Part of the debate – Senedd Cymru am 7:48 pm ar 18 Ebrill 2018.
Ac felly dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio, a'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adroddiad ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Felly, pleidlais ar y cynnig yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 26, un yn ymatal, 29 yn erbyn. Ac felly gwrthodwyd y cynnig.