2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 18 Ebrill 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr iawn. Ac mae yna wahoddiad wedi mynd i'ch swyddfa chi i ddod i Arfon hefyd, os caf ddweud?
Yn ystod y mis diwethaf, yn ystod araith yn Rhydychen, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd yn cynnal adolygiad o bolisïau rhywedd a chydraddoldeb Llywodraeth Cymru a fyddai'n cynnwys, ymhlith pethau eraill, ystyried sut i symud rhywedd i'r blaen wrth wneud bob penderfyniad, gofalu bod cynllunio economaidd yn cyd-fynd â'r rhethreg ar rywedd, a gwneud Cymru, drwy ddeddfwriaeth newydd, y lle diogelaf i fod yn fenyw yn Ewrop gyfan—swnio'n wych, onid ydy, ond beth ydy'r manylion? Pryd fydd yr adolygiad yma yn cychwyn? Pwy fydd yn ei gynnal o? A fydd yna dargedau penodol a deilliannau penodol, a beth fydd pwrpas yr adolygiad yma?
Wel, mae'r cwestiynau i'w croesawu'n fawr ac yn amserol iawn. Rydym newydd gwblhau cytundeb y cylch gorchwyl, ac fe'i rhoddwyd gennyf heddiw yn llyfrgell yr Aelodau, fel y gall pob Aelod eu gweld o heddiw ymlaen. Felly, mae'r cwestiwn yn un amserol iawn. Rydym yn falch iawn ein bod wedi cytuno ar y cylch gorchwyl. Byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad cychwynnol i randdeiliaid, un ar 26 Ebrill ac un ar 3 Mai, lle byddwn yn dod â phob un o'r rhanddeiliaid sy'n weithgar yn y maes hwn ynghyd—un yn ne Cymru ac un yng ngogledd Cymru—i geisio denu cynifer o bobl â phosibl, ac rwyf wedi ysgrifennu at yr holl grwpiau rydym yn ymwybodol ohonynt. Os gwyddoch am unrhyw rai nad ydynt wedi cael unrhyw beth gennym, hoffwn pe baech yn eu hannog i ymateb—nid y bobl y gwyddom amdanynt yn unig rydym yn ceisio eu cyrraedd—a gofynnwch iddynt, pe baent yn gallu gwneud un peth yn y tair blynedd nesaf yn y maes hwn, beth fyddai hwnnw, fel y gallwn gychwyn trafodaeth yn y ddau ddigwyddiad i randdeiliaid ynglŷn â'r blaenoriaethau y mae pobl yn eu nodi. Ac rwy'n falch iawn o ddweud y byddwn yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud yn fuan, yr hyn y gallwn ei wneud yn y tymor canolig a'r hyn a allai gymryd mwy o amser i'w gyflawni fel rhan o'r adolygiad hwn rwy'n falch iawn o'i wneud.
Diolch yn fawr. Rydw i'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y drafodaeth yna. Yng nghyswllt y pwynt a wnaed yn araith y Prif Weinidog yn Rhydychen am greu Cymru fel y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw yn Ewrop gyfan drwy ddeddfwriaeth, rydych yn gwybod, wrth gwrs, mai dyna beth oedd un o'r bwriadau y tu ôl i'r Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ac rydw i'n falch iawn fod yna ychydig o gynnydd rŵan yn digwydd yn sgil materion rydw i wedi eu codi yn y Siambr yma ynglŷn â gweithredu'r Ddeddf honno. Ond mae yna un prif wendid o hyd ynglŷn â'r Ddeddf, onid oes, sef y penodi addysg am berthynas iach? Ac er gwaethaf gwaith diweddar gan y grŵp gorchwyl a gorffen, mae'n edrych fel pe na baem ni'n dal i fod yn nes i'r lan efo hyn, felly. Nid oes dim sôn am beth sy'n mynd i ddigwydd o ran dysgu sylfeini perthynas iach a gosod trafodaeth ynglŷn â beth sy'n ymddygiad derbyniol a beth sydd ddim yn dderbyniol, ac yn y blaen. Felly, mi gollwyd cyfle efo'r Ddeddf. Gobeithio bod yna gyfle rŵan, ond nid wyf i'n gweld cynnydd ar hyn. Beth sydd yn dal pethau yn ôl efo hyn?
Felly, mae'r Aelod, yn briodol, yn nodi mater sydd wedi bod ar feddyliau llawer ohonom ers peth amser. Cyn bo hir bydd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn gwneud datganiad ar addysgu—ni allaf gofio'r union deitl—addysg rhyw a pherthnasoedd, i bob pwrpas. Mae'n bosibl nad dyna'r union deitl, maddeuwch i mi, ond dyna ydyw yn ei hanfod. Rydym wedi bod yn adeiladu ar y prosiectau llwyddiannus a gyflawnir gan Hafan Cymru mewn llawer o ysgolion yng Nghymru mewn perthynas ag addysg rhyw a pherthnasoedd iach. Cefais y fraint o fynychu sesiwn yn un o'n hysgolion cynradd yn y Cymoedd, ac roedd yn anhygoel. Roedd y gwahaniaeth yn y grŵp ar ddechrau'r sesiwn ac ar y diwedd, a'r fenyw ifanc a oedd yn ei addysgu, yn ysbrydoledig. Felly, rydym wedi bod yn edrych i weld a allwn adeiladu ar hynny. Ond bydd fy nghyd-Aelod—nid wyf am ddwyn ei chlodydd—Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud rhai cyhoeddiadau yn fuan iawn.
Wel, rydw i'n falch iawn o glywed hynny ac mae'n hen bryd, os caf fi ddweud. Mae addysg yn allweddol, wrth gwrs, i daclo'r maes penodol yma.
Ddoe, fe soniodd rhai Aelodau yn y Siambr am yr adolygiad o wasanaethau iechyd rhywiol, sy'n tynnu sylw at y loteri cod post sy'n bodoli o ran gwasanaethau erthylu yng Nghymru. Mae'r adolygiad yn dweud hyn: mae gwasanaethau erthylu yng Nghymru yn anghyfartal ac fe all hyn arwain at erthyliadau hwyr neu i fenywod fod mewn sefyllfa lle nad oes ganddynt ddewis ond parhau â beichiogrwydd na fwriadwyd ganddynt. Yn glir, nid yw honno'n sefyllfa dderbyniol. A fydd yr adolygiad mawr yma rydych chi'n mynd i fod yn ei wneud yn mynd ar ôl hyn yn benodol o ystyried bod y ddarpariaeth yn hollol anghyfartal ar hyn o bryd? Mae o'n fater sydd rhaid ymdrin ag o os ydy'r sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn mynd i gael eu cymryd o ddifrif, neu fel arall fe fydd pobl yn meddwl mai geiriau gwag—dataganiad tocenistaidd—i'r wasg a wnaed yn fyrfyfyr yn Rhydychen?
Un o ddibenion yr adolygiad yw edrych ar bolisïau sy'n canolbwyntio ar rywedd ar draws Llywodraeth Cymru. Felly, dyna un enghraifft rydych newydd ei rhoi. Mae llawer o rai eraill yn ymwneud â sut a pham y mae gwasanaethau fel ag y maent yng Nghymru. Un o'r rhai rwy'n ei dyfynnu'n aml yw eich bod yn aml yn gweld gwasanaethau ar gyfer llochesau, er enghraifft, yn datblygu lle mae nifer o bobl wedi gweld yr angen ac wedi dod at ei gilydd ddegau o flynyddoedd yn ôl ac yna rydym wedi parhau â'r gwasanaeth hwnnw yn hytrach na dull sy'n seiliedig ar anghenion ledled Cymru. Nid bod unrhyw beth o'i le ar y gwasanaethau sydd yno, ond nid wyf yn gwbl argyhoeddedig fod gennym y cyrhaeddiad a bod pobl yn cael yr un profiad lle bynnag y maent yn defnyddio'r gwasanaethau hynny, oherwydd y ffordd y cânt eu datblygu a'r ffordd rydym—. Felly, mae hynny'n rhan o bwrpas yr adolygiad. Felly, rydych wedi tynnu sylw at un arall. Mae yna wasanaethau eraill—tynnwyd fy sylw at wasanaethau endometriosis, er enghraifft, ac mae nifer o rai eraill. Felly, ie, diben yr adolygiad yw edrych ar bolisïau ar draws Llywodraeth Cymru ac argaeledd gwasanaethau a chanolbwyntio ar yr hyn y gellid ei wneud i wella hynny.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Mae fy nghwestiynau'n ymwneud â'ch cyfrifoldebau dros gydraddoldeb a hawliau dynol. Ddydd Llun, cynhaliais a siaradais yn nigwyddiad Going for Gold Autistic Acceptance yn y Senedd. Roedd yn ddigwyddiad a arweiniwyd gan oedolion awtistig, lle roeddent hwy—oedolion awtistig huawdl a deallus iawn—yn trafod y meysydd sy'n peri pryder iddynt, ond hefyd yn cyflwyno syniadau ynglŷn â sut y gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd yn gydgynhyrchiol, yn eu geiriau hwy, i sicrhau ein bod yn dechrau mynd i'r afael â'r gwahaniaethu sy'n wynebu pobl awtistig sydd bellach yn arferol yn hytrach nag yn eithriad.
Mynegwyd pryder ganddynt yn benodol nad yw ymwybyddiaeth yn gyfystyr â derbyniad na chydraddoldeb, a dyna lle mae eich rôl chi'n berthnasol i hyn, ac eto ceir pryder cynyddol fod hyfforddiant ymwybyddiaeth awtistiaeth yn gyffredinol, a hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd yn ehangach, ar draws Cymru, yn cael ei arwain yn gynyddol gan bobl nad ydynt yn anabl, sy'n weithwyr proffesiynol mewn proffesiynau meddygol neu ofal gyda ffocws meddygol, sy'n hysbysu pobl am namau pobl anabl a ffyrdd o oresgyn anabledd, tra bod hyfforddiant cydraddoldeb awtistiaeth, fel y dywed y sector, bob amser yn cael ei arwain gan hyfforddwyr sy'n bobl anabl, gyda ffocws ar bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn gweithio gyda'i gilydd i oresgyn y rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl yn y gymdeithas, gan gydnabod y bydd cael gwared ar y rhwystrau corfforol, ariannol ac ymagweddol yn creu cymdeithas fwy cynhwysol a hygyrch.
Sut y byddwch, drwy weithio gyda'ch cyd-Aelodau, yn mynd i'r afael â'r pryderon cynyddol yn y gymuned awtistig, ac yn ehangach ymhlith pobl anabl yng Nghymru, fod yr hyfforddiant ymwybyddiaeth hwn yn cael ei ddarparu hebddynt neu er eu gwaethaf ar fodel meddygol, yn hytrach nag ar y cyd â hwy ar sail gydgynhyrchiol i fynd i'r afael â'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu?
Nid yw'r mater hwnnw wedi cael ei ddwyn i fy sylw yn uniongyrchol, Mark Isherwood, a buaswn yn croesawu sgwrs hirach gyda chi ynglŷn â lle y codwyd y pryderon hynny. Rwy'n hapus iawn i edrych ar hynny. Yn sicr, ein polisi datganedig yw bod gennym fodel cydgynhyrchu; ein bod yn gweithio gyda'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu er mwyn gwneud yn siŵr fod y gwasanaethau rydym yn eu darparu yn cael eu darparu gyda hwy a chyda'u mewnbwn hwy. Felly, mae eich clywed yn dweud hynny yn peri pryder i mi a buaswn yn croesawu sgwrs gyda chi ynglŷn â lle y codwyd pryderon hynny gan nad ydynt wedi cael eu dwyn i fy sylw'n uniongyrchol.
Wel, diolch i chi am hynny. Edrychaf ymlaen at y sgwrs honno. Efallai y gallech, yn eich ateb, ddweud wrthyf a ydych eisiau i mi gysylltu gyda chi neu fod eich swyddfa'n cysylltu—
Byddaf yn gofyn i fy swyddfa gysylltu â chi.
Mae'n ddrwg gennyf?
Byddaf yn gofyn i fy swyddfa gysylltu â chi.
Diolch yn fawr iawn.
Wel, ar bwnc tebyg, ac unwaith eto, ar fater cydraddoldeb, yn gynnar y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei gwerthusiad o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig a'r cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r—gair rwy'n gobeithio y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i'w ddefnyddio; 'cyflwr' ddylai'r gair fod—sbectrwm awtistig: adroddiad interim, a gwelodd fod gwendidau ac anghysondebau yn y gwasanaethau asesu a'r gwasanaethau diagnostig i oedolion ag awtistiaeth a'r gwasanaethau cymorth ar gyfer oedolion a phlant sydd ag awtistiaeth, ac er bod llwyddiant yn galw am ddull cydgynhyrchiol sy'n cynnwys staff, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn y modd y caiff y gwasanaeth ei gynllunio, ei weithredu a'i werthuso, dywedodd:
Mae yna bryderon bod y dull "o'r brig i'r bôn"...wedi mygu hyn
Unwaith eto, o'r digwyddiad ddydd Llun, ac yn fwy cyffredinol, mae'r gymuned yn teimlo bod hyn yn tanseilio eu cydraddoldeb a'u hawliau dynol. Mae'n fwy na systemau; mae'n fwy na gwasanaethau; mae'n fater sy'n seiliedig ar hawliau. Unwaith eto, felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno i ystyried y mater hwn yn ehangach ac o bosibl, yn y cyfarfod rydych yn ei gynnig.
Yn sicr. Nid yw'r gwasanaethau a grybwyllwyd gennych yn fy mhortffolio mewn gwirionedd, ond rwy'n fwy na pharod i drafod gyda'r Aelod sut y gallwn ddatblygu hynny gyda nifer o Ysgrifenyddion Cabinet sy'n cymryd rhan.
Ac mae fy nghwestiwn olaf, unwaith eto, yn dilyn thema debyg, mae gennyf—mae llawer mwy o bobl yn dwyn hyn i fy sylw, oherwydd fy mod yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth mae'n debyg—lwyth achosion cynyddol o deuluoedd lle y gwrthodir asesiad a diagnosis awtistiaeth i blant, yn enwedig merched, a hynny oherwydd camsyniadau ynghylch sut y mae awtistiaeth yn amlygu ei hun. Mae gennyf enghraifft yma gan yr Inns of Court College of Advocacy, y mae eu canllawiau eu hunain yn dweud y gall menywod sydd ag awtistiaeth ymddangos yn fwy cymdeithasol na'u cymheiriaid gwrywaidd. Awgrymwyd bod menywod a merched ag awtistiaeth yn cymryd rhan yn well mewn sefyllfaoedd cymdeithasol oherwydd eu bod yn debygol o arsylwi a dynwared eraill yn eu sgiliau cymdeithasol a'u defnydd o iaith. Gall strategaethau o'r fath guddio unrhyw anawsterau sydd ganddynt a gwneud iddynt ymddangos yn fwy abl nag y maent mewn gwirionedd.
Mae gennyf nifer cynyddol o achosion, lle mae byrddau iechyd ac ysgolion yn gweld y mwgwd yn hytrach na'r person, ac mae mwy a mwy o'r merched hyn a'u teuluoedd—mae rhieni rhai ohonynt ar y sbectrwm yn ogystal—yn dioddef problemau gorbryder difrifol, iselder, absenoldeb o'r ysgol, tangyflawni, ac er gwaethaf hynny, maent hwy, a minnau pan fyddaf yn eu cynrychioli, yn cael ymateb cwerylgar ac anghynhyrchiol gan y cyrff statudol. Gwn fod hyn yn cwmpasu briffiau ar wahân i'ch rhai chi, ond unwaith eto, mae'r rhieni hyn, a'r plant pan fyddaf yn eu cyfarfod, yn dweud wrthyf fod hyn yn tanseilio eu hawliau dynol. Ac unwaith eto, rwy'n gobeithio y byddwch yn cadarnhau y byddwch yn ystyried mynd i'r afael â'r pryderon hyn oherwydd maent yn achosi niwed go iawn i fywydau go iawn.
Rwy'n ymwybodol iawn o gamsyniadau ynglŷn â sut y mae plentyn sydd ar y sbectrwm awtistig yn ymddangos. Gwn fod yr Aelod yn ymwybodol fod gennyf achos yn fy nheulu fy hun, sydd ar flaen fy meddwl.
Rwy'n fwy na pharod, fel rhan o'n trafodaeth, i gynnwys fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r gwasanaethau, ac rwy'n credu bod y rhan fwyaf ohonynt yn wasanaethau addysg yn ogystal mae'n debyg. Felly, os cawn y sgwrs honno, rwy'n fwy na pharod i fwrw ymlaen â hynny.
Hoffwn ailadrodd nad yw'r pryderon hynny wedi cael eu dwyn i fy sylw yn uniongyrchol, ond rwy'n fwy na pharod i fynd i'r afael â hwy.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Drwy gyd-ddigwyddiad llwyr, mae fy nghwestiwn yn dilyn rhai o'r pethau a godwyd gan Sian Gwenllian yn gynharach.
Ym mis Ebrill 2015, pasiodd y Cynulliad Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Roedd hon yn ddeddfwriaeth ganmoladwy a luniwyd i ddiogelu, yn benodol, dioddefwyr benywaidd cam-drin domestig. Fel gydag unrhyw ddeddfwriaeth, mae'n ddyletswydd arnom i gwestiynu ei heffeithiolrwydd ar ôl cyfnod o amser. A yw arweinydd y tŷ yn credu bod y Ddeddf yn cyflawni ei nodau?
Mae'n ddyddiau cynnar ar y Ddeddf o hyd, wrth gwrs; nid ydym ond newydd benodi'r ymgynghorwyr cenedlaethol newydd. Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd hynod o ddefnyddiol ac adeiladol gyda hwy, gan gynnwys cyfarfod hanner diwrnod pan fuom yn trafod yr ystod o wasanaethau sy'n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd a beth sydd angen ei wneud i sicrhau eu bod yn gweithio mewn ffordd fwy cydweithredol. Yr wythnos hon, cefais y fraint o fynychu lansiad Consortiwm Seren Fôr ym Mae'r Gorllewin, sy'n croesawu'r dull cydweithredol hwnnw o ganlyniad i'n canllawiau cenedlaethol newydd. Felly, credaf fod y Ddeddf yn profi ei gwerth.
Roedd y cychwyn yn araf, fel y crybwyllodd Sian Gwenllian, ond credaf ein bod wedi cyrraedd bellach. Rydym ar fin cyhoeddi ein canllawiau ariannu cynaliadwy yn ogystal. Felly, credaf fod y Ddeddf yn un y gallwn fod yn falch iawn ohoni, ac mae'n dechrau gwneud y gwahaniaeth rydym yn disgwyl ac eisiau iddi ei wneud.
Diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb cynhwysfawr, ond nid yw'r ffigurau mewn perthynas â thrais rhywiol a cham-drin domestig yn galonogol o gwbl. Ym mis Mawrth 2017, dangosodd y data gynnydd o 23 y cant yn y math hwn o droseddu dros y tair blynedd flaenorol. Hyd yn oed o ystyried bod pobl yn fwy parod i roi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath, mae'n dal i ddangos tueddiadau sy'n peri pryder. Fodd bynnag, yr hyn sy'n peri llawer mwy o bryder yw'r diffyg arian ar gyfer ymyriadau wedi i ddioddefwr wneud y penderfyniad dewr i adael y cartref lle y digwyddodd y cam-drin domestig, weithiau dros flynyddoedd lawer. Mae ffigurau'n dangos bod 47 y cant o ddioddefwyr o'r fath wedi cael eu gwrthod gan lochesau oherwydd diffyg llety. O ystyried bod y llochesau hyn yn chwarae rôl hanfodol yn helpu pobl i ddianc rhag trais domestig, a yw arweinydd y tŷ yn teimlo bod y cyllid yn ddigonol?
O na bai'n ddigonol. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn gynharach mewn ymateb i gwestiwn, canlyniad blynyddoedd o gyni Llywodraeth Geidwadol yw hyn. Mae gennym lai a llai o arian flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae gennym lai a llai o arian. Nid oes unrhyw ddewisiadau hawdd. Nid ydym byth yn torri rhywbeth nad yw'n gweithio. Mae pob un o'r gwasanaethau hyn yn hanfodol. Nid ydym mewn unrhyw—. Ni allaf ddweud bod y cyllid yn ddigonol, gan ei bod yn hollol amlwg nad yw'n ddigonol, ac ar ôl y nifer fawr o doriadau y bu'n rhaid i ni eu hysgwyddo flwyddyn ar ôl blwyddyn, nid yw'n syndod.
Wel, unwaith eto, diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb, ond y gwir cas amdani yw bod asiantaethau megis Uned Ddiogelwch Cam-drin Domestig a Cymorth i Fenywod Cymru yn datgan, ymhell o fod cyllid yn ddigonol i ariannu llochesau ychwanegol, maent bellach yn ofni y bydd rhai llochesau'n gorfod cau. Felly, a yw symud cyllid o'r prosiectau hyn i awdurdodau lleol yn ddewis amgen synhwyrol, o ystyried y posibilrwydd o frigdorri'r ffynhonnell hanfodol hon ar gyfer costau gweinyddol?
Iawn, nid dyna a wnawn; nid ydym yn symud y cyllid i awdurdodau lleol. Yr hyn rydym yn ei wneud yw bod gennym ddull rhanbarthol cydgysylltiedig o ariannu'r gwasanaethau hyn. Fel y dywedais mewn ateb blaenorol, mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n briodol ac yn ddigonol ar draws Cymru, i bob un o fenywod Cymru heb ddibynnu ar loteri cod post o unrhyw fath. Felly, fel rhan o'n hadolygiad cyflym, byddwn yn dadansoddi pam a lle mae'r gwasanaethau hynny, ac a ydynt yn ddigonol i gyflawni eu tasg.
Rydym hefyd yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod yn datrys yr holl broblemau eraill yn ogystal. Felly, mae'n broblem sy'n ymwneud â goroeswyr, mae yna broblem sy'n ymwneud ag amddiffyn pobl sy'n ffoi rhag trais domestig uniongyrchol, ond mae yna broblem fawr mewn perthynas â hyfforddiant, mewn perthynas ag atal, ac mewn perthynas â throseddwyr yn ogystal, problemau sy'n rhaid rhoi sylw iddynt yn rhan o'r agenda hon hefyd. Felly, mae 70,000 o bobl wedi astudio ein cwrs e-ddysgu codi ymwybyddiaeth hyd yma, ac rydym yn cyflwyno ein hyfforddiant 'gofyn a gweithredu' ar gyfer gweithwyr proffesiynol rheng flaen. Roedd yn fraint fawr cael ymweld â'r gwasanaeth tân yn ddiweddar, sef y gwasanaeth tân Rhuban Gwyn cyntaf yn y DU, a chael gweld, drosof fy hun, eu hyfforddiant 'gofyn a gweithredu' ar gyfer pob un o'u gweithwyr proffesiynol rheng flaen, oherwydd atal yw'r ateb go iawn i hyn, er fy mod yn derbyn yn llwyr fod yn rhaid i ni ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl mewn perygl uniongyrchol o niwed yn ogystal.