o Lywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu cynllun gweithlu ysgolion ar gyfer Cymru. Byddem yn ychwanegu'r cafeat fod angen mewnbwn gan bobl sydd wedi cael trafferth mynd yn rhan o'r byd addysg, neu sydd wedi cychwyn yn y proffesiwn ac wedi ei adael wedyn yn gynnar, fel bod unrhyw gynllun o'r fath wedi'i deilwra i anghenion darpar athrawon addas sydd wedi methu mynd yn athrawon neu aros yn y byd addysg. Rydym am ei gwneud yn haws i ysgolion recriwtio athrawon, ac rydym yn credu bod llawer o alluoedd cyffredin amlwg yn mynd i fod gan diwtoriaid coleg ac athrawon mewn ysgolion annibynnol. Felly, dylid ei gwneud yn haws i'r grŵp hwn o bobl gael yr achrediad sy'n ofynnol fel y gallant ddod â'u set sgiliau i mewn i'r ystafelloedd dosbarth.
Mae'r Ceidwadwyr yn sôn hefyd am lwybr i addysgu ar gyfer cynorthwywyr addysgu. Rydym wedi crybwyll mater cynorthwywyr addysgu mewn cwestiynau blaenorol i'r Gweinidog addysg. Credaf fod problem weithiau gyda chynorthwywyr addysgu yn yr ystyr eu bod yn canfod, ar ôl bod ar y cyrsiau perthnasol a chael eu cymwysterau, eu bod yn ddamcaniaethol yn cael eu symud i lefel uwch ond nid ydynt yn cael eu huwchraddio'n awtomatig i'r statws hwnnw o ran eu cyflogau, ac felly mae gennym gynorthwywyr addysgu ar lefel benodol nad ydynt yn gallu cael swyddi ar y lefel honno, ac mae hynny'n arwain at wneud rhai ohonynt yn sinigaidd ac i feddwl tybed ai'r unig reswm y cawsant eu hanfon ar y cyrsiau hyn yw er mwyn i'r cwmnïau neu'r cyrff sy'n cynnal y cyrsiau gael rhywbeth ohonynt yn hytrach na'r bobl sy'n cael eu hyfforddi. Gall cynorthwywyr addysgu fod yn ased gwerthfawr i ysgol. Weithiau, gallant fod mor effeithiol â rhai o'r athrawon sydd eisoes yn gymwysedig, ond nid oes ganddynt y peth sylfaenol hwnnw: y darn o bapur sy'n dweud bod ganddynt gymhwyster penodol. Felly, credaf y byddai llwybr gyrfa ar gyfer cynorthwywyr addysgu sy'n caniatáu iddynt fynd yn rhan o'r proffesiwn addysgu yn fwy hwylus yn syniad da iawn.
Felly, rydym yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw. Rydym hefyd yn cytuno â gwelliant Plaid Cymru, oherwydd fel y mae Plaid Cymru yn ei ddatgan yn eu gwelliant, rhaid inni edrych hefyd ar y gyfradd drosiant yn y proffesiwn addysgu, ac rwy'n siŵr eu bod yn gywir i gysylltu problemau cadw staff â phwysau gwaith. Yn ein barn ni, gallai nifer o ffactorau achosi'r pwysau hwn, ond ceir rhai sy'n eithaf cyffredin, gan gynnwys maint dosbarthiadau, ac rydym yn cytuno gyda'r hyn a ddywedodd y Gweinidog addysg yn y gorffennol—mae angen i ni gael dosbarthiadau llai o faint. Hefyd, mae angen inni symud oddi wrth y ffocws gormodol ar dargedau ac asesiadau. Yn y pen draw, pan fydd gennych ormod o'r rhain, byddant yn dod yn nod ynddynt eu hunain. Mewn geiriau eraill, yr hyn a fydd gennym fydd athrawon yn hyfforddi disgyblion i basio profion ac arholiadau yn hytrach na dysgu rhywbeth defnyddiol iddynt. Felly, un pwynt terfynol yw y byddai'n helpu pethau'n fawr pe bai addysgwyr bellach yn treulio amser yn meddwl am ysgrifennu cwricwla sydd, yn hytrach na chanolbwyntio'n llwyr ar gael disgyblion i basio arholiadau, yn ceisio dysgu rhywbeth defnyddiol i'r bobl hynny mewn gwirionedd. Diolch yn fawr iawn.