Part of the debate – Senedd Cymru am 6:50 pm ar 18 Ebrill 2018.
Credaf fod llawer o'r Aelodau wedi nodi hefyd nad y newid i gydraddoldeb o ran oedran pensiwn y wladwriaeth sydd dan sylw yma ond y modd y cafodd y newidiadau eu cyfathrebu, cyflymder eu gwneud, a chael gwared ar y trefniadau pontio yn 2011 sy'n peri problem ddifrifol i ni. Mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb tuag at y menywod y maent wedi'u rhoi yn y sefyllfa hon, i unioni cam a sicrhau na chaiff cydraddoldeb rhwng y rhywiau ei beryglu. Mae oddeutu 195,000 o fenywod yng Nghymru yn fenywod WASPI yr effeithiwyd arnynt gan y newidiadau yn y Ddeddf hon. A chredaf fod llawer o'r Aelodau wedi nodi hyn hefyd, ond mae rhai pethau calonogol iawn yma hefyd, oherwydd, fel y mae Jane Hutt a Siân Gwenllian a llawer o rai eraill wedi nodi, mae'n anhygoel meddwl cymaint y mae'r grŵp hwn o fenywod yn gweithredu gyda'i gilydd wedi'i gyflawni eisoes, o gael y neges wedi'i chynnwys yn y cyfryngau prif ffrwd, yr ymgyrch ariannu torfol a gododd dros £100,000 mewn tair wythnos, ffurfio grwpiau ledled y wlad, a bod yn allweddol yn y broses o ffurfio'r grŵp hollbleidiol seneddol ar anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth i fenywod.
O ganlyniad i'w hymgyrch, mae menywod ledled y wlad wedi cyflwyno cwynion camweinyddu yn erbyn yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch yr hyn a welant fel cyfathrebu annigonol ynglŷn â newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth. Araf iawn fu'r cynnydd ar y cwynion a gyflwynwyd i'r Archwilydd Achosion Annibynnol ond fis Tachwedd diwethaf, cafodd y cwmni cyfreithiol a logir gan WASPI lwyddiant, a chamodd yr Ombwdsmon Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd i mewn a chytuno gyda'r Archwilydd Achosion Annibynnol y bydd yn symleiddio'r broses yn uniongyrchol yn y dyfodol, a soniaf am hynny yn y Siambr er mwyn dangos cryfder yr ymgyrch a'r ymgyrchu.
Soniodd Julie Morgan, wrth ymyrryd ar Jane Hutt, am y ciw o fenywod y tu allan i'r cyfarfod a drefnwyd gan Anna McMorrin, ac rydym wedi cael profiadau tebyg yn ogystal. Mae hyn wedi ennyn teimladau cryf iawn, yn gwbl briodol felly, oherwydd mae'n anghyfiawnder ofnadwy. Bu nifer o ddadleuon yn y Tŷ Cyffredin, er nad ydynt yn rhwymol ar y Llywodraeth, a chyflwynodd Carolyn Harris Fil Aelod preifat ym mis Medi ar ran y grŵp seneddol hollbleidiol, sy'n galw am adolygu'r sefyllfa, ac yn benodol am wneud gwaith costio ar gyfer y cynllun iawndal. Mae ei Ail Ddarlleniad wedi'i ohirio yn anffodus, ond mae ganddynt ymgynghoriad ar-lein sy'n gwahodd grwpiau sy'n ymgyrchu ar y mater hwn i ymateb, felly os oes unrhyw un yn gwybod am grŵp sydd heb ymateb, os gwelwch yn dda anogwch hwy i wneud hynny. Gwn eu bod wedi cael dros 100 o ymatebion hyd yn hyn. Maent yn mynd i gyflwyno canlyniadau'r arolwg hwnnw ar 25 Ebrill, a'i ddiben yw ceisio nodi ateb y gall nifer fawr o'r Aelodau ei gefnogi, a gall hynny lywio'r Bil Aelod preifat, a bydd y Llywodraeth hon hefyd yn ceisio cefnogi mewn unrhyw ffordd a allwn.
