– Senedd Cymru am 7:48 pm ar 18 Ebrill 2018.
Ac felly dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio, a'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adroddiad ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Felly, pleidlais ar y cynnig yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 26, un yn ymatal, 29 yn erbyn. Ac felly gwrthodwyd y cynnig.
Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 29, un yn ymatal, 26 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 1.
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 29, un yn ymatal, 26 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn.
Y bleidlais nesaf ar ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol. Rydw i'n gallu felly am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Rydw i'n galw, felly, am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 1.
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM6703 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi gwaith parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel a denu’r goreuon i addysgu yng Nghymru, gan gynnwys:
a) diwygio a chryfhau Addysg Gychwynnol i Athrawon;
b) cymhelliannau wedi’u targedu ar gyfer graddedigion o ansawdd uchel mewn pynciau â blaenoriaeth ac addysg cyfrwng Cymraeg;
c) ymgyrch recriwtio ddigidol barhaus wedi’i thargedu’n fanwl;
d) sefydlu’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol; a
e) sefydlu Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.
Y bleidlais nesaf ar ddadl UKIP ar ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality, ac rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, 12 yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 17 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 1.
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.
Pleidlais nawr, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM6697 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU i roi terfyn ar yr anghyfiawnder a ddioddefir gan fenywod y mae’r newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.
2. Yn nodi ac yn croesawu ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality (WASPI) i gael trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg ar gyfer yr holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i ddarparu'r hyn a ganlyn i'r holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt:
a) pensiwn pontio sy'n cyflenwi incwm hyd at oedran pensiwn y wladwriaeth, nad yw'n ddarostyngedig i brawf modd;
b) iawndal am absenoldeb pensiwn pontio i'r rhai sydd eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth;
c) iawndal i bawb sydd heb ddechrau cael pensiwn pontio erbyn dyddiad priodol, a fyddai'n ddigon i adennill llog ariannol a gollwyd; a
d) iawndal i fuddiolwyr ystadau'r rhai sydd wedi marw a heb gael pensiwn pontio.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.
Os gwnaiff Aelodau adael y Siambr os ydyn nhw'n dymuno gwneud, ond gwneud hynny yn dawel.