Derbyniad Ffôn Symudol

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:26, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet—nid wyf yn siŵr beth yw hi pan fydd hi'n gwneud hyn, arweinydd y tŷ neu Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n Aelod o'r Cabinet, beth bynnag. Diolch am eich ateb. Rwy'n cael cryn drafferth deall sut y gallwn symud ymlaen mewn sawl rhan o'r Gymru wledig i'r dyfodol awtomataidd, y dyfodol roboteg rydym wedi bod yn sôn amdano ym mywyd cyhoeddus Cymru heddiw os nad oes gennym signal ffôn symudol hyfyw a dibynadwy. Ni allwch gael fferm awtomataidd, er enghraifft, os nad oes gennych hynny. Ni allwch gael ceir awtomataidd os nad oes gennych hynny. Ni allwn gael datblygiadau, hyd yn oed os cawn reilffordd newydd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, heb signal ffôn symudol dibynadwy ar gyfer peirianneg y trac a phopeth arall.

Rydych yn dweud na wyddoch beth yw ei argaeledd, ac rwy'n deall nad yw wedi'i ddatganoli, ond mae ffyrdd o lenwi'r bwlch. Mae gan Lywodraeth yr Alban raglen fewnlenwi 4G. Maent wedi ystyried newid rheoliadau cynllunio, a gwneud eu gorau glas gyda rhannu mastiau, gorfodi cwmnïau i weithio gyda'i gilydd, ac yn wir, peth buddsoddiad cyhoeddus gan y Llywodraeth er mwyn llenwi'r mannau gwan. A yw hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried, ac a allem weld rhaglen 4G/5G genedlaethol, yn debyg i'r rhaglen band eang rydych wedi'i rhoi ar waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf? Rwy'n siŵr fod eich bag post yn haeddu ychydig mwy o lythyrau ar y materion hyn hefyd.