Part of the debate – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn groesawu'r cyfle i drafod y mater pwysig hwn heddiw. Mae penderfyniadau a wnaed yn San Steffan gan Lywodraeth allan o gysylltiad ac angharedig wedi effeithio'n ofnadwy ar filiynau o fenywod Prydain, gan gynnwys oddeutu 200,000 o fenywod yma yng Nghymru. Mae menywod WASPI, sydd wedi cyfrannu ar hyd eu hoes i fywyd ein gwlad, wedi cael eu hamddifadu i bob pwrpas. I lawer ohonom, y menywod hynny yw ein ffrindiau, ein cydnabod, teulu agos a'r menywod a welwn o'n hamgylch yn ein cymunedau bob dydd.
Gyda'r newyddion diweddar am genhedlaeth Windrush, mae'n ymddangos mai torri'r ymrwymiad cymdeithasol sydd wedi cadw ein gwlad at ei gilydd ers degawdau yw unig uchelgais y Torïaid yn San Steffan. Fodd bynnag, oherwydd mai Gweinidogion y DU sydd wedi achosi'r broblem hon, ac yn wir, mewn ysbryd o gyfiawnder a thegwch, dyna pam y mae angen inni roi camau unioni ar waith ar frys. Dyna pam rwy'n cefnogi gwelliannau'r Llywodraeth heddiw. Y canlyniad gorau o'r ddadl heddiw i fenywod WASPI fydd ein bod yn anfon neges glir a diamheuol i San Steffan fod yr hyn a wnaeth Gweinidogion y DU yn anghywir.
Dylai pawb ohonom fod yn gyfarwydd â'r hyn sydd wedi digwydd yn yr achos hwn. Roedd deddfwriaeth yn 1995 yn nodi bwriad i oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod godi i 65 erbyn 2020. Cafodd y newidiadau hyn eu gorfodi drwy'r Senedd gan Iain Duncan-Smith, sy'n brolio ei fod yn gallu byw ar £53 yr wythnos ond a hawliodd bron i £100 mewn treuliau am staplwr newydd. Cyflymodd ei Ddeddf Pensiynau 2011 yr amserlen, gan symud y newid i fis Tachwedd eleni a chodi'r oed eto i 66 oed erbyn 2020. Ni chadwyd ei addewidion ar gyfer trefniadau pontio. Ac ar gyfer pwy y sicrhawyd y trefniadau pontio hyn? Byddent wedi helpu'r miliynau o fenywod a aned yn y 1950au sydd bellach yn wynebu codi'r oedran pan oeddent yn disgwyl gallu hawlio pensiwn y wladwriaeth—pensiynau y maent wedi'u talu, wedi gweithio'n galed amdanynt, ac wedi cyfrannu tuag atynt ar hyd eu hoes.
Yr hyn sy'n waeth yw bod y newidiadau hyn wedi'u gwneud heb fawr o rybudd os o gwbl, a'u gorfodi drwodd heb amser i wneud cynlluniau amgen. Felly, erbyn hyn, rhaid i fenywod WASPI weithio am gyfnod hirach, neu ddod o hyd i waith newydd yn wir. Dangosodd tystiolaeth gan Age UK yr heriau i rai mewn swyddi corfforol sy'n gorfod gweithio am gyfnod hirach, y pwysau ychwanegol, y straen a'r salwch. Er nad yw newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth yn cynnig unrhyw her bersonol i'r Prif Weinidog, Theresa May, nid yw hynny'n wir i'r rhan fwyaf o fenywod eraill, yn enwedig rhai sy'n gweithio mewn rolau corfforol, er enghraifft, gofalwyr, glanhawyr neu swyddi manwerthu. Ar ben hynny, ceir heriau mewn perthynas â sgiliau yn y gweithle. Clywais am y rhwystrau sy'n wynebu un fenyw WASPI yn fy ardal leol. Ar ôl ymddeol ar sail gwybodaeth gamarweinol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae angen iddi ddychwelyd i'r gweithle yn awr, ond nid yw'n cael unrhyw lwyddiant. Fel y dywed, 'Ni allaf ddefnyddio cyfrifiadur a phwy sydd eisiau cyflogi rhywun 62 oed heb sgiliau sydd wedi blino'n lân?'
Ffactor arall sy'n cymhlethu pethau ymhellach yw bod llawer o'r menywod hyn hefyd wedi eu caethiwo gan faich dwbl. Mae cyfrifoldebau gofalu di-dâl am wyrion, eu priod neu efallai eu rhieni oedrannus eu hunain hyd yn oed yn mynd â gormod o amser ac egni. Yn fyr, cafodd cynlluniau ymddeol eu chwalu gyda chanlyniadau trychinebus.
Daw'r geiriau hyn o ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality.
Yr unig beth cadarnhaol a ddeilliodd o hyn yw'r ffordd y mae menywod y 1950au wedi brwydro'n ôl mor drawiadol, gan drefnu ac ymgyrchu i dynnu sylw at yr anghyfiawnder a wnaed iddynt. Bydd llawer o Aelodau'r Cynulliad wedi cyfarfod ag ymgyrchwyr a byddant wedi creu argraff arnynt drwy eu penderfyniad a'u dewrder, yn enwedig pan fo hon yn rôl nad oedd llawer ohonynt yn disgwyl y byddai'n rhaid iddynt ei chwarae.
Siaradais yn ddiweddar mewn digwyddiad i nodi 100 mlynedd ers Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 yn Amgueddfa Cwm Cynon. Gyda mi ar y panel roedd cydgysylltydd y grŵp WASPI lleol. Dywedodd wrthyf am yr ystod o weithgareddau codi proffil y maent yn eu cynnal, ond hefyd am y gwaith ymarferol caib a rhaw a wnânt yn cefnogi cyfoedion drwy eu helpu i gwblhau ffurflenni technegol a gwaith papur diddiwedd, a chynnig cyfeillgarwch a chefnogaeth. Wrth i ni ddathlu canmlwyddiant menywod yn ennill y bleidlais, mae'n dda gweld ysbryd y swffragetiaid yn dal yn fyw.
Yn 1918, rhoddodd Llywodraeth y DU y bleidlais i gydnabod gwaith ymgyrchu a gwaith ymarferol menywod yn ystod y rhyfel. Dyletswydd Llywodraeth y DU yn awr yw gwneud newidiadau, gweithredu'r trefniadau pontio y gweithiodd y genhedlaeth hon o fenywod ar hyd eu hoes amdanynt, er mwyn iddynt gael yr hyn sy'n ddyledus iddynt, eu gobaith a'u dyfodol.