Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:51, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Nid yw'r mater hwnnw wedi cael ei ddwyn i fy sylw yn uniongyrchol, Mark Isherwood, a buaswn yn croesawu sgwrs hirach gyda chi ynglŷn â lle y codwyd y pryderon hynny. Rwy'n hapus iawn i edrych ar hynny. Yn sicr, ein polisi datganedig yw bod gennym fodel cydgynhyrchu; ein bod yn gweithio gyda'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu er mwyn gwneud yn siŵr fod y gwasanaethau rydym yn eu darparu yn cael eu darparu gyda hwy a chyda'u mewnbwn hwy. Felly, mae eich clywed yn dweud hynny yn peri pryder i mi a buaswn yn croesawu sgwrs gyda chi ynglŷn â lle y codwyd pryderon hynny gan nad ydynt wedi cael eu dwyn i fy sylw'n uniongyrchol.