Oherwydd bod Michelle Brown wedi dweud nad oedd yn credu ein bod yn gwneud unrhyw beth, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddweud bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan wasanaethau cynghori lles cymdeithasol yn helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus ac arfer eu hawliau i gyfiawnder sifil o ran y mathau hyn o broblemau. Rydym yn parhau'n ymrwymedig i gynorthwyo darparwyr cyngor di-elw sydd wedi bod yn allweddol iawn yn rhoi cyngor i fenywod ynghylch sut i gyflwyno cwyn, oherwydd teimlwn yn hyderus y dylai rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas gael mynediad at gyngor annibynnol am ddim ar ddyled, rheoli arian a materion pensiwn, ac y dylent gael eu cefnogi yn y modd hwn. Felly, yn ystod y flwyddyn ariannol hon, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £5.97 miliwn mewn arian grant i wasanaethau cynghori di-elw sy'n helpu pobl ledled Cymru i ddod o hyd i gyngor annibynnol am ddim ar broblemau'n ymwneud â chael budd-daliadau lles, cyngor ar ddyledion, tai ac ati.
Y rheswm pam rwy'n nodi hynny yw oherwydd bod nifer o'r Aelodau wedi cysylltu'r anghyfiawnder i fenywod WASPI yn gwbl briodol â mater tlodi a menywod sy'n byw mewn tlodi. Dengys ffigurau fod nifer y menywod dros 60 oed sy'n hawlio lwfans cyflogaeth a chymorth ym Mhrydain wedi cynyddu 410 y cant rhwng mis Awst 2013 a mis Awst 2017. Nid yw'n anodd deall pam. Roedd y cynnydd ymhlith menywod dros 60 oed sy'n hawlio credyd cynhwysol a lwfans ceisio gwaith yn 110 y cant. Canfu data a gasglwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn ei adroddiad ar gyfer 2017, 'Can't wait to get my pension: the effect of raising the female state pension age on income, poverty and deprivation', fod incwm aelwydydd menywod rhwng 60 a 62 oed wedi gostwng oddeutu £32 yr wythnos ar gyfartaledd. Mae'r gostyngiad yn debyg yn nhermau arian parod ar gyfer aelwydydd cyfoethocach a thlotach, sy'n golygu, er bod y gostyngiad cyfartalog mewn termau cyfrannol yn 12 y cant, mae'r gostyngiad yn sylweddol fwy, ar gyfartaledd, ar gyfer cartrefi incwm isel: gostyngiad o 21 y cant, o'i gymharu ag aelwydydd incwm uwch, lle mae oddeutu 4 y cant. Felly, mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu mai'r rhai sydd eisoes o gwmpas y ffin tlodi sydd eisoes wedi gweld y colledion mwyaf yn eu hincwm o ganlyniad i effeithiau diwygio lles, o gymharu â grwpiau incwm eraill.
Siaradais yn gynharach yn y Siambr, Ddirprwy Lywydd, wrth ateb cwestiynau, am ganlyniadau anfwriadol nifer o bolisïau'n dod at ei gilydd ac yn cael effaith lawer mwy nag a fwriadwyd, a byddwn yn gwneud y pwynt hwnnw unwaith eto wrth Lywodraeth y DU, gan fod y modd y cyflwynodd y credyd cynhwysol, y ffordd y mae'n ymateb i geiswyr gwaith a'r ffordd y mae'n ymateb i'r newid i daliadau personol annibynnol, ynghyd â chodi oedran pensiwn y wladwriaeth, yn cael yr effaith gronnol fwyaf anffodus ar nifer fawr o fenywod yng Nghymru, ac mae'n iawn ein bod yn tynnu sylw at hynny.
Mae credyd cynhwysol bellach wedi'i gyflwyno mewn wyth awdurdod lleol yng Nghymru, gyda Sir Ddinbych yn mynd yn fyw ym mis Ebrill. Rwy'n falch o ddweud bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi diwygio'u hamserlen gyflwyno i gynnwys mwy o amser i'r system ar-lein Gymraeg lawn fod ar gael, ond mae'n golygu bod y menywod sy'n cael eu dal yn y sefyllfa hon hefyd yn cael eu dal yn y trefniadau pontio, sy'n anffodus iawn. Rydym yn dal i fod yn bryderus iawn ynglŷn â diffygion sylfaenol y system, ac rydym yn siomedig iawn fod Llywodraeth y DU yn parhau â'r cyflwyno, er gwaethaf ein galwadau ni ac eraill arnynt i atal y cyflwyno a mynd i'r afael â'r nifer o broblemau, yn cynnwys y broblem hon, y dylid ymdrin â hwy yn rhan o'r broses gyflwyno.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rydym yn cefnogi'r menywod WASPI yn llwyr yn eu hymgyrch. Byddaf yn parhau i annog Llywodraeth y DU i newid ei meddwl a pheidio â gwrthwynebu trefniadau pontio a threfniadau eraill, a byddwn yn parhau i wneud popeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi ymgyrchoedd dewr ac effeithiol iawn menywod WASPI ledled y wlad. Diolch.