Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 18 Ebrill 2018.
Mae'r setliad datganoli yn gymhleth iawn yma ac mae'r ymylon yn anodd, ac felly mae beth yn union sydd wedi'i ddatganoli a beth sydd heb ei ddatganoli yn destun sgwrs gyson rhyngom ni, Llywodraeth y DU, Ofcom a'r diwydiant o ran pwy sy'n gallu gwneud beth. Felly nid yw lawn mor syml â'r sefyllfa yn yr Alban, yn anffodus, a gresyn na fyddai mor syml â hynny. Mae rhai gwelliannau wedi bod. Nid wyf yn honni o gwbl fod pethau'n wych, ond cafwyd rhai gwelliannau o ganlyniad i'n sgyrsiau gydag Ofcom a'u pwysau ar y diwydiant. Ar hyn o bryd, mae gan oddeutu 90 y cant o safleoedd ledled Cymru signal ffonau symudol y tu allan. Rydym wedi gweld cynnydd o 33 pwynt canran mewn argaeledd 4G y tu allan rhwng 2015 a 2016, gan gyrraedd 53 y cant.
Dyfarnwyd trwydded arwerthiant diwethaf y sbectrwm 4G, y soniais amdani, i Telefónica O2, ac roedd yn cynnwys rhwymedigaeth i ddarparu cysylltedd i 95 y cant o boblogaeth Cymru fan lleiaf erbyn diwedd 2017, a bu'n rhaid inni ymladd yn gryf i sicrhau ei bod yn sicrhau hynny. Yn hwyr yn 2015, cyhoeddodd Ofcom fod ganddynt arwerthiant sbectrwm ar y ffordd yn y bandiau 2.3 GHz a 3.4 GHz. Mae hwnnw'n sbectrwm capasiti mawr iawn a bydd yn cael ei ddefnyddio i gynyddu capasiti'r cysylltedd 4G presennol. Rydym yn pwyso ar Ofcom i gynnwys rhwymedigaeth cysylltedd daearyddol yn yr arwerthiant sydd ar y ffordd ar gyfer y sbectrwm 700 MHz, neu os nad yw'n ei gynnwys, i gynnwys rhwymedigaeth amser cyfyngedig i'w roi'n ôl i ni os na chaiff ei gyflawni. Rwyf wedi sôn yn y Siambr o'r blaen am effaith bancio tir yr arwerthiannau sbectrwm, a pha mor anodd yw hynny i ni.
Felly, rydym yn rhoi llawer o bwysau arnynt. Mae rhai pethau eraill yn digwydd. O ran cyflwyno system y Swyddfa Gartref, deallwn fod y ceisiadau cynllunio wedi cyrraedd yr awdurdodau lleol bellach ac yn mynd rhagddynt yn dda. Bydd hynny'n darparu gallu ychwanegol i ymdrin ag ef. Hefyd, wrth gwrs, y fasnachfraint reilffyrdd. Byddwn yn gosod rhwymedigaethau ar ddeiliad y fasnachfraint reilffyrdd i ledaenu signal ffonau symudol ar hyd y rhwydwaith hwnnw, ac rydym yn edrych hefyd ar ein rhwydwaith ffyrdd. Felly, rydym yn defnyddio'r setliad datganoli, fel y mae, hyd eithaf ein gallu ac yn rhoi llawer o bwysau ar Lywodraeth y DU ac Ofcom o ran y ffordd y mae'r diwydiant yn rhoi pethau ar waith. Rydym hefyd yn parhau i gynnal fforwm y cynllun gweithredu ar gysylltedd symudol, a gadeirir gennyf, ac mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn destun ymgynghori ar hyn o bryd ar leoliad a maint mastiau. Felly, ceir llawer o weithgarwch, ond rwy'n rhannu rwystredigaeth yr Aelod o ran yr arafwch a'r anawsterau.
Y peth olaf a ddywedaf yw ein bod wedi targedu pobl sydd wedi'u hallgáu o'r sbectrwm 4G yn ein prosiect band eang Cyflymu Cymru 2, er mwyn ceisio rhoi hwb iddynt mewn ffordd wahanol.