Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 18 Ebrill 2018.
Wel, mae'n rhaid imi ddweud, hoffwn longyfarch yr Aelod am lwyddo i sicrhau bod band eang yn rhan o'r sgwrs am gynllun gweithredu digidol Llywodraeth Cymru, a chredaf fod nifer o gwestiynau eraill ar hynny yn ddiweddarach ar yr agenda. Ond yr ateb byr yw: byddaf yn gwneud datganiad tuag at ddiwedd mis Mai ar gynnydd prosiect Cyflymu Cymru 2, y tri phrosiect a dendrwyd, a mater y gymuned benodol, a byddaf yn ymhelaethu ar hynny mewn cwestiynau diweddarach, Lywydd.