Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 18 Ebrill 2018.
Mae e yn deg i ddweud, wrth gwrs, fod llawer mwy o ryngwyneb rhwng gwasanaethau cyhoeddus ac etholwyr yn digwydd ar-lein, felly rydw i'n meddwl bod y cwestiwn yn ddilys. Mae'n rhaid i mi ddweud: mae nifer o'm hetholwyr i wedi cael llond bol ar yr addewidion gwag maen nhw wedi bod yn eu cael yn y gorffennol gan bobl fel BT Openreach gynt, Openreach erbyn hyn. Mae pentrefi fel Ysbyty Ifan, i bob pwrpas, wedi cael eu camarwain gan gwmni sy'n amlwg â mwy o ddiddordeb mewn gwarchod buddiannau eu cyfranddalwyr nag mewn darparu gwasanaethau i'r cymunedau maen nhw fod i'w gwasanaethu. Ac yn waeth na hynny, mae Llywodraeth Cymru, hyd yn oed, wedi rhoi addewidion ffals i etholwyr, gyda chopïau o lythyrau rydw i wedi eu gweld yn dyddio yn ôl i Dachwedd 2015 yn addo datrysiadau yn y maes yma—un ohonyn nhw gennych chi, gyda llaw, mewn cyd-destun neu mewn rôl flaenorol fel Gweinidog Sgiliau a Thechnoleg, dros ddwy flynedd yn ôl. Felly, pryd fydd y cymunedau gwledig yma, fel Ysbyty Ifan, o'r diwedd yn cael y gwasanaethau maen nhw'n eu haeddu, yn hytrach na'r addewidion gwag maen nhw wedi eu cael dros y blynyddoedd diwethaf